English version available here
Ar Ddydd Gŵyl Dewi, rydyn ni’n cael ein hannog i wneud y pethau bychain – a gan fod cymaint o ddiwylliant Cymru yn frith o gyfeiriadau at fywyd gwyllt, rydyn ni’n meddwl fod hwn yn gyfle perffaith i wneud y pethau bychain ar ran natur ar garreg eich drws.
Mae Mawrth yn fis o newid; rydyn ni’n gweld arwyddion cyntaf y Gwanwyn wrth i’r dail ddechrau blaguro ac i’r nosweithiau ddod yn oleuach. Byddwn yn gweld y titw tomos las a’r robin goch yn archwilio’u cynefin lleol gan edrych am safleoedd delfrydol i nythu, a chawn glywed y fwyalchen wedi codi’n gynnar, yn canu i chwilio am gymar.
Felly pam ydyn ni’n ystyried Dydd Gŵyl Dewi yn adeg delfrydol i helpu byd natur? Wel, yn syml iawn, am fod natur Cymru angen ein cymorth ni. Rydyn ni wedi gweld niferoedd llawer o adar yr oeddem yn arfer cymryd eu gweld a’u clywed yn ganiataol, yn prinhau yn ystod y degawdau diwethaf; ac fe ddywedodd yr adroddiad diweddar Adar o Bryder Cadwraethol yng Nghymru wrthym fod 5 aderyn arall wedi eu hychwanegu at y rhestr goch, sydd bellach yn cynnwys 60 o rywogaethau. Mae adar fel y Llinos Werdd wedi diflannu’n ddramatig o lawer o’n gerddi. Gall y rhesymau dros y gostyngiad mewn niferoedd fod yn amrywiol ac yn gymhleth weithiau, ond er mwyn gwrthdroi'r colledion hyn o ran bioamrywiaeth, gwyddom fod angen newid ar raddfa fawr. Ond tra’n bod ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth arloesol - i geisio gwrthdroi colledion bioamrywiaeth, a’i gynyddu erbyn 2030 drwy’r bil amaeth, neu gyflwyno cynllun datblygu morol a strategaeth adar môr i warchod dyfodol ein hadar môr - rhaid i ni gofio y gall pawb ohonom ‘wneud y pethau bychain’ dros natur ar garreg ein drws. Estyn croeso Fel y nodwyd yn flaenorol, bydd adar mawr a mân yn treulio’r dyddiau hyn yn chwilio am y cartref perffaith. Ond er y bydd rhai adar yn mynd ati’n fedrus i adeiladu nythod cysgodol ymysg dail ac agennau coed yn ein fforestydd neu yn y tir garw ar ein tiroedd amaethyddol, byddai blwch adar ar gyfer yr adar lleol yn eich gardd yn cael ei werthfawrogi’n fawr. Rhaid cofio bod blychau adar gwahanol ar gael ar gyfer gwahanol adar, degau o wahanol siapiau a meintiau; o flychau bychain ar gyfer y Titw Tomos Las neu’r Titw Mawr, teras ar gyfer y bythol-gymdeithasol Adar y To, blwch mwy ar gyfer y Drudwy, neu hyd yn oed flwch ar gyfer y Wennol, i'w osod dan fondo’ch tŷ. Mae’n gyfnod anodd i lawer ohonom oherwydd yr argyfwng costau byw ar hyn o bryd – ond gallwch bob amser adeiladu eich blwch eich hun o bren wedi’i ailgylchu! Cornel Gymreig a Gwyllt
Wrth gwrs, nid yw pawb yn hoff o adeiladu pethau eu hunain. Felly, yn lle estyn am eich morthwyl, beth am estyn am eich rhaw, a chreu eich cornel wyllt eich hun! Mae creu cornel wyllt yn hynod o syml, ond gellir gweld ei manteision mewn gerddi o bob maint, gan roi budd ar sawl lefel o fioamrywiaeth eich gardd. Drwy greu pentwr o bren marw, byddwch yn croesawu pryfetach i gnoi, gan ddarparu ffynhonnell dda o fwyd ar gyfer adar. Bydd pentwr compost, yn cynnwys toriadau planhigion dros ben, gweddillion bwyd a thir, yn cael ei weddnewid dros amser i greu compost, yn ogystal â bar byrbrydau llawn pryfed genwair ar gyfer y robin goch llwglyd sy’n sboncian o gwmpas!
Pŵer blodau
Mae Cennin Pedr yn symbol pwerus o Ddydd Gŵyl Dewi a byddant yn blodeuo’n odidog o’n cwmpas ymhobman yr adeg hon o’r flwyddyn. Mae parhau â thema blodau yn ffordd wych o wneud y pethau bychain ar y diwrnod arbennig hwn - drwy hau hadau blodau gwyllt. Mae llawer o flodau gwyllt cynhenid y gallwch eu prynu, a bydd eu presenoldeb lliwgar yn eich gardd yn estyn croeso gwych i bryfed peillio sydd angen ein cymorth yn fwy nag erioed.
Gwrychoedd gwych
Gyda’r pridd yn cynhesu, mae’r adeg hon o’r flwyddyn hefyd yn gyfnod da i hau rhywbeth mwy hirdymor – nodwedd barhaol i’ch atgoffa am ein diwrnod Cenedlaethol arbennig, efallai! Mae gwrychoedd a llwyni yn darparu lloches hynod werthfawr ar gyfer adar fel y dryw, y robin goch a llwyd y berth; a bydd eu ffrwythau’n gwahodd amrywiaeth eang o’ch cyfeillion pluog draw i gael pryd o fwyd. Neu, os oes gennych le – beth am blannu coeden!Bywyd pwll dŵr
Mae’r un olaf yma’n dipyn o brosiect, ond er hynny, yn ychwanegiad gwych i’ch gardd a fydd yn rhoi llawer iawn o gymorth i natur ar garreg eich drws. Mae pwll, neu bwll bychan ar gyfer gerddi llai, nid yn unig yn ffynhonnell ddŵr wych ar gyfer ein hadar a’n draenogod, ond gallai o bosibl fod yn hafan newydd ar gyfer brogaod, llyffantod a madfallod! Mae creu ffynhonnell ddŵr yn syniad mor dda nad oes wahaniaeth beth yw maint eich gardd – ar gyfer gerddi mwy, gall fod yn bwll â phresenoldeb iddo, neu ar gyfer gerddi llai o faint, bath sylfaenol ar gyfer adar neu ffos laith ar gyfer amrywiaeth. Man tangnefeddus i'w rannu
Rydyn ni wedi sôn llawer ynghylch y modd y gall y syniadau uchod fod o fudd i natur yn lleol – ond mae’n hynod bwysig pwysleisio bod mynd allan i’r awyr agored, creu llanast mwdlyd ac ymgysylltu â natur yn dda iawn ar gyfer ein llesiant corfforol a meddyliol ni hefyd. Mae llenwi eich gardd â chan yr adar nid yn unig yn sŵn godidog, ond yn un iachaol hefyd; hyd yn oed am eiliad, anghofio am bwysau bywyd bob dydd ac yn lle hynny, canolbwyntio ar yr holl fywyd gwyllt sy’n rhannu’r gofod gwyrdd hwn gyda chi.
Ar ôl darllen, ystyried a dychmygu’r rhyfeddodau naturiol hyn y gallech eu croesawu o’ch cwmpas – rydyn ni wir yn gobeithio y byddwch yn ystyried gwneud y pethau bychain y Dydd Gŵyl Dewi hwn – er eich mwyn eich hun, ac er mwyn byd natur ar garreg eich drws. Dydd Gwyl Dewi Hapus!