Helo, Robyn ydw i! Dwi'n 15 mlwydd oed ac yn mynd i Ysgol Gyfun St. Julian's yng Nghasnewydd. Dwi'n hoffi darllen a gwrando ar gerddoriaeth yn fy amser hamdden. Yn amlwg dwi'n caru anifeiliaid! Fy hoff aderyn yw’r robin goch!
 
Roeddwn i ar brofiad gwaith ym mis Chwefror, dau ddiwrnod yn Gwlypdiroedd Casnewydd a tri diwrnod yn swyddfa RSPB Cymru yng Nghaerdydd. Roedd yr wythnos yna yn brofiad da iawn, roeddwn i wedi ymarfer llawer o sgiliau gwaith a hefyd dysgu llawer. Dw'i wir wedi joio fy wythnos gyda'r RSPB!

Ar fy niwrnod cyntaf roeddwn i'n mynd ar y we i edrych am blanhigion i fynd yn ardd bywyd gwyllt RSPB Cymru yn y Sioe Frenhinol ym mis Gorffennaf. Yn gwneud hyn, roeddwn i wedi dysgu llawer am greu gardd bywyd gwyllt.

Gadewch i mi roi rhestr o gwpl o blanhigion a bydd yn dda yng ngardd bywyd gwyllt a pham. Afalau Surion (Crab Apples) - bydd coeden afal surion yn dda iawn i'ch gardd bywyd gwyllt. Mae llawer o adar yn hoffi bwyta'r afalau, yn enwedig robin goch, drudwy, aderyn yr eira a llinos werdd. Yn y gwanwyn mae'r gwenyn yn cael ei denu i'r blodau ar y goeden. Mae'n gallu fod yn gartref i dros 90 fath o bryfed!

Llygad y Dydd, Dant y Llew a Ygall (Daisies, Dandelions and Thistles) – mae rhain yn denu gwenyn, pili-pala, pryfed hofran, gwyfynod a mwy. Mae hyd yn oed llinosod yn dod i hôl yr hadau.

Ceiros Cornelian (Cornelian Cherry) - mae'r ceirios yn denu'r adar yn dda ac yn dod o teulu’r Dogwood. Mae'r ffrwyth coch yn boblogaidd gyda'r adar yn yr haf.

Rhosyn (Rose)- mae'r adar yn hoff iawn o'r ffrwythau a llawer o bryfed yn cael eu denu i'r blodyn fel y pili-pala a gwenyn.

Os ydych chi am wybod mwy ewch i www.rspb.org.uk/wildlife/wildlifegarden/  Bydd y gwefan yn medru rhoi mwy o gyngor i chi o bethau rydych chi'n gallu rhoi yn eich gardd i ddenu bywyd gwyllt!

Diolch am ddarllen! Robyn