English version available here.
Mi wyddom pa mor bwysig yw byd natur i chi a dyna pam rydym eisiau dangos i chi rai o’r rhywogaethau a fydd yn elwa ar ein hymgyrch ddiweddaraf. Mae angen eich help chi arnom i wneud yn siŵr bod Llywodraeth Cymru’n llunio deddfau newydd fel y bydd safonau uchel Ewrop yn parhau ac y bydd yn gwella arnynt.
Mi fyddwn yn colli goruchwyliaeth y Comisiwn Ewropeaidd a chyrff eraill os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, sy’n golygu y bydd ein rheoliadau amgylcheddol yn gwanhau. Bydd yr hawl sydd gan ddinasyddion i gwyno i’r Comisiwn am achosion lle mae’r gyfraith amgylcheddol yn cael ei thorri hefyd yn diflannu.
Dyma rai o’r rhywogaethau rhyfeddol sy’n elwa ar hyn o bryd o dan warchodaeth cyfreithiau’r UE, ac y mae angen i chi weithredu i helpu i sicrhau y byddant yn cael cymaint o warchodaeth yn y dyfodol.
Tylluanod clustiog
Rwyf yn dylluan glustiog. Rwyf yn teithio i Gymru yn y gaeaf o wledydd fel Gwlad yr Iâ a Rwsia ac rwyf yn un o lawer o adar sy’n achos pryder Ewropeaidd. Daw hyd at 2,180 o barau bridio ohonom i’r DU ac rydym yn byw ar gorstiroedd a gwlypdiroedd arfordirol yn bennaf.
Mae gen i lygaid melyn fel llawer o dylluanod eraill sy’n hela yn ystod y dydd, a chudynnau o blu sy’n debyg i glustiau mamaliaid. Yn wahanol i fy ffrindiau sy’n hela yn y nos, mae’n well gen i fod allan yn ystod y dydd pan fyddaf yn chwilio am famaliaid bychain i’w bwyta, sy’n cynnwys llygod pengrwn y dŵr. Yng Nghymru rydym yn mwynhau diogelwch Ardal Warchodaeth Arbennig Skomer a Sgogwm.
Dyfrgwn
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod fy mod yn nofiwr da, ond a wyddoch chi fod mod yn gallu cau fy nghlustiau a fy llygaid pan fyddaf o dan y dŵr? Ynghyd â’r dolffin trwyn potel, y pathew a llawer o ystlumod, rwyf yn un o’r anifeiliaid sydd wedi’u cynnwys ar y Gyfarwyddeb Cynefinoedd sy’n sicrhau gwarchodaeth ystod eang o rywogaethau anifeiliaid a phlanhigion sy’n brin neu dan fygythiad.
Mae gen i draed gweog a chôt drwchus i fy helpu yn y dŵr pan fyddaf yn dal y pysgod, yr adar dŵr, yr amffibiaid a'r cramenogion rwyf yn eu bwyta. Mae fy nghenawon yn byw mewn gwâl o dan y ddaear a rwyf yn dal i adennill tir ar ôl dod yn agos at ddiflannu’n gyfan gwbl yn yr 20fed ganrif. Rwyf yn cael fy ngwarchod yn afonydd Cymru fel afonydd Teifi, Tywi, Cleddau, Wysg a Gwy.
Y Cudyll Bach
Fi yw’r aderyn ysglyfaethus lleiaf yn y DU ac rwyf hefyd yn un arall o’r adar sy’n achos pryder Ewropeaidd. Mae modd fy ngweld yn y DU drwy gydol y flwyddyn ac mae rhwng 900 a 1,500 o barau’n bridio yma. Rydym yn bridio ar rostiroedd grug gan gynnwys y Berwyn a’r Migneint ym mryniau Cymru. Er mai merlin yw’r enw Saesneg arnaf nid wyf, yn anffodus, yn meddu ar bwerau hudol y dewin chwedlonol Myrddin, felly rhaid i chi ofyn am fesurau gwarchodaeth gref ar fy rhan!
Y Trochydd Gyddfgoch
Os gwelwch chi drochydd bychan yng ngogledd Bae Ceredigion yn ystod y gaeaf, efallai mai fi fyddwch wedi’i weld – mae fy mhlu llwyd-frown a fy mhig sy’n gwyro ar i fyny yn fy ngwahaniaethu oddi wrth rywogaethau eraill. Os ydych chi’n crafu pen ynglŷn â fy enw, mae’n dod o’r gwddf coch amlwg sydd gen i yn yr haf. Rwyf yn un o’r llawer o adar sy’n dod ar eu gwyliau i Gymru yn ystod y misoedd oeraf cyn symud yn ôl i’r gogledd ym mis Mawrth/Ebrill. Gan fy mod braidd yn drwsgl ar y tir, dim ond i fridio y byddaf yn dod ar y tir. Yn y dŵr byddaf fel arfer yn neidio i fyny i blymio a gallaf aros o dan y dŵr am funud a hanner.
Môr-wennol fechan
Rwyf yn un o’r nifer o fôr-wenoliaid sy’n cael eu gwarchod gan gyfraith Ewrop a fi yw’r lleiaf ohonynt sydd i’w gweld yn y DU. Mae fy safleoedd nythu agored a’r dirywiad yn y niferoedd yn Ewrop yn golygu bod mesurau gwarchodaeth arbennig wedi’u cyflwyno i fy helpu, sy’n cynnwys aber afon Dyfrdwy. Rydym yn adar swnllyd sy’n perfformio yn yr awyr i ddenu cymar ac mae hynny’n cynnwys cynnig pysgodyn i ddarpar gymar, sydd wedyn yn ei erlid yn uchel i’r awyr cyn iddo ddod yn ôl i lawr yn ôl gyda’i adenydd ar ffurf 'V'. A wyddoch chi fod y fôr-wennol hynaf wedi’u darganfod yng Ngogledd Cymru'r llynedd a’i bod bron yn 25 oed?
I helpu i warchod y rhywogaethau hyn a llawer o rai eraill sy’n elwa ar warchodaeth o dan gyfraith yr UE, cwblhewch ein e-weithred.