Gwylio Adar yr Ardd 2021 - mae'r canlyniadau yma!

English version available here

Mewn blwyddyn lle mae'r rhan helaeth o ddigwyddiadau wedi'u canslo, roeddem ddigon lwcus i allu parhau a'n hoff benwythnos ar y calendr.

Prydferthwch y syniad o Gwylio Adar yr Ardd yw eich bod yn gallu ei gwblhau o'ch stafell fyw. Yn ffodus, oherwydd ei fod yn ddigwyddiad sy'n cael ei gynnal gartref yn bennaf, llwyddodd penwythnos Gwylio Adar yr Ardd 2021 i fynd yn ei flaen. A fe gafodd y cyfnod clo, a oedd yn cadw ni gyd yn ein cartrefi, effaith enfawr ar y niferoedd y fu'n cymryd rhan.

Flwyddyn yn ôl, wrth i’r cyfnod clo cyntaf ddechrau, bu nifer o bobl yn myfyrio ynghylch eu bywyd newydd, llai prysur drwy syllu drwy’r ffenestr a chofleidio’r natur ar garreg eu drws. Gwelwyd toreth o luniau lliwgar hyfryd o fywyd gwyllt o erddi gwledig a threfol ledled y wlad ar Twitter, Instagram a sianeli rhwydwaith cymdeithasol eraill. Fe benderfynon ni ddathlu hyn drwy gyflwyno #BreakfastBirdwatch i'n boreau, rhwng 8 a 9 o’r gloch. Roedd yr hashnod arbennig hwn yn ffordd hawdd iawn o sgrolio a mwynhau cofnodi bywyd gwyllt roeddem, o bosib, wedi cymryd yn ganiataol neu heb sylwi arno yn y gorffennol. Er bod y clefyd erchyll hwn 'di achosi newidiadau niweidiol sylweddol i'n bywydau ni, roedd hwn yn arwydd cynnar bod rhyw fath o gysur i'w gael wrth edrych, gwrando, dysgu a hyd yn oed chwerthin am ryfeddodau byd natur. Fe fu pobl yn prynu bwydwyr adar ac yn gosod blychau nythu am y tro cyntaf, gan geisio denu mwy o fywyd gwyllt i'w gerddi nag o'r blaen, a chyda llai o geir ar y ffordd, roedd modd clywed caneuon adar yn gliriach nag ers cyn cof y mwyafrif ohonom ni.

Wedi haf yn ei anterth gogoneddus aeth byd natur i mewn i'w gwsg anochel yn yr hydref ac, wrth i bethau dawelu, fe dawelodd #BreakfastBirdwatch hefyd. Er bod gennym gymaint i deimlo'n bositif yn ei gylch o ran ymgysylltiad y cyhoedd â byd natur, a fyddem yn gweld hyn yn cael ei adlewyrchu ym mis Ionawr wrth i ni gynnal ein harolwg blynyddol, Gwylio Adar yr Ardd?

Wel, yr ateb yn bendant oedd, do.

Blwyddyn i dorri record

Dyblodd y niferoedd, a dychwelodd 53,279 o bobl gyfanswm anhygoel o 33,385 o arolygon i ni ym mhrosiect gwyddoniaeth dinasyddion mwyaf Cymru - dros ddwbl cyfanswm y llynedd. Mae'r brwdfrydedd rydyn ni wedi'i weld dros y 12 mis diwethaf yn amlwg i'w weld yn y nifer o bobl gymerodd ran eleni ac rydyn ni mor ddiolchgar i bob un ohonoch chi a wnaeth hynny. Mae pob arolwg wedi bod yn rhan fach ond yn rhan hanfodol yn y pos, wrth i ni geisio darganfod pa rywogaethau sy'n ffynnu a pha rai a allai elwa o gael ein help.

Beth mae'r canlyniadau'n ddangos i ni?

O ran canlyniadau, roedd deg uchaf Cymru yn debyg iawn i’r flwyddyn flaenorol, gyda newidiadau bach ymhlith yr un personél. Unwaith eto, aderyn y to ddaeth i’r brig - gyda’r drudwy yn dringo i'r ail safle, yn cyfnewid lle gyda ffefryn pawb, y titw Tomos las. Hedfanodd ffefryn arall, y robin goch, i fyny 3 safle, wrth i ni weld y nico annwyl yn disgyn i'r 10fed safle. Bu'r niferoedd yn ein hatgoffa o sefyllfa bregus a phryderus bresennol ohoni - o'r 10 uchaf, dim ond y robin a'r fwyalchen oedd heb ostyngu o ran niferoedd. 

Ein gobaith yw y gallwn barhau i ddenu'r gefnogaeth ysgubol y gwelwyd yn ystod y 12 mis diwethaf, gan fynd o nerth i nerth wedi'r cyfnod clo a Covid a chreu adferiad gwyrdd sy'n ein gweld ni'n rhoi byd natur wrth galon pob agwedd ar sut mae Cymru fel gwlad yn gweithredu - boed hynny'n ymwneud â’r amgylchedd, ein hiechyd neu ein heconomi.



Big Garden Birdwatch 2021 in Wales - the results in full

Safle

Rhywogaethau

Nifer fesul gardd ar gyfartaledd

% o rywogaethau'r gerddi a gofnodwyd yn 2021

Safle 2020

% y newid yn y nifer cyfartalog ers 2020

% y newid cyfartalog TYMOR HIR fesul gardd 1979 – 2021 (DU)

Newid dros y degawd diwethaf (DU)

1

Aderyn y to

6.4

76.1

1

-6.4

-57.8

11.9

2

Drudwen

3.4

42.1

3

-9.3

9.6

0.2

3

Titw Tomos las

3.4

75.0

2

-13.4

-82.6

-14.4

4

Aderyn du

2.6

89.2

4

+17.5

-40.7

-13.8

5

Titw mawr

1.7

55.1

6

-2.0

1029.2

28.2

6

Robin goch

1.7

86.7

9

+12.1

-24.6

4.9

7

Ji-binc

1.6

40.5

5

-12.7

57.1

6.5

8

Pioden

1.4

60.2

10

-0.1

Data ddim ar gael

Data ddim ar gael

9

Titw cynffon hir

1.4

27.2

8

-15.4

191.9

29.5

10

Nico

1.3

24.9

7

-23.4

Data ddim ar gael

Data ddim ar gael

11

Jac-y-do

1.3

31.6

11

-0.8

-67.9

-43.9

12

Ysguthan

1.3

52.6

12

-0.1

188.2

-27.5

13

Titw penddu

1.0

42.1

15

+5.2

-2.4

-17.1

14

Llwyd y gwrych

0.9

41.7

14

-9.7

279.2

9.5

15

Turtur dorchog

0.9

36.6

13

-13.9

Data ddim ar gael

Data ddim ar gael

16

Brân dyddyn

0.7

24.8

16

-2.8

Data ddim ar gael

Data ddim ar gael

17

Colomen ddof

0.5

11.9

17

-12.6

Data ddim ar gael

Data ddim ar gael

18

Dryw

0.3

26.2

18

-7.2

76.8

10.0

19

Llinos werdd

0.3

9.7

19

-21.0

-71.9

-63.9

20

Delor y cnau

0.2

12.6

20

+2.8

-78.4

-48.9