English version available here.
Disgwylir i 2020 fod yn flwyddyn fwy byth ar gyfer dyfodol ein planed gydag amrywiaeth o gynadleddau bioamrywiaeth pwysig yn cael eu cynnal lle bydd targedau newydd yn cael eu gosod ar gyfer adferiad natur. Ond cyn i ni fwrw golwg ar yr hyn rydyn ni wedi ei gyflawni eleni, gadewch i ni edrych yn ôl ar flwyddyn ymgyrchu fwyaf RSPB Cymru eto.
Y penderfyniad pwysig ar yr M4
Dyma’r penderfyniad rydym wedi bod yn aros degawdau amdano. Ar 4 Mehefin, cyhoeddwyd na fyddai caniatâd yn cael ei roi ar gyfer ffordd liniaru ddinistriol yr M4. Er bod y penderfyniad ei hun yn ddigon o achos dathlu, roedd y ffaith iddo gael ei ganslo ar sail amgylcheddol i raddau helaeth yn golygu ei fod yn benderfyniad pwysicach fyth i ni yma yn RSPB Cymru.
Nid oes amheuaeth y byddai bwrw ymlaen â'r ffordd liniaru wedi bod yn drychinebus i fywyd gwyllt Gwastadeddau Gwent. Yn gartref i rywogaethau prin fel y gardwenynen fain a llygoden bengron y dŵr, mae’r ardal yn gartref i lawer o adar hefyd, gan gynnwys glas y dorlan, y dylluan wen a'r garan. Yn ogystal ag achub cartref rhai rhywogaethau anhygoel, mae'r penderfyniad wedi gosod cynsail ragorol ar gyfer dyfodol bywyd gwyllt Cymru yn 2020 a thu hwnt.
Streic Hinsawdd Fyd-eang
Ar 20 Medi, gwelsom filiynau o bobl ledled y byd yn cerdded y strydoedd i alw am ateb i'r argyfwng hinsawdd, ac roedden ni yno hefyd! Mewn eiliad bwysig i ni fel sefydliad, ymunodd staff â streicwyr mewn dinasoedd ledled y Deyrnas Unedig i ddangos undod a'n cefnogaeth i weithredu dros natur. Chwaraeodd y streic fyd-eang ran bwysig wrth adeiladu ar y momentwm mae Youth Strike 4 Climate a grwpiau eraill fel Gwrthryfel Difodiant wedi helpu i'w ddatblygu eleni, gan annog y rhai sy'n gwneud penderfyniadau i gymryd camau brys i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Yng Nghaerdydd, ymunodd y cadwraethwr ifanc Dan Rouse â ni, a helpodd ni i grynhoi’r diwrnod ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ei wneud yn ddiwrnod a fydd yn sicr yn cael ei gofio am amser hir i ddod.
Diwrnod Gad Natur Ganu
Yn dilyn llwyddiant ysgubol ein sengl Gad Natur Ganu yn gynharach eleni, daethom â chân adar i sylw hyd yn oed mwy o bobl ar 17 Hydref diolch i’n diwrnod Gad Natur Ganu. Ymunodd bron i gant o fusnesau ledled Cymru ar y diwrnod drwy chwarae caneuon adar, gan gynnwys Trafnidiaeth Cymru, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, y Senedd, Techniquest a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Ar y diwrnod cynhaliom ddigwyddiad i blant yn adeilad eiconig Canolfan Mileniwm Cymru, gan roi cyfle iddyn nhw fod yn greadigol wrth wrando ar rai o gerddorion gorau byd natur. Fe aethon ni hefyd â’r digwyddiad i Ŵyl Sŵn Caerdydd y penwythnos canlynol, lle gwnaethom gynnal disgo distaw, gan roi cyfle i’r rhai a oedd yno ymlacio a gwrando ar fath gwahanol o gerddoriaeth. Fe wnaeth y digwyddiad ledled y Deyrnas Unedig helpu i ddod â chân yr adar i sylw mwy na phum miliwn o bobl, fel rhan o'n gwaith parhaus i godi ymwybyddiaeth o ddirywiad byd natur.
Gwella deddfau ar gyfer natur
Yn ogystal ag ymuno â ni i ddathlu penderfyniadau pwysig a chymryd rhan mewn rhai digwyddiadau nodedig, fe wnaeth ein hymgyrchwyr hefyd ein helpu i weithredu a galw ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau i gyflwyno deddfau natur newydd pwysig.
Fe wnaeth mwy na 1,000 ohonoch chi alw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ein safonau amgylcheddol presennol yn parhau ac yn cael eu gwella ar ôl Brexit. Roedd hyn yn ffordd dda o ddangos i Llywodraeth Cymru fod yna gefnogaeth i wella amddiffyniad ein hamgylchedd a threfniadau llywodraethu amgylcheddol, pe na bai'r Deyrnas Unedig bellach yn gallu cyrchu swyddogaethau'r Comisiwn Ewropeaidd a Llysoedd Cyfiawnder Ewrop ar ôl Brexit.
Yn fuan ar ôl i un ymgynghoriad gau agorodd un arall, ac fe wnaethom lansio e-weithredu yn Sioe Frenhinol Cymru ar 22 Gorffennaf gyda chymorth Iolo Williams yn galw ar ffermio sy’n gyfeillgar i fyd natur ddod yn norm. Ymatebodd bron i 2,000 ohonoch, gan anfon neges glir at Lywodraeth Cymru y dylid rhoi natur wrth wraidd ein polisïau ffermio a rheoli tir yn y dyfodol, a chydnabod rôl ffermwyr a rheolwyr tir wrth wyrdroi dirywiad byd natur.
Gyda 2019 yn dirwyn i ben, hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bob un ohonoch sydd wedi helpu i'w gwneud yn un o'n blynyddoedd mwyaf ysbrydoledig eto. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio eto yn 2020, mewn blwyddyn sy'n argoeli i fod yn flwyddyn fawr i fyd natur a'r amgylchedd - Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda!