To read this blog in English please click here.

Ydych chi wedi sylwi ar wylanod yn dawnsio ar gae eich ysgol?

Yn taro’r glaswellt i annog pryfed genwair i ddod i’r golwg? Adar duon yn canu ar do’r ysgol? Robin goch tu allan i ffenest y dosbarth?

Mae Gwylio Adar yr Ysgol yr RSPB yn gyfle gwych i chi a’ch disgyblion wylio a chyfrif yr adar anhygoel ar dir eich ysgol a chymryd rhan yn sesiwn Gwylio Adar mwyaf Ewrop!

Roedd 90,000 o ddisgyblion yn rhan o Gwylio Adar yr Ysgol y llynedd.  Dyma’ch cyfle chi nawr i ymuno a’n helpu ni i wneud gwahaniaeth eto yn 2017.

Lluniau: Eleanor Bentall (rspb-images.com)

Mae Gwylio Adar yr Ysgol yn cael ei gynnal rhwng 3 Ionawr - 17 Chwefror 2017.

Cewch gofrestru ar-lein yma gan ddefnyddio’r botwm ‘cais am adnodd’. Bydd popeth rydych chi a’ch dosbarth ei angen i gymryd rhan ar gael ar y wefan yma, o daflenni gwylio i ganllawiau cam wrth gam i wneud teclynnau bwydo adar a’r canllaw A-Z da yma i helpu eich dosbarth adnabod yr holl adar maen nhw’n eu gweld.

A HEFYD! Os ydi eich ysgol chi yn Abertawe neu yng Nghaerdydd, fe allwn ni ddod i’ch helpu chi i gynnal Gwylio Adar yr Ysgol. Mae ein sesiynau allgymorth Gwylio Adar yr Ysgol am ddim ac yn para rhwng 1 ac 1½ awr, gan ddibynnu ar nifer y dosbarthiadau sy’n cymryd rhan. Fe ddown ni gyda sbienddrych a thaflenni gwylio, a hefyd arbenigedd i’ch helpu chi a'ch disgyblion i weld, cofnodi ac adnabod popeth o’ch cwmpas chi.

Os ydych chi eisiau archebu sesiwn, cysylltwch â’r canlynol:

Ar gyfer ysgolion cynradd Caerdydd - Sarah Mitchell: 02920 353 271 | sarah.mitchell@rspb.org.uk
Ar gyfer ysgolion cynradd Abertawe - Sarah Reed: 07999 892380 | sarah.reed@rspb.org.uk



Llun: Eleanor Bentall (rspb-images.com)