Gweithdai Urban Buzz!

English version available here

Mae dyddiau hwy, nosweithiau byrrach a thywydd cynhesach yn arwydd bod y gwanwyn wedi cyrraedd, adeg pan fydd byd natur yn deffro gydag arddangosfa o liwiau llachar, arogleuon melys a synau cyfarwydd. Er bod y rhan fwyaf ohonom ar hyn o bryd wedi ein caethiwo i’n gerddi neu ein hardal leol, mae hwn yn gyfle gwych i gyfarwyddo ein hunain â bywyd gwyllt ein gerddi ac i ddarganfod ffyrdd o roi cartref i fyd natur.

Mae’r prosiect Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd – mewn partneriaeth ag RSPB Cymru, Gwasanaeth Parcmyn Cymunedol Cyngor Caerdydd a Buglife Cymru – yn falch o gyhoeddi lansio tri gweithdy hyfforddi, sydd ar gael i’w defnyddio am ddim. Mae’r gweithdai hyn yn cael eu hariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac maent yn ymdrin â’r pynciau canlynol: 

  • Adnabod peillwyr
  • Tasgau garddio tymhorol ar gyfer bywyd gwyllt
  • Creu, cynnal a gwella cynefinoedd ar gyfer peillwyr.

Gallwch gwblhau’r gweithdai hyn o gysur eich cadair freichiau, drwy ddilyn y dolenni isod. Bydd y dolenni’n mynd â chi i gyflwyniad ar-lein y gallwch ei gwblhau wrth eich pwysau. Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau’r gweithdai hyn ac y byddant yn eich ysbrydoli i roi cartref i fyd natur.

Diolch!

 


Adnabod peillwyr

A ydych chi wedi bod yn cael anhawster adnabod pryfed peillio? A fyddech chi’n gwybod beth yw’r gwahaniaeth rhwng gwenyn a phryfed, neu wenyn mêl a gwenyn unig? Bydd y gweithdy hwn yn rhoi i chi’r sgiliau angenrheidiol i adnabod prif grwpiau pryfed peillio yn y DU, bydd hefyd yn edrych ar yr amrywiaeth ryfeddol o grwpiau pryfed peillio ac yn egluro pam mae pryfed peillio mor bwysig i ni ac i fyd natur.

 

Tasgau garddio tymhorol ar gyfer bywyd gwyllt

A oes gennych chi ddiddordeb mewn garddio ar gyfer bywyd gwyllt ond bod angen rhywfaint o ysbrydoliaeth arnoch? Neu efallai na wyddoch beth yw’r amser gorau i fynd i’r afael â gwahanol dasgau garddio. Bydd y gweithdy hwn yn cynnig syniadau ar sut y gallwch helpu bywyd gwyllt yn eich gardd neu eich man gwyrdd lleol ac yn awgrymu’r adeg orau o’r flwyddyn i gwblhau’r gwahanol dasgau.

 

Creu, cynnal a gwella cynefinoedd ar gyfer peillwyr

A ydych chi’n berchen ar neu’n rheoli man gwyrdd? A hoffech chi helpu i atal y dirywiad yn ein pryfed peillio? Os felly, dyma’r gweithdy i chi. Bydd y gweithdy hwn yn eich helpu i ganfod cyfleoedd i greu, cynnal a gwella cynefinoedd ar gyfer peillwyr. Mae parciau cyhoeddus, tiroedd ysgolion, parciau busnes, rhandiroedd, perllannau, gerddi cymunedol a phreifat, mynwentydd, coetiroedd trefol a hyd oed ymylon ffyrdd i gyd yn fannau a all fod yn fuddiol i bryfed peillio.