Helô i'r Hydref!

English version available here

Wrth i’r nosweithiau fyrhau yn ystod yr hydref, awgrymir yn aml bod natur yn ‘mynd i gysgu’. Er bod y tymheredd yn gostwng a’r tywydd yn troi, a hithau i weld yn dawelach ac yn fwy llonydd y tu allan, gall hyn i gyd fod ychydig yn gamarweiniol. Dyma bum nodwedd natur i gadw llygad amdanynt yn ystod yr hydref!

Sgrech y Coed, yr aelod mwyaf lliwgar o deulu’r brain, gyda phlu pinc a chrib las a du amlwg. Er eu bod yn swil, cewch ddigon o gyfle i’w gweld yn ystod y misoedd oerach hyn, wrth iddyn nhw gasglu a storio mes. Er nad dyna’u bwriad, mae Sgrechod y Coed yn wych am blannu coed. Maen nhw’n gallu cofio miloedd o fannau lle maen nhw wedi plannu mes, ond mae rhai’n mynd yn angof – sy’n aml yn golygu y bydd coed yn tyfu yn sgil hynny! Mae llawer o Sgrechod y Coed i’w gweld yng Nghymru yn ystod yr hydref wrth iddynt fentro i’r gorllewin o’r ochr arall i’r ffin yn Lloegr, gan chwilio am hinsawdd gynhesach. Fodd bynnag, pan fyddant yn cyrraedd ein harfordir gorllewinol ni, maent yn amharod i groesi môr Iwerddon, ac felly’n bodloni ar ein croeso Cymreig!

Er ein bod yn gyfarwydd â gweld y Fwyalchen a’r Fronfraith drwy gydol y flwyddyn, bydd aelodau eraill o deulu’r fronfraith yn ymweld yn ystod y misoedd oerach. Bydd Cochion dan Adain yn cyrraedd o ddwyrain Ewrop am y gaeaf – ac ar nosweithiau llonydd, o fis Hydref ymlaen, gellir clywed cân Cochion yr Adain ar yr awel hydrefol. Fel mae’r enw’n awgrymu, mae eu plu’n drawiadol. Fe welwch y marciau coch amlwg o dan yr adain, yn ogystal â chôt frown dywyll gyda marciau goleuach uwchben ac o dan y llygaid, a bron euraid gyda mân linellau tywyll a thaclus arni.

O deulu’r fronfraith i un o’u hoff fwydydd, Aeron Criafol. Mae’r rhain yn arwydd o’r misoedd oerach a gellir eu gweld ar hyd a lled Cymru – fel arfer ar fin diflannu i lawr corn gwddf Aderyn Du neu Goch dan Adain!

Mae Iorwg yn blanhigyn arall sy’n ffynnu yn ystod y misoedd oerach hyn. Mae ei flodau’n ffynhonnell baill werthfawr pan fydd y rhan fwyaf o flodau eraill wedi marw, gan helpu pryfed fel Pryfed Hofran a Gwenyn Iorwg, sydd wedi dod i Gymru’n naturiol ers dechrau’r ganrif ac wedi poblogi arfordir y gogledd.

Os ewch i lawr arfordir Cymru, efallai y gwelwch un o hoff adar Cymru, y Gylfinir. Ond gall hyn fod yn ddarlun camarweiniol o realiti sefyllfa’r Gylfinir fel aderyn sy’n bridio yng Nghymru. Mae gostyngiad torcalonnus wedi bod yn nifer y Gylfinirod sy’n nythu – gyda'r boblogaeth wedi gostwng dros 70% yng Nghymru ers canol y 1990au. Adar mudo yw’r Gylfinirod a welwch dros y misoedd oerach hyn, sydd wedi dod i ymweld â Chymru o wahanol wledydd ar dir mawr Ewrop. Mae’n braf eu gweld, ond peidiwch ag anghofio’r argyfwng gwirioneddol sy’n wynebu'r Gylfinirod sy’n nythu yng Nghymru yn ystod y misoedd cynhesach.

 

Beth ydych chi’n ei hoffi am fyd natur yn ystod yr hydref? Rydyn ni eisiau clywed gennych chi! Tagiwch ni yn eich lluniau neu anfonwch eich straeon atom: @RSPBCymru