Ers hynny, rydym wedi bod yn rhan o grŵp tasg rhanddeiliaid a gynullwyd i helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynigion. Adroddodd y grŵp tasg i’r Gweinidog ym mis Ebrill, ac mae hi newydd gyhoeddi ei hymateb i’r adroddiad hwnnw, lle mae’n cefnogi, mewn egwyddor o leiaf, holl argymhellion y grŵp. Mae'r rhain yn cynnwys yr angen am ddeddfwriaeth i ddod ag egwyddorion amgylcheddol craidd yng nghyfraith Cymru a sefydlu Comisiwn annibynnol i oruchwylio gweithrediad cyfraith amgylcheddol yng Nghymru.
Rydym yn falch bod y Gweinidog wedi cefnogi argymhellion y grŵp tasg. Mae'n destun pryder, fodd bynnag, gyda dim ond ychydig wythnosau tan ddiwedd y cyfnod trosglwyddo, nid oes gan Gymru ddeddfwriaeth nac amserlen glir i ddeddfwriaeth fynd i'r afael â'r bwlch llywodraethu. Tra bod mesurau dros dro yn cael eu paratoi, gan gynnwys recriwtio Asesydd Dros Dro, mae'r rhain yn llawer is na'r trefniadau parhaol sydd eu hangen ar frys i oruchwylio a gorfodi cyfraith amgylcheddol. O ganlyniad i hyn, yn groes i fwriadau datganedig Llywodraeth Cymru, bydd ein diogelwch amgylcheddol yn cael ei wanhau o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE.
Mae'n hanfodol bod cynnydd cyflym yn cael ei wneud gan y Llywodraeth bresennol i nodi cynigion deddfwriaethol clir.
(Fe gafodd fersiwn cyntaf y blog ei gyhoeddi 1 Ebrill, 2019)
Daw’r rhan fwyaf o’n deddfau natur a chadwraeth presennol o’r UE, ac maen nhw wedi’u seilio ar yr egwyddorion amgylcheddol sy’n rhan o Gytuniadau’r UE.
Mae pedwar egwyddor amgylcheddol ‘craidd’:
Yn ogystal ag anelu at lefel uchel o warchodaeth i fyd natur a’r amgylchedd, mae’r egwyddorion hyn hefyd yn cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy fel nod gyffredinol.
Mae sefydliadau’r UE bob amser wedi bod yn bwysig iawn wrth roi cyngor ynghylch deddfau amgylcheddol, eu monitro a’u gorfodi. Bydd colli arbenigedd a goruchwyliaeth y sefydliadau hyn yn creu ‘bwlch llywodraethu’ yn y DU.
Ar hyn o bryd, gall unrhyw ddinesydd neu sefydliad gyflwyno cwyn i’r Comisiwn Ewropeaidd, a hynny am ddim, os ydyn nhw’n poeni am y modd mae eu llywodraeth genedlaethol yn rhoi deddfau amgylcheddol ar waith. Mae gan y Comisiwn y pŵer i ymchwilio, i drafod â llywodraethau ac i’w gorfodi i weithredu yn y pen draw, drwy eu cyfeirio at Lys Cyfiawnder Ewrop.
Mae gan yr RSPB brofiad uniongyrchol o effaith y broses hon. Yn 2012, fe wnaethom gyflwyno cwyn i’r Comisiwn Ewropeaidd ynghylch ein pryderon nad oedd llywodraethau’r DU yn gwarchod adar môr yn ddigon da, fel yr oedd Cyfarwyddeb yr EU ar Adar yn mynnu. Fe arweiniodd y gŵyn hon at drafodaethau rhwng y Comisiwn a’r DU ac mae hynny, yn ei dro, wedi arwain at ardaloedd morol gwarchodedig newydd i adar môr yn y pedair gwlad.
Yng Nghymru, mae hyn yn cynnwys gwarchod gwenoliaid y môr sy’n chwilota am fwyd oddi ar Ynys Môn, adar pâl a huganod o amgylch Ynysoedd Sir Benfro, a throchyddion gyddfgoch (red-throated divers) sy’n treulio’r gaeaf ym Mae Ceredigion.
Felly, beth mae’r ymgynghoriad presennol yn ei ddweud? Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig gwneud yn siŵr bod yr egwyddorion amgylcheddol uchod yn cael eu cadw yng nghyfraith Cymru, drwy eu gwneud yn rhan o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru).
Mae hwn yn gynnig da – byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr bod yr holl egwyddorion craidd yn cael eu cynnwys yn y Ddeddf, a’i bod yn ddyletswydd ar bob corff cyhoeddus yng Nghymru i’w rhoi ar waith er mwyn cynnal a gwella iechyd ein hamgylchedd.
Dydy’r ymgynghoriad ddim yn gwneud cynnig penodol ynghylch sut gallwn lenwi’r bwlch llywodraethu ar ôl i ni adael yr UE, ac mae hynny’n siom. Mae hyn wir yn destun pryder gan y bydd yn cymryd amser i gyflwyno unrhyw drefniadau newydd, felly mae’n hollbwysig bod y cynlluniau iawn yn cael eu rhoi ar waith yn syth – heb drefniadau llywodraethu cadarn, bydd ein deddfau amgylcheddol yn cael eu gwanhau.
Fodd bynnag, mae’r ymgynghoriad yn cydnabod y bwlch a bod angen mynd i’r afael â hynny. Mae hefyd yn cydnabod bod angen trefniadau newydd arnom ni i sicrhau bod y gyfraith amgylcheddol yn cael ei goruchwylio’n annibynnol yng Nghymru, bod pobl yn dal yn gallu mynegi pryderon os ydyn nhw’n meddwl nad yw’r gyfraith yn cael ei dilyn, a bod modd cymryd camau gorfodi pan fydd angen.
Mae’r ymgynghoriad hefyd yn ystyried sut fath o gorff ddylai fod yn gyfrifol am gyflawni’r swyddogaethau hyn.
Rydym ni’n galw am 'gorff gwarchod’ newydd a fydd yn cynghori cyrff cyhoeddus yng Nghymru ynghylch cyflawni dyletswyddau amgylcheddol; yn derbyn cwynion ac yn ymchwilio iddyn nhw; yn sicrhau bod y gyfraith yn cael ei dilyn yn briodol ac, os bydd angen, yn cymryd camau gorfodi.
Bydd angen i gorff o’r fath fod yn annibynnol ar y llywodraeth, ond yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gallai’r corff newydd hwn fod yn benodol i Gymru, neu gallai fod yn rhan o gorff sy’n gwasanaethu mwy nag un o wledydd y DU. Y naill ffordd neu’r llall, yn sicr mae angen i bedair gwlad y DU gydweithio er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd safonau uchel ac yn cyflawni uchelgeisiau mawr ar gyfer ein hamgylchedd.
Rydym yn falch bod ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn gofyn beth sydd ei angen er mwyn i bedair llywodraeth y DU allu gweithio gyda’i gilydd yn effeithiol er budd yr amgylchedd – gan gynnwys cyflawni ymrwymiadau rhyngwladol y DU o ran bioamrywiaeth. Wedi’r cyfan, dydy byd natur ddim yn adnabod ffiniau, ac mae gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb i atal ei ddirywiad.