Help yn yr hydref i'n bywyd gwyllt

English version available here

A ninnau ar drothwy tywydd oerach yr hydref, mae’n anodd iawn ffarwelio â chynhesrwydd a heulwen yr haf. Ond peidiwch ag anghofio fod yna rai pethau sydd yn haws i ni eu gwneud yn yr hydref - nid yn unig er ein mwyn ein hunain, ond er budd bywyd gwyllt wrth i ni edrych am ffyrdd i’w helpu yn ystod y misoedd oerach sydd i ddod. 

Creu hafan i’n hanifeiliaid

Un o’r pethau cyntaf welwn ni wrth iddi droi yn hydrefol yw’r dail yn newid eu lliw ac yn syrthio oddi ar y coed. Ac os oes gennych ardd, efallai fod yna demtasiwn i gael gwared ar y niferoedd ddail sydd yn casglu ar eich lawnt a’u taflu i’r bin garddio yn syth – ond peidiwch da chi! Gall y dail yma fod yn hafan arbennig i ddraenogod, brogaod a channoedd o bryfetach. Gwnewch dwmpath o ddail mewn congl o’r ardd, a gwyliwch mewn rhyfeddod wrth iddo ddod yn fyw, yn llawn creaduriaid bach a mawr!

 

Casgla mewn casgen!

Gŵyr pob un ohonom fod defnyddio llai o ddŵr yn yr ardd yn helpu i leihau ein biliau a gwarchod bywyd gwyllt ein gwlypdiroedd.  Ond wrth gwrs, mae sawl un ohonom am ofalu am ein planhigion a blodau, yn enwedig os ydym yn hau blodau gwyllt yn yr hydref ac am sicrhau eu bod yn ffynnu ac yn helpu ein peillwyr erbyn y daw’r gwanwyn. Dyna pam y gallech ystyried gosod casgen ddŵr yn eich gardd. Mae sawl math o gasgen ar gael ar gyfer gerddi o bob maint, ond gall casgen arferol ddal oddeutu 200 litr o ddŵr.  

 

Twll i bwll

Dyma awgrym i’r arbenigwyr DIY yn eich mysg. Yn yr hydref, mae’n dueddol o fod yn haws gwneud tyllau yn yr ardd; ac os oes gennych le, beth am greu pwll? Efallai y sylwch chi ar bryfaid hofran a gweision y neidr yn cael eu denu ato ar y dechrau, ond o fewn y flwyddyn, gallai fod yn fwrlwm o frogaod, llyffantod a madfallod dŵr.

Ray Kennedy (rspb-images.com)

Ffos a ffin

Ydi tyllu yn apelio ond creu pwll i weld yn ormod o dasg? Gallai hyd yn oed tyllu ffos fas neu gornant greu cartref i amryw o greaduriaid. Bydd creu nodwedd gefn gwlad fel hon yn eich gardd yn darparu digonedd o fwydod a phryfaid i’r aderyn du a’r fronfraith, ac yn cynnig llwybr diogel i ddraenogod ac ymlusgiaid bychain. Gallai’r ffos hyd yn oed droi’n bwll bach yng nghyfnodau gwlypach yr hydref a’r gaeaf.

 

Môr o liw

Mae’r pabi a’i liw coch llachar nid yn unig yn ffefryn gennym ni ymysg ein blodau gwyllt, ond hefyd yn ffefryn gan ein peillwyr. A dyma’r amser perffaith i hau’r hadau gan fod y pridd, sydd dal yn gynnes ar ôl yr haf, a’r gwlybaniaeth ychwanegol yn yr aer hydrefol yn helpu iddynt egino. Mae planhigion blynyddol sydd yn tyfu’n sydyn yn troi o fod yn hedyn i fod yn sioe o flodau mewn ychydig fisoedd. Mae’n broses syml a gall y canlyniad fod yn drawiadol.

Cewch fwy o weithgareddau gwych i helpu eich gardd neu falconi i fod yn garedicach i natur drwy ymweld â’n gwefan Natur ar garreg y drws.