Gwirfoddolwyr Gwych!

English version available here

Yn un o'n blogiau arbennig ar wythnos gwirfoddolwyr, mae Angharad Jones, un o'n sawl gwirfoddolwyr amhrisiadwy, yn son am ei phofiadau hi yn dod yn wirfoddolwr gydag RSPB Cymru.

Fy enw i yw Angharad Jones, ac rwy’n gwirfoddoli i RSPB Cymru. Yn 2014, es i ar daith gerdded ar warchodfa natur, heb sylweddoli bod y daith wedi ei threfnu gan Grŵp Lleol RSPB Caerdydd a’r Cylch. O'r bore hwnnw, roeddwn i wedi gwirioni ac ymunais â nhw ar gymaint o deithiau cerdded ag y gallwn. Roedd yr aelodau yn amlwg yn angerddol am adar ac yn wybodus, felly tyfodd fy niddordeb ac angerdd hefyd, ac ymaelodes a’r RSPB yn fuan wedyn. 

Tua'r adeg honno, roedd RSPB Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr cyfieithu. Nid oeddwn wedi ystyried dilyn y trywydd hwn, ond roedd y math yma o wirfoddoli - gweithio gartref, yn addas â swydd llawn amser, derbyn gwaith pan oedd amser yn caniatáu - yn fy siwtio i. Cyfieithais amrywiaeth o ddarnau o'r Saesneg i'r Gymraeg; o flogiau i fwydlenni bwyd, digwyddiadau i ddisgrifiadau swyddi, posteri i arwyddion ar warchodfeydd. Roeddwn i'n dysgu wrth weithio! Roeddwn i'n arfer meddwl bod gwirfoddoli i RSPB yn golygu gwaith corfforol neu gyfleoedd canol wythnos yn unig ar warchodfeydd, ac roedd cael cymhwyster mewn cadwraeth yn hanfodol. Mae hyn yn bell o'r gwirionedd. Mae yna lawer o gyfleoedd sy’n gweddu amser a gallu. 

Ar hyn o bryd, rwy'n gwirfoddoli fel aelod pwyllgor y Grŵp Lleol y gwnes i gyfarfod 7 mlynedd yn ôl, ar ôl mynychu tipyn o gyflwyniadau a theithiau adara. Rwy'n mwynhau helpu yn ystod gweithgareddau dan do ac awyr agored, sgwrsio â phobl gyda’r un diddordeb am adar a bywyd gwyllt, a cheisio annog mwy o ymgysylltiad â natur. Ar lefel bersonol, rwy’n dysgu mwy am adar a'n ardal leol, ar ben dysgu sgiliau â phobl a gweinyddol. 

Felly pam gwirfoddoli? Mae’n ffordd wych o gadw eich ‘hobi’ fel hobi. Mae gwirfoddoli a rhoi eich amser a'ch egni i achos sy'n agos at eich calon yn deimlad gwych. Mae’r ddau barti yn elwa - mae’r gwirfoddolwr yn ennill sgiliau a gwybodaeth newydd, yn cwrdd â ffrindiau newydd, gall agor drysau, yn dda i iechyd meddwl a chorfforol; mae'r gymdeithas yn ennill eich amser, egni, angerdd a'ch cael chi ar eu tîm. Mae eich rôl yn hynod bwysig; mae’n ffaith bod data a gasglwyd yn ystod arolygon maes a monitro gan wirfoddolwyr o bwys i’r RSPB wrth gynllunio prosiectau ac ymgyrchoedd i helpu i fynd i’r afael ag argyfyngau natur a hinsawdd. 

Rwy’ wrth fy modd yn gwirfoddoli ar gyfer pwnc sy’n bwysig i mi ac yn ei fwynhau. Fodd bynnag, rwy’n difaru un peth...dylwn i fod wedi dechrau gwirfoddoli flynyddoedd yn ôl!