English version available here
Yn dilyn y niferoedd enfawr a gymerodd rhan y llynedd, roedden ni’n realistig iawn o ran ein disgwyliadau ar gyfer digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd eleni. Wedi’r cyfan, ddiwedd mis Ionawr 2021, roedd Cymru yn y cyfnod clo - a gellir dychmygu bod llawer o gyfranogwr wedi gweld y digwyddiad Gwylio Adar fel gweithgaredd delfrydol oherwydd eu bod dan do. Felly, fe wnaethom edrych yn ôl at 2020 er mwyn cymharu â’r nifer a gymherodd ran eleni– ac rydyn ni’n falch o ddweud bod Cymru wedi gwneud sioe dda iawn ohoni!
Cymru’n cadw at natur Ers dechrau pandemig Covid-19, rydyn ni wedi gweld cynifer o bobl yn myfyrio ar gyflymder arafach eu bywyd newydd drwy edrych drwy’r ffenestr a chofleidio’r natur sydd ar garreg eu drws. Yn wir, mae da ym mhob drwg. Mae bron fel pe bai’r cyfnod anodd hwn wedi rhoi cyfle i bobl ystyried yr hyn sydd gan natur i’w gynnig iddyn nhw. Ar ôl yr ymchwydd disgwyliedig a ddaeth yn sgil y cyfnod clo, mae’n ymddangos bod llawer wedi dal ati ac wedi parhau i fod yn bencampwyr natur bob dydd yng Nghymru.
Gwelsom 36,269 o bobl wych yn dychwelyd 21,368 o arolygon ym mhrosiect gwyddoniaeth dinasyddion mwyaf Cymru – sy’n fwy o lawer na 2020, a oedd ychydig dros 24,000 o bobl. Mae’r brwdfrydedd parhaus rydyn ni wedi’i weld dros y ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn amlwg iawn yn y cyfranogiad eleni, ac rydyn ni mor ddiolchgar i bob un ohonoch chi a gymerodd ran. Mae pob arolwg yn hanfodol ar gyfer rhoi darlun clir o’r sefyllfa i ni, fel y gallwn ganfod pa rywogaethau sy’n gwneud yn dda, a pha rhai a allai fod angen mwy o’n cymorth.
Felly – beth mae’r canlyniadau’n ei ddangos i ni?
O ran canlyniadau, roedd deg uchaf Cymru unwaith eto’n debyg iawn i’r flwyddyn flaenorol, gyda rhai mân newidiadau. Unwaith eto, daeth aderyn y to allan i’r brig - gyda'r drudwen yn ail a’r titw tomos poblogaidd yn drydedd eto eleni. Hedfanodd y nico i fyny dau le i fod yn wythfed, ac aeth y robin goch i lawr un lle i’r seithfed safle.
Os byddwch chi’n bwrw eich meddwl yn ôl i’r llynedd, byddwch chi’n cofio mai’r robin goch a’r aderyn du oedd yr unig ddau aderyn a welodd cynnydd yn eu niferoedd. Wel, ynghyd â’r bioden, nhw oedd yr unig rai i beidio â gweld cynnydd eto eleni, gyda’r saith rhywogaeth arall yn cynyddu yn eu niferoedd. Y nico a wnaeth y cynnydd mwyaf trawiadol – gan wneud cynnydd o 17.3% yn y nifer a ddaeth i’n gerddi eleni!
Rhywogaeth
Safle
Cymedr 2022
% mewn Gerddi
Cymedr 2021
Safle yn 2021
% mewn gerddi yn 2021
% Newid
Newid o ran safle
% Newid mewn gerddi
Aderyn y to
1
6.69
79.1
6.39
76.1
4.6
0
3.9
Drudwy
2
3.63
45.5
3.38
42.1
7.4
8.2
Titw tomos las
3
3.55
78.8
3.35
75.0
5.8
5.1
Aderyn du
4
2.30
87.0
2.57
89.2
-10.6
-2.5
Titw mawr
5
1.75
56.3
55.1
0.0
2.2
Ji-binc
6
1.71
43.4
1.62
7
40.5
5.6
7.1
Robin goch
1.64
86.0
86.7
-4.3
-1
-0.8
Nico
8
1.49
29.2
1.34
10
24.9
11.5
17.3
Pioden
9
1.39
59.7
1.36
60.2
2.1
-0.9
Ysguthan
1.37
55.2
1.27
12
52.6
5.0
Edrych ymlaen
Ein gobaith yw y gallwn barhau i gasglu cymaint o gefnogaeth ag â gawsom yn ystod y flwyddyn ddiwethaf – gan symud ymlaen ar ôl Covid (gobeithio) tuag at adferiad gwyrdd a fydd yn golygu ein bod ni’n rhoi byd natur wrth galon pob agwedd wahanol ar y ffordd y mae Cymru fel gwlad yn gweithredu – boed hynny o ran ein hamgylchedd, ein hiechyd neu ein heconomi. Wedi’r cyfan, mae eleni’n flwyddyn hollbwysig i natur a hinsawdd Cymru, wrth i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth newydd drwy’r Bil Amaethyddiaeth. Rydyn ni’n credu’n gryf bod Gwylio Adar yr Ardd yn borth i fyd natur anhygoel i lawer o bobl, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at glywed eich straeon yn y flwyddyn i ddod wrth i ni i gyd geisio gwneud ein rhan i achub adar Cymru.I weld yr holl ganlyniadau Gwylio Adar yr Ardd 2022, ewch i: rspb.org.uk/gwylioadar