Helpwch ni i Roi Llais i Natur yr Hydref hwn

English version available here.

Yn dilyn llwyddiant ysgubol ein sengl Gad Natur Ganu, a aeth i rif 18 yn y siartiau yn gynharach eleni, rydyn ni’n gobeithio y bydd hyd yn oed mwy o bobl yn clywed cân yr adar yn ystod yr hydref eleni.

Byddwn yn chwarae cerddoriaeth byd natur mewn mannau cyhoeddus ledled y DU ar 17 Hydref fel rhan o’n gwaith parhaus i godi ymwybyddiaeth o’i dirywiad. Mewn siopau a gweithleoedd a thu hwnt, rydyn ni’n gobeithio y bydd cân yr adar yn cyrraedd dros bum miliwn o bobl ym mhob cwr o’r wlad.

Pam?

Mae bron i hanner bywyd gwyllt y DU yn dirywio, ac mae traean o’r rhywogaethau adar yng Nghymru dan fygythiad ar hyn o bryd. Mae llais natur mewn perygl o fynd yn fud am byth. Dyma pam rydyn ni eisiau dathlu ein cysylltiad â natur cyn iddi fynd yn rhy hwyr, drwy rannu cân yr adar â chymaint o bobl â phosib. 

Ble alla i glywed cân yr adar?

Bydd canu croch i'w glywed ym Mae Caerdydd a bydd adeilad eiconig Canolfan Mileniwm Cymru yn un o'r safleoedd fydd yn cael ei ddefnyddio. Bydd ein tîm Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghanolfan y Mileniwm o 10yb - 12yp ar yr 17eg, i roi cyfle i blant bach fod yn greadigol a gwrando ar rai o gerddorion gorau byd natur. Bydd bwytai megis Carluccios a Cadwaladers hefyd yn cymryd rhan, ynghyd ag Aquabus yn y Bae.

Dyma rai o’r lleoliadau a'r cwmnïau adnabyddus eraill a fydd yn darlledu caneuon adar ar y diwrnod:

  • Trafnidiaeth Cymru (gan gynnwys gorsafoedd Abertawe, Casnewydd, Cyffordd Llandudno, Llanelli, Caerfyrddin ag Amwythig)
  • Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
  • Techniquest
  • ICC Wales
  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
  • Amgueddfa Lechi Cymru
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
  • Swyddfeydd BT yng Nghaerdydd ag Abertawe

Byddwn hefyd yng Ngŵyl Sŵn Caerdydd dros y penwythnos (18 - 20 Hydref) lle bydd ymwelwyr yn cael cyfle i gael seibiant o’r ŵyl drwy ymlacio i fath gwahanol o gerddoriaeth.

Bydd yr ŵyl boblogaidd yn cael ei chynnal ar draws deg o leoliadau yng nghanol dinas Caerdydd, lle bydd cân yr adar yn cael ei chwarae rhwng setiau. Byddwn hefyd yn cymryd rhan mewn digwyddiad cyffrous ‘Dim Sŵn’ yng Nghlwb Ifor Bach ar y nos Sadwrn, fydd yn cynnwys disco tawel cân yr adar a chyfle i bobl ymlacio mewn nyth adar anferth!

Beth alla i ei wneud i helpu?

Rydyn ni wrthi’n trafod ag amryw o leoliadau a busnesau cyffrous ledled Cymru, ac yn annog cymaint ohonynt â phosib i gymryd rhan. Os ydych chi’n berchennog busnes neu’n gweithio mewn cwmni a allai fod â diddordeb, mae angen eich help chi arnom ni. Drwy groesawu cân yr adar, neu annog eich gweithle i wneud hynny, byddwch yn ein helpu ni i Roi Llais i Natur!

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am yr Ymgyrch Rhoi Llais i Natur a sut gallwch chi gymryd rhan.