To read this blog in English, please click here.

Rydyn ni’n lwcus iawn yn y DU. Dydyn ni ddim yn gorfod meddwl yn galed iawn o ble mae ein dŵr yn dod, wedi’r cyfan, mae’n ymddangos o dapiau ac mewn poteli plastig. Gwyddom fod dŵr yn dod o fyd natur, ond ychydig iawn ohonom sy’n gwybod – neu’n meddwl – sut mae’r dŵr a ddefnyddiwn yn effeithio ar fyd natur. Y gwir amdani yw, mae o ble mae ein dŵr yn dod, sut rydyn ni’n ei ddefnyddio a ble mae’n mynd wedyn, yn cael effaith enfawr ar y bywyd gwyllt a’r tirweddau rydyn ni mor hoff ohonyn nhw.

Mae cwmnïau dŵr yng Nghymru a Lloegr yn rhan bwysig iawn o ddyfodol ein hamgylchedd. Maen nhw'n buddsoddi dros £8 biliwn bob blwyddyn ar ran eu cwsmeriaid (sef ni i gyd!) ac mae ganddyn nhw rôl hollbwysig wrth sicrhau bod gennym afonydd iach, dyfroedd arfordirol a thraethau glân, dŵr yfed diogel, llai o wastraff, llai o lifogydd a bywyd gwyllt sy'n ffynnu.

Ond fyddan nhw ddim yn gwneud hyn oni bai ein bod ni'n dweud wrthyn nhw am wneud. Felly byddai'n syniad da i ni wneud hynny..

Eleni, bydd cwmnïau dŵr yng Nghymru a Lloegr yn eistedd i lawr i lunio eu cynlluniau buddsoddi ar gyfer 2020-2025. Gelwir hyn yn ‘Adolygiad Pris 19’ neu'n ‘PR19’. Maen nhw'n gwneud hyn mewn cyfnod o ansicrwydd a newid digyffelyb i’r amgylchedd, i’r economi ac i'r gymdeithas, wrth i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr nad yw’r amgylchedd yn dioddef yn sgil dryswch yn y cyfnod hanfodol hwn, ac y bydd eu cynlluniau yn cyflawni er budd pobl a byd natur.

Ben Hall, rspb-images

Y Glasbrint cyntaf erioed ar gyfer PR19 yng Nghymru

Rhwydwaith o Sefydliadau Anllywodraethol ym maes yr amgylchedd, cefn gwlad a threftadaeth yng Nghymru yw Cyswllt Amgylchedd Cymru. Mae’n cynrychioli dros 36,000 o wirfoddolwyr a 283,000 o aelodau a chefnogwyr. Wyth ar hugain o’r Sefydliadau Anllywodraethol hyn ym maes yr amgylchedd sydd wrth wraidd yr ymgyrch ‘Glasbrint ar gyfer PR19 yng Nghymru’, gan gynnwys RSPB Cymru, WWF, yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt ac Afonydd Cymru. Mae’r sefydliadau hyn wedi dod at ei gilydd i siarad yn unedig am broblemau dŵr yng Nghymru ac i sicrhau bod cwmnïau dŵr yn gwrando arnoch ac yn mynd ati i achub byd natur.

Ar 18 Mai 2017, bydd Cyswllt Amgylchedd Cymru yn lansio’r Glasbrint cyntaf erioed ar gyfer PR19 yng Nghymru. Mae’r ddogfen ‘Glasbrint ar gyfer PR19’ yng Nghymru yn cynnwys argymhellion gan bob un o’r 28 Sefydliad Anllywodraethol. Ei nod yw dylanwadu ar gynnwys cynlluniau busnes y cwmnïau dŵr (PR19) er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cyflawni er budd pobl a byd natur. Mae’n tanlinellu pum maes ar gyfer gweithredu:

-       Gwarchod ac adfer dalgylchoedd dŵr o’i darddiad i'r môr

-       Atal llygredd dŵr

-       Newid sylweddol ar gyfer bioamrywiaeth

-       Defnyddio dŵr yn ddoeth a rhoi pris teg ar ddŵr

-       Gwneud yn siŵr bod yr afonydd yn dal i lifo a bod gwlyptiroedd yn parhau’n wlyb

Mae RSPB Cymru wedi llofnodi'r Glasbrint oherwydd ein bod yn cydnabod bod gan gwmnïau dŵr, fel darparwyr dŵr glân a rheolwyr tir, y gallu i gyfrannu at y broses o wrthdroi dirywiadau ym myd natur. Yn ogystal â hyn, mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar gwmnïau dŵr sy’n gweithredu'n gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru i gynnal a gwella bioamrywiaeth drwy eu gweithgareddau, a hybu gwytnwch ecosystemau drwy wneud hynny. Rydym am sicrhau bod hyn yn cael ei ystyried yn eu cynlluniau busnes a bod unrhyw gamau gweithredu ar gyfer bioamrywiaeth yn cyd-fynd â Chynllun Adfer Natur Llywodraeth Cymru i helpu i gyflawni ein hymrwymiadau rhyngwladol i wella bioamrywiaeth.

Mae dipyn o waith o'n blaenau, gan ystyried canfyddiadau adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2016[i], sef bod 13% o rywogaethau dŵr croyw a gwlyptir y DU mewn perygl o ddiflannu am byth, ac mai dim ond 37% o gyrff dŵr yng Nghymru sy’n cael 'statws ecolegol da’[ii] ar hyn o bryd. Ond drwy gydweithio, mae unrhyw beth yn bosib.

Eleanor Bentall, rspb-images.com

Hoffech chi gymryd rhan? Codwch eich llais er budd byd natur yr haf hwn.

Pan fydd Cyswllt Amgylchedd Cymru yn lansio’r Glasbrint ar gyfer PR19 yng Nghymru (18 Mai 2017), byddwn yn gwahodd pob un ohonoch i ymuno â ni i siarad dros fyd natur. Gallwch gymryd rhan yn ein hymgyrch cyfryngau cymdeithasol dros yr haf a dweud wrth gwmnïau dŵr am roi blaenoriaeth i fyd natur yn eu cynlluniau busnes. Cadwch olwg ar flog We Love Wales ac ar Twitter @RSPBCymru i gael rhagor o wybodaeth am ffyrdd o weithredu.

Yn ystod y flwyddyn nesaf, bydd y cwmnïau dŵr yn cysylltu â rhanddeiliaid a chwsmeriaid i wneud yn siŵr bod eu cynlluniau'n cyd-fynd â diddordebau a blaenoriaethau eu cwsmeriaid.  Edrychwch ar wefan eich cwmni dŵr i weld sut gallwch chi gysylltu’n uniongyrchol. Mae croeso i chi rannu dogfen ‘Glasbrint ar gyfer PR19’ yng Nghymru, a fydd ar gael ar-lein ar 18 Mai. Os nad ydych chi’n siŵr pwy yw’ch cwmni dŵr, bydd y map hwn yn gallu eich helpu i ddod o hyd i’ch darparwr http://www.water.org.uk/consumers/find-your-supplier.Os hoffech chi gael gwybodaeth am berfformiad eich cwmni, a sut mae’n cymharu â chwmnïau eraill, edrychwch ar y wefan newydd wych yma www.discoverwater.co.uk.

Rydym yn credu’n gryf bod amgylchedd naturiol iach yn rhan greiddiol o ddiwydiant dŵr cadarn a llwyddiannus: diwydiant sy'n gallu diwallu anghenion cwsmeriaid heddiw ac yfory, ac sy’n gallu delio â’r heriau rydym yn eu hwynebu, fel newid yn yr hinsawdd a thwf mewn poblogaeth. Dyma’r amser i weithredu. Gallwch ddweud eich dweud yn ystod yr haf a helpu i wneud yn siŵr bod cynlluniau busnes nesaf y cwmnïau dŵr yn dda i bobl ac yn dda i’r amgylchedd.

Cadwch olwg ar @RSPBCymru ac ar flog We Love Wales. i gael gwybod sut gallwch chi weithredu ym mis Mai 2017.