To read this blog in English please click here
Efallai y byddwch chi’n cofio’r stori yn 2016 am wyddau talcenwyn yr Ynys Las oedd wedi’u tagio. Fe fuon nhw ar daith anhygoel o’r Ynys Las i Iwerddon ac yn ôl, gan fynd i Aberdyfi ar y ffordd, cyn gadael o ogledd Cymru ar nos Sul a chyrraedd Gwlad yr Iâ nos Lun. Mae blwyddyn gron wedi bod ers hynny ac rydyn ni’n disgwyl yn eiddgar iddyn nhw ddod yn ôl i Gymru, ac i Aberdyfi gyda gobaith.
Llun: Rachel Stroud. Mae'n bosib gweld gwyddau talcenwyn yr Ynys Las yng nghefndir y llun.
Rydyn ni wedi bod yn tracio'r adar urddasol hyn drwy’r haf, ac mae'r data rydyn ni wedi'i gasglu wedi datgelu stori hyfryd. Ar ôl gadael Gwlad yr Iâ am yr Ynys Las ddechrau mis Mai, treuliodd y gwyddau’r haf yn eu gwlad gynhenid cyn teithio’n ôl i Wlad yr Iâ. Mae'r data o'r tagiau yn dangos i ni fod un aderyn – WHIT01 i ddefnyddio ei henw tagio gwyddonol – wedi bod yn eistedd yn amyneddgar ar nyth yn yr Ynys Las am oddeutu pedair wythnos.
Roedd hyn yn awgrymu bod yr wydd yma wedi bridio’n llwyddiannus, a thua diwedd yr haf, cafwyd cadarnhad bod Tony Fox, arbenigwr ar wyddau talcenwyn yr Ynys Las, wedi dod o hyd i WHIT01 yng Ngwlad yr Iâ a’i bod wedi croesawu pedair gŵydd ifanc.
Er bod ein hail wydd, WHIT02, wedi setlo ar nyth, fe roddodd y gorau i hynny ar ôl tua wythnos, sy’n awgrymu bod ei hymgais i fridio wedi bod yn aflwyddiannus eleni.
Mae hi wedi bod yn bosib i ni gasglu’r data hollbwysig yma diolch i'r £24,000 o gyllid mae partneriaeth gwyddau talcenwyn yr Ynys Las yng Nghymru* wedi’i gael gan Lywodraeth Cymru. Yn 2016, fe lwyddon ni i gymryd camau hanfodol i warchod dyfodol gwyddau talcenwyn yr Ynys Las yng Nghymru drwy oruchwylio proses dagio i ddarganfod ble roedd y gwyddau’n porthi ac yn clwydo tra oedden nhw yn ardal Dyfi.
Llun: Andy Hay. Gwydd talcenwyn yr Ynys Las.
Mae'r bartneriaeth wrth ei bodd â’r holl ddata sydd wedi cael ei gasglu hyd yn hyn, ac rydyn ni wedi sylwi ar enghreifftiau o ymddygiad hynod. Rydyn ni wedi canfod bod haid Dyfi yn aros gyda’i gilydd yng Nghymru, ond yn rhannu cyn gynted ag y maen nhw’n gadael yn ôl pob golwg. Byddai hyn yn awgrymu nad yw'r adar sy’n gaeafu yng Nghymru yn debygol o fod yn grŵp agos ar ôl gadael Cymru.
Rydyn ni wedi canfod bod y gwyddau rydyn ni wedi’u tagio wedi datblygu cyfeillgarwch gyda gwyddau talcenwyn yr Ynys Las sydd wedi’u tagio o'r Alban. Bu’r ddau grŵp yn rhannu glanfa yn yr un ardal ar arfordir deheuol Gwlad yr Iâ, gan ymgartrefu ychydig o gaeau oddi wrth ei gilydd fel cymdogion cyfeillgar. Mae’r cynefin nythu mae’r gwyddau yn ei ffafrio ar yr Ynys Las yn debyg iawn i dir uchel Cymru. Mae gan y cynefin fryniau tonnog, cyrff o ddŵr croyw a’r gorhelygen yw'r prif lystyfiant.
Yn ystod yr wythnosau nesaf, rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu’r adar rydyn ni wedi’u tagio yn ôl, gyda’u gwyddau bach newydd. Mae'r data rydyn ni wedi’i gasglu hyd yn hyn wedi bod yn hollbwysig o ran ein gobaith o ddysgu mwy am yr adar mudol rhyfeddol hyn. Ond eto, mae llawer i'w ddarganfod er mwyn sicrhau dyfodol disglair i wyddau talcenwyn yr Ynys Las yng Nghymru. Allwn ni ddim aros i weld pa ryfeddodau eraill fydd gan yr adar rydyn ni wedi’u tagio ar ein cyfer.
* Ynghyd ag RSPB Cymru, mae’r bartneriaeth yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir, Mick Green, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain, a Chymdeithas Adarwyr Dyfi, Mawddach a Dysynni.