English version available here
Gyda gwarchodfeydd natur ledled Cymru wedi cau i ymwelwyr, a gwaith y rhan fwyaf o’n wardeiniaid ar stop yn ystod y cyfyngiadau symud, mae un criw o 'wardeiniaid gwarchod' wedi parhau â'u gwaith. Yn wir, diolch i'n bridiau Cymreig brodorol mae natur wedi parhau i wneud ei ran ar ein gwarchodfeydd.
Mae pori anifeiliaid yn ddull effeithiol iawn o warchod cynefinoedd prin bywyd gwyllt. O'r defaid Ynysoedd Helen a Chymreig yn RSPB Ynys Lawd ac RSPB Ynys Dewi, i ferlod brodorol y Carneddau, o ferlod mynydd RSPB Ynys Hir a Chonwy i wartheg duon Cymreig Llyn Efyrnwy - maen nhw i gyd yn gwneud eu rhan i warchod bywyd gwyllt.
Mwy na mynd drot-drot Yn RSPB Ynys-hir mae gennym 17 o Ferlod Mynydd. Yn fyr a gwydn, maen nhw'n siwtio porfa fras y warchodfa i'r dim.
Ar Foel Fawr mae cynefinoedd ffridd traddodiadol sy'n frithwaith o redyn, gwair a phrysg. Yma, ac yn rhywogaethau sy'n prinhau, mae corhedydd y coed, crec yr eithin, troellwr mawr, a gloÿnnod byw brith, pob un angen amrywiaeth o gynefinoedd agored a phrysg isel.
Ar ein cors mae pori ysgafn yn berffaith i greu'r cynefin gorau i'r sioncyn corsfrwyn ac ar y corstir mae pori'r merlod yn ddigon i warchod rhag gordyfiant brwyn a gweiriau. Ond wedyn, mae'n hanfodol ein bod yn cynnal cydbwysedd fel nad yw'r pori'n rhy ddwys ac yn niweidio'r cynefin prin sydd ei angen ar y troellwr bach - un o'n rhywogaethau prinnaf ac anodd ei weld.
Ar ein gwlypdiroedd isel, mae ein tenant hefyd yn rheoli'r gwartheg sy'n pori'r tir fel bod y glastir hwnnw'n gynefin berffaith i'r gornchwiglen a'r pibydd coesgoch sy'n nytho yno.
Mae'r defaid morfa heli, a'u pori haf, yn cadw'r glastir yn agored i bob math o blanhigion a fyddai'n cael trafferth pe bai'r tyfiant yn twchu.
Yn RSPB Conwy, mae merlod y Carneddau yn gwneud gwaith tebyg. Mae cadw'r gwair yn isel yn annog rhai adar i nythu yno, adar fel y gornchwiglen a'r pibydd coesgoch. Yn ystod y gaeaf mae'r merlod yn pori ar y brwyn a'r drain ac yn eu cadw rhag lledaenu.
Rhan o'r gwaith hanfodol, dyddiol ar y warchodfa yw cadw golwg ar les yr wyth merlen a phedwar ebol sydd yno. Yn yr 16eg ganrif roedd brenin Harri VIII eisiau gwella brîd ceffylau felly, dan y Ddeddf Bridiau Ceffylau 1535, gorchmynnodd bod pob stalwyn dan 15 llaw a phob caseg dan 13 llaw yn cael eu difa. Fe fyddai merlod y Carneddau wedi bod ar y rhestr honno ond diolch i fryniau a mynyddoedd Cymru cafodd y merlod le i guddio rhag swyddogion y brenin!
Y defaid swil a dyfal
Mae defaid wedi bod yn gofalu'n dda am ein gwarchodfeydd cefn gwlad. Ar Ynys Môn, ar RSPB Ynys Lawd, mae ein diadell o ddefaid Ynysoedd Heledd yn cadw'r tyfiant i lawr a chlirio'r haen dew o wair fel bod hadau ar y llawr yn cael digon o olau'r haul i dyfu. Unwaith bydd y blodau hynny'n tyfu maent yn denu gloÿnnod byw, gwenyn a phryfed eraill.
Ers y 18fed ganrif mae tua 80% o rostiroedd Prydain wedi eu colli yn sgil datblygu tir, gwella amaethyddol a gadawiad y tir. Golyga hyn fod rhostir RSPB Ynys Lawd yn hynod o arbennig, prinnach na fforest law!
Mae'n gynefin hanfodol i'r frân goesgoch, brin, sydd dan fygythiad gyda'r rhostir is yn ffynhonnell fwyd pwysig. Mae hefyd yn gartref i amrywiaeth o blanhigion prin ac yn cynnal ystod eang o infertebratau fel y gloÿnnod gleision serennog hardd.
Mae defaid Ynysoedd Heledd yn ffynnu ar borfa isel mewn nitrogen ac felly'n frîd perffaith i bori rhostir. Mae'r defaid ar RSPB Ynys Lawd yn cael eu 'bugeilio'n agos' - mae Denise, ein warden, yn cadw golwg ar y defaid gyda GPS i nodi ble maen nhw'n pori, pa mor aml ac am ba hyd.
Ar RSPB Ynys Dewi, mae Greg y Rheolwr safle wedi aros ar yr ynys yn ystod y cyfyngiadau i ofalu am ddefaid yr ynys. Fel ar Ynys Lawd mae'r defaid yn creu cynefin perffaith i'r boblogaeth genedlaethol bwysig o frain coesgoch fwydo.
Mae'r frân goesgoch wedi cynyddu yn ei niferoedd er i'r RSPB brynu Ynys Dewi yn 1992 ac yn 2019 recordiwyd 11 pâr, sy'n record i'r ynys. Eleni mae 10 pâr yno, sy'n gwneud 2020 yr ail fwydyn mwyaf llwyddiannus i'r warchodfa.
Mae'r defaid yn pori’n isel iawn fel bod brain coesgoch yn cael procio a chwilio'r pridd i ganfod infertebratau fel larfau chwilod. Os yw'r gwair yn rhy hir, ni all pig y frân goesgoch gyrraedd y pridd ac mae gwair sy'n rhy hir hefyd yn oeri'r pridd sydd yn anffafriol iawn i'r infertebratau.
A hithau'r gwanwyn sychaf ers 15 mlynedd mae'r gwair wedi aros yn weddol fyr a heb dyfu rhyw lawer dros y gaeaf, sy'n golygu bod yn rhaid i Greg fwydo'r defaid.
Mae edrych ar eu holau hefyd yn golygu tynnu cynrhon a thrin y defaid â chwistrell gwrth-bryfed. Hyd nes byddwn yn eu cneifio fis Mehefin maen nhw'n agored i effaith pryfed yn dodwy wyau arnynt. Mae'r wyau'n esgor ar gynrhon sy'n deor ar y croen ac yn bwyta'r ddafad yn fyw! Fe ddylai'r chwistrell eu gwarchod am chwe mis tan adeg cneifio. Ni allwn eu cneifio cyn hynny gan ei bod yn rhy oer ac ar wahân i'r ffaith bod y defaid ei angen y cnu ar eu cefnau nid yw'r cnu'n 'codi' yn dda ar gyfer ei gneifio tan fis Mehefin beth bynnag.
Yn y llun mae Molly, un o ddefaid 'arbennig' Ynys Dewi. Hi oedd yr oen swci cyntaf a fagwyd â llaw pan gychwynnodd y warchodfa wyna yn 2008. Mae Molly bellach yn 12 oed!
Draw yng nghanolbarth Cymru, yn RSPB Llyn Efyrnwy Dŵr Cymru sy'n rheoli'r tir sydd o amgylch fferm Tŷ-Llwyd, ar ran y perchnogion Hafren Dyfrdwy.
Mae rheoli'r fferm organig fwyaf yng Nghymru, gyda miloedd o ddefaid mynydd Cymreig, 120 o wartheg duon Cymreig a 40 o ferlod mynydd Cymreig wedi golygu nad yw'r tîm yno wedi cael tynnu eu troed oddi ar y sbardun ers cychwyn y cyfyngiadau ar symud. Cychwynnodd y cyfnod o ddod 3,000 o ŵyn i'r byd ddiwedd Mawrth a daeth i ben yn gynnar ym mi Mai - cyfnod gwyllt-gwallgof!
Aiff y rhan fwyaf o'r defaid a'u hŵyn i ben y mynydd yn yr wythnosau nesaf i helpu cadw trefn ar gynefinoedd a chefnogi rhai rhywogaethau fel y boda tinwyn sydd wrthi'n magu yno.
Mae'r gwartheg duon Cymreig yn pori'n wahanol i'r defaid gan greu brithwaith o gynefinoedd gwahanol sy'n denu gloÿnnod byw. Mae tystiolaeth yn dangos bod corhedydd y waun yn dodwy wyau mwy lle bu gwartheg yn profi. Mae tail y gwartheg yn cynnal llawer o bryfaid sy'n fwyd maethlon i gorhedydd y waun, sydd yn ei dro'n fwyd i'r cudyll bach.
Mae ffermio clên â natur ar ein gwarchodfeydd yn cadw cynefinodd ar gyfer bywyd gwyllt yn iach, ac o fudd hefyd drwy sicrhau dŵr ac aer glân, storio carbon a lleihau risg o lifogydd.
Hoffwn atgoffa pawb bod ei gwarchodfeydd yn dal ar gau i'r cyhoedd. Mae hyn yn dilyn cyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru i ni aros adref ar wahân i wneud rhai gweithgareddau. Arhoswch yn iach ac yn ddiogel ac edrychwn ymlaen at eich gweld pan fydd yn ddiogel i ni wneud hynny. Diolch am eich cefnogaeth barhaol wrth i'n gwaith hanfodol o warchod natur barhau.