Gwenynbry mawr (Liam Olds)English version available here
Ysgrifennwyd gan Liam Olds o Buglife Cymru
Gyda’i gorff blewog, mae’r gwenynbry mawr (Bombylius major) yn cael ei gamgymryd yn aml am wenynen. Mae’r pryfed blewog ac unigryw yma’n brysur o fis Mawrth i fis Mehefin mewn gerddi ac ar hyd gwrychoedd lle maent i’w gweld yn aml yn hofran uwchben blodau ac yn defnyddio eu ‘tafodau’ hirion (proboscis) i fwydo ar neithdar o flodau megis y friallen. Er bod y proboscis yn edrych yn fygythiol, yn debyg i arf pigo ar ei wyneb, dim ond ar gyfer yfed neithdar y mae’n cael ei ddefnyddio. Mae’r pryfyn yn hollol ddiniwed - wel, inni beth bynnag.
Mae gan y pryfyn gylch bywyd cyfrwys, ond eto diddorol. Ysglyfaethwr parasitaidd ydyw - pryfaid lle mae eu larfa’n byw fel parasitiaid, sydd yn y pen draw’n lladd eu lletywyr. Mae’n dodwy ei wyau mewn yn nythod gwenyn unig, lle mae ei larfa (neu’r ieuenctid) yn ysglyfaethu ar larfa’r wenynen ddatblygedig. Yn fwy penodol, mae larfa’r gwenynbry mawr yn ymosod ar larfa’r wenynen gyffredin, gwenynen sy’n brysur drwy’r gwanwyn ac sy’n nythu ar y ddaear mewn heidiau yn y pridd mewn glaswelltir, ar hyd banciau gwrychoedd neu hyd yn oed, eich gwelyau blodau a lawntiau.
Mae’r gwenynbry mawr benywaidd yn hofran ychydig fodfeddi uwchben mannau nythu’r wenynen gyffredin ac yn taflu ei hwyau yn ddidostur i’r llawr. Drwy hap a damwain, bydd nifer fechan o’r wyau yma’n glanio mewn, neu wrth ymyl, nyth y wenynen gyffredin. Pan fydd wy gan y gwenynbry mawr yn deori, mae’r larfa’n ymlusgo i gell danddaearol y wenynen lle mae’n aros i larfa’r wenynen dyfu. Pan fydd larfa’r wenynen letyol yn ddigon mawr, mae larfa’r gwenynbry yn cysylltu ei hun ac yn dechrau sugno’r hylifau o gorff y wenynen letyol, gan ei lladd yn y pen draw! Ar ôl defnyddio larfa’r wenynen letyol gael ei ddefnyddio, mae larfa’r gwenybry mawr yn chwilera ac yn aros o dan ddaear drwy gydol y gaeaf, ac, yn y diwedd, yn dod i’r amlwg fel pryfyn datblygedig cyflawn erbyn y gwanwyn, gan gyflawni’r cylch bywyd.
Y gwenynbry mawr yw’r mwyaf o’i fath o’i rywogaeth yn y DU ac mae’n cael ei gategoreiddio fel yr un sy’n cael ei weld yn amlach na un rhywogaeth arall. Mae’n gyfarwydd oherwydd ei streipen drwchus, dywyll ac amlwg ar hyd ymyl blaen ei adenydd (rhaid aros nes y bydd yn llonydd i weld hyn). Fodd bynnag, byddwch yn wyliadwrus o’r gwenynbry Dotiog (Bombylius discolor), sy’n brysur ar yr un adeg o’r flwyddyn (Mawrth i Fehefin) mewn cynefinoedd tebyg - yn achos y rhywogaeth hon, cadwch lygad am sbotiau tywyll ar yr adenydd unwaith eto, arhoswch nes y bydd yn llonydd i weld hyn).
Er bod y gwenynbry mawr yn fygythiad i’r wenynen gyffredin, nid oes tystiolaeth bod y pryfed yn achosi unrhyw ddirywiad enfawr i boblogaeth y gwenyn. Mae’r gwenynbry mawr wedi byw ochr yn ochr â’r gwenyn am sawl mileniwm a hir y parhaed felly. Cadwch lygad allan am y creaduriaid hynod ddiddorol yma ar ddyddiau cynnes a heulog yn ystod y gwanwyn ac os gwelwch chi un, ceisiwch gael llun ac ystyried cyflwyno eich cofnod. (Mae manylion pellach ar gyflwyno cofnodion y pryfyn, gan gynnwys canllaw adnabod defnyddiol, i'w gweld yma.)