English version available here.

Hwyrach eich bod yn ymwybodol o’n pryderon am ddatblygiad newydd oddi ar arfordir Môn. Prosiect ynni adnewyddol morol newydd yw Parth Arddangos Morol Gorllewin Ynys Môn neu ‘Morlais’. Yn anffodus mae maint y prosiect yn fygythiad mawr i fywyd gwyllt lleol.

Beth yw'r prosiect arfaethedig?

Y nod yw defnyddio tyrbeini sy'n manteisio ar rediad y llanw i greu ynni 'llif llanw'. Os caiff ei wireddu'n llawn, byddai'n adeiladu 620 o beiriannau yn y môr heb fod ymhell oddi ar arfordir enwog RSPB Ynys Lawd. Fe fyddai'r datblygiad yn hawlio dros 35 cilomedr sgwâr o'r môr.

Pam bod yr ardal hon mor bwysig??

Mae RSPB Ynys Lawd yn cynnig golygfeydd arfordirol heb eu hail. Mae'r ardal yn gartref i nifer o adar eiconig fel y pâl. Yma daw dros 10,000 o wylogod, 1,300 o lursod i nythu a magu eu cywion bob haf. Wrth droed y clogwyni gwelir dolffiniaid a llamhidyddion hefyd. Daw dros 180,000 o bobl i weld yr olygfa ryfeddol hon gan ddod â thwristiaeth bwysig i Ynys Môn.

Byddai'r dechnoleg a ddefnyddir i'r prosiect yn newydd sbon. Nid oes gwybodaeth am ei effaith ar fywyd gwyllt felly fe fydd yn anodd iawn i'w ddarogan. Amcangyfrifir y bydd amrywiaeth o effeithiau posib. Yn ôl un amcangyfrif gan Menter Môn gall dros 60% o'r gwylogod a 98% o lursod farw o ganlyniad i daro i mewn i'r tyrbeini. Byddai hynny'n gyfanswm o 795 o adar y flwyddyn yn marw.

Rydym yn bryderus iawn o faint y datblygiad sy'n cael ei ystyried a'i effaith ar boblogaeth yr adar. Credwn fod cynllun Morlais yn hap chwarae â dyfodol bywyd gwyllt RSPB Ynys Lawd a'r dwristiaeth sy'n dibynnu arno. Rydym yn poeni bod yw ceisiadau sydd wedi eu cyflwyno gan y datblygwyr yn dangos nad ydynt wedi ystyried mesurau i reoli'r risg uchel o niwed i adar, neu i beidio â gweithredu os oes gwrthdrawiadau'n digwydd. Am y rheswm hwnnw rydym wedi gwrthwynebu'r ceisiadau am Orchymyn dan Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd (TWAO) a Thrwydded Forol.

Beth hoffwn ni ei weld?

Rydym yn galw am gynllun peilot llai, nad yw’n chwarae siawns â dyfodol bywyd gwyllt a'r dwristiaeth sydd yn dibynnu arno. Mae hyn yn golygu lleihau'r nifer o dyrbeini i lefel y gellir dangos eu bod yn ddiogel i fyd natur. Hefyd i roi amser i wneud mwy o waith ymchwil ar effeithiau'r dechnoleg er mwyn ehangu ein dealltwriaeth wyddonol ohono.

Mae ein planed yn wynebu argyfwng hinsawdd a naturiol. Moroedd glân yw un o'r pethau sydd gennym wrth gefn wrth i'r hinsawdd newid. Mae ynni adnewyddol yn elfen hanfodol o drin newid hinsawdd ond mae'n rhaid i ddatblygiadau gael eu lleoli fel nad ydynt yn difrodi mwy ar ein moroedd. Wrth i'r cyfyngiadau ar symud godi rydym eisiau croesawu byd lle y gall pobl a natur ddod at eu hunain. 

Beth yw'r diweddaraf gyda'r ymgyrch?

 Ers ein blog cyntaf ar hyn, mae gwybodaeth newydd wedi ei hychwanegu at gais cynllunio a chais trwydded forol prosiect Morlais.

Mae gwybodaeth amgylcheddol ychwanegol ar gyfer y ddau gais TWAO i'w cael ar wefan yr Arolygwr Cynllunio. Mae Menter Môn (y datblygwr) hefyd wedi cyflwyno'r un wybodaeth ar gyfer trwydded forol ar gofrestr Cyfoeth Naturiol Cymru. Fe ofynnodd Cyfoeth Naturiol Cymru am fwy o wybodaeth gan Menter Môn, ac mae hyn bellach wedi cael ei ddarparu ac ar gael o i’w weld o’r gofrestr gyhoeddus.

* Diweddariad *
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru bellach wedi derbyn rhagor o wybodaeth gan Menter Môn i gefnogi eu cais ac wedi cychwyn ar gyfnod ymgynghori a fydd yn para tan 9 Medi. Gellir gweld y manylion ar sut i gyfrannu i'r ymgynghoriad hwn ar dudalen we ymgynghoriadau cyfredol gwefan CNC. Mae’n bosib cael mynediad at y wybodaeth yma, ynghyd â'r holl ddogfennau sydd ar gael sy'n gysylltiedig â'r cais ar y gofrestr gyhoeddus ar-lein (Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio cyfeirnod y cais ORML1938).

Hyd yn oed ar ôl taro golwg fanwl dros y dogfennau newydd hyn, rydym yn parhau â'n gwrthwynebiad. Yn siomedig ddigon, ychydig iawn sydd wedi ei wneud i fynd i'r afael â marwolaeth cannoedd o wylogod a gweilch y penwaig, yn sgil taro i mewn i'r tyrbeini. Rydym yn parhau i boeni nad yw'r datblygwyr wedi cyflwyno cynlluniau ar sut y byddant yn cadw golwg ar y risg i fywyd gwyllt o fewn y datblygiad a pha gamau y byddant yn eu cymryd pe bai'r darogan yn dod yn wir.

Anonymous