To read this blog in English please click here

"Ers dros ddeugain mlynedd mae sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o sicrhau bod ein cyfreithiau amgylcheddol yn cael eu rhoi ar waith, a bod lleisiau dinasyddion a chymdeithasau sifil fel ni, sy’n sefyll yn gadarn dros fyd natur, yn cael eu clywed. Bydd colli goruchwyliaeth yr UE yn creu bylchau yn ein hamddiffyniadau amgylcheddol ac yn peryglu treftadaeth naturiol unigryw ac arbennig Cymru. Mae’n rhaid mynd i’r afael â’r mater hwn. Dyna pam ein bod ni wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr ym mhedair gwlad y DU, er mwyn deall yn well sut all ein gwledydd fynd i’r afael yn 2019 â’r bwlch o ran llywodraethu natur. Mae’r blog hwn yn datgan lle rydym ni arni a beth, yn ein barn ni, sydd angen i’r Llywodraethau ei wneud er mwyn symud ymlaen gyda’i gilydd." - Cyfarwyddwr RSPB Cymru, Katie-Jo Luxton.

Llun: Hugan, Andy Hay rspb-images.com

Mae pedair gwlad y DU yn gartref i rywogaethau a chynefinoedd amrywiol ac arbennig. Mae gan bob un o’r gwledydd ei thirluniau a’i morluniau eiconig i’w dathlu a’u hamddiffyn, o fynyddoedd, coedwigoedd a rhosydd i glogwyni arfordirol, ogofâu arfordirol a morgreigiau (riffiau). Fodd bynnag, nid yw natur yn parchu ffiniau gwleidyddol. Mae afonydd, mynyddoedd a moroedd yn croesi ffiniau’n naturiol ac mae nifer o’r rhywogaethau sydd fwyaf o dan fygythiad yn symud yn rheolaidd rhwng y pedair gwlad a’r tu hwnt. Yn yr un modd, gall camau mewn un wlad gael effeithiau pellgyrhaeddol ar natur mewn gwlad arall. Mae gennym gyfrifoldeb i amddiffyn ac adfer ein treftadaeth naturiol ar y cyd fel bod cenedlaethau heddiw ac yfory’n cael eu mwynhau. Dim ond trwy weithio gyda’n gilydd y bydd hyn yn bosibl.

Mae’r pwerau i reoli ein hamgylchedd naturiol (gan gynnwys amaethyddiaeth a physgodfeydd) ar y cyfan wedi eu datganoli i’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae deddfwriaeth amgylcheddol yn y pedair gwlad yn cael ei llywio gan fframweithiau cyffredin yr UE, er enghraifft y safonau amgylcheddol cyffredinol y mae’n rhaid i’r DU gyfan gydymffurfio â nhw fel aelod o’r UE. Am reswm da iawn mae’r UE wedi hyrwyddo cydweithrediad a chydweithio ar faterion amgylcheddol trawsffiniol sy’n effeithio ar bob un ohonom – gan gynnwys gwarchod ein bywyd gwyllt.

Mae nifer o resymau pam mae’n rhaid i’r cydweithrediad a’r cydweithio barhau. Mae ein hamgylchedd naturiol yn wynebu heriau anferth – gan gynnwys llygredd yn yr afonydd, yr aer a’r moroedd, gostyngiad dychrynllyd yn niferoedd rhai o’n rhywogaethau pwysicaf a mwyaf eiconig, ac effaith gynyddol newid yn yr hinsawdd. Ni fydd yn hawdd goresgyn yr heriau hyn, ond bydd gennym well siawns o lawer os fyddwn ni’n cydweithio ar draws y DU a’r tu hwnt; gan sicrhau bod safonau’n parhau’n uchel, bod rhywogaethau a chynefinoedd yn cael eu gwarchod yn effeithiol wrth iddynt symud o un wlad i’r llall, a bod ein cyfreithiau yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol.

Er mwyn sicrhau dyfodol iach ar gyfer byd natur mae angen sefydliadau cadarn, annibynnol sydd â digon o adnoddau i ddal ein holl lywodraethau a chyrff cyhoeddus i gyfrif. Ar hyn o bryd mae sefydliadau’r UE yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o amddiffyn safonau amgylcheddol ar draws y pedair gwlad. Er enghraifft, maen nhw’n caniatáu i unigolion a chyrff anllywodraethol leisio pryderon ynglŷn â sut mae ein deddfwriaeth amgylcheddol yn cael ei rhoi ar waith. Heb sefydliadau newydd addas, bydd gadael yr UE yn creu ‘bwlch llywodraethol’ sylweddol ar draws y pedair gwlad. 

Yn ffodus, mae pwysigrwydd mynd i’r afael â’r ‘bwlch llywodraethu’ hwn bellach wedi cael ei gydnabod gan y pedair gwlad fwy neu lai. Er enghraifft, mae llywodraethau Bae Caerdydd, Holyrood a San Steffan wedi ymrwymo i gyflwyno cynigion i fynd i’r afael â’r bwlch hwn yn eu hawdurdodaethau eu hunain. Cawn weld sut bydd y cynigion hyn yn sicrhau’r cydweithrediad a’r cydweithio sydd eu hangen er mwyn gwneud yn siŵr bod ein deddfwriaethau amgylcheddol yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol ar draws y DU.

Rydym yn galw ar lywodraethau ein pedair gwlad i weithio gyda'i gilydd i adfer byd natur. Mae angen iddyn nhw fynd ati’n gyflym i gytuno ar broses ar gyfer cyd-gynllunio fframwaith newydd ynghyd â mecanweithiau llywodraethu amgylcheddol cadarn a chydradd. Bydd hyn yn sicrhau bod pob un ohonom yn gallu cydweithio’n effeithiol er budd natur, dim ots lle ydym ni yn y DU.

Gallai llythyr gennych chi ysgogi eich Gweinidog i gydweithio â’r gweinidogion cyfatebol yn y gwledydd eraill. Dilynwch y dolenni yma i ddarganfod rhagor o wybodaeth, ynghyd â sut i gysylltu â’ch Gweinidog perthnasol:

 

Cymru

Lloegr

Gogledd Iwerddon

Yr Alban