Mae RSPB Cymru yn awyddus i barhau gyda helpu ysgolion i fod yn fwy 'gwyrdd' ar ôl flwyddyn gyntaf llwyddiannus iawn gyda'r prosiect Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd.

Trwy y prosiect, wedi ei weithredu ar y cyd â Chyngor Dinas Caerdydd, mae RSPB Cymru wedi ysbrydoli dros 3,500 o blant i rhoi cartref i fyd natur ar dir eu hysgol.

 

 

Drwy gyfrwng y project Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd, rydym yn cynnig tair sesiwn i ysgolion cynradd, pob yn un yn parhau awr a hanner, i helpu eich disgyblion ddysgu am y bywyd gwyllt y tu allan i ffenestri eu dosbarth, ac ystyried sut i wneud eu hysgol yn fwy cyfeillgar i fyd natur.

Cyflwynir pob un o’n sesiynau rhad ac am ddim gan ein staff a gwirfoddolwyr gwybodus.  Dros gyfnod y flwyddyn addysgol hon cyflwynir dwy sesiwn yn eich ysgol.  Bydd hyn yn helpu eich disgyblion ddysgu mwy am y bywyd gwyllt o’u cwmpas a’u hannog i wneud mwy dros fyd natur nawr ac yn y dyfodol.

Y tair sesiwn y gallwn eu cyflwyno yn eich ysgol yw:

Bioblits

Rydym yn hyderus fod eich ysgol eisoes yn rhoi cartref i fyd natur, ond i beth ac ym mhle?  Bydd ein sesiwn Bioblits yn eich helpu chi i ddod o hyd i’r ateb.

Byddwn yn dod â phob dim sydd ei angen arnoch i helpu eich disgyblion roi’r Bioblits ar waith yn yr ysgol.  Gyda’n rhwydi ysgubo, chwyddwydrau ac offer canfod natur arall byddwn yn helpu eich disgyblion i chwilio am blanhigion ac anifeiliaid o dan bob carreg, llwyn a mat drws.

Drwy gyfrwng y Bioblits cewch ganlyniadau rhyfeddol; cannoedd o rywogaethau a bywyd gwyllt ym mhob twll a chornel.  Yn y sesiwn hon cynigir cyfle i’ch disgyblion archwilio mân gynefinoedd eich ysgol i ddod o hyd i blanhigion ac anifeiliaid sydd wedi addasu i wahanol amgylcheddau, eu hadnabod a deall beth maent yn ei wneud a beth sydd angen i ni ei gyflenwi iddynt.

Mae ein sesiwn Bioblits ar gael drwy’r flwyddyn ac mae’n gweithio mewn unrhyw dymor.  Yn yr hydref efallai y cawn hyd i fwy o anifeiliaid yn cysgodi rhag yr oerni ac yn yr haf bydd anifeiliaid yn fwy bywiog!

Dyma rhai o'r adnoddau sydd ar gael ar gyfer y sesiwn yma.

http://www.rspb.org.uk/forprofessionals/teachers/resources/school-grounds/index.aspx

 

Gwylio Adar yr Ysgol

Cyfle i’ch dosbarth gymryd rhan yn arolwg gwylio adar mwyaf a hynaf Ewrop; project gwyddoniaeth enfawr gan ddinasyddion.  Bydd y sesiwn hon yn helpu eich disgyblion i gymryd rhan. 

Wrth ddefnyddio ein harweinlyfrau adnabod ac ysbienddrychau a gydag arbenigedd yr RSPB wrth law byddwn yn cydweithio â’ch dosbarth i weld ac adnabod adar eich ysgol.  O’r fwyalchen i’r robin goch, byddwn yn cyfrif pob un aderyn, yn ei gofnodi gyda’ch disgyblion ac yn eu helpu i anfon eich canlyniadau ar-lein i wefan Gwylio Adar yr Ysgol.

Gyda chanlyniadau o’r wefan gallwn gymharu a chyferbynnu’r adar a welir yn eich ysgol chi gyda’r rhai a welwyd mewn ysgolion ledled Caerdydd ac adnabod yr adar y gallwn eu denu yn y dyfodol.

Yn ystod y cyfnod rhwng Ionawr a Chwefror gallwn gyflwyno’r sesiwn hon ac anfon canlyniadau eich ysgol i wefan Gwylio Adar yr Ysgol.

Gallwn gyflwyno’r sesiwn hon ar unrhyw adeg arall o’r flwyddyn ac er na fydd eich canlyniadau’n cyfrif tuag at arolwg Gwylio Adar yr Ysgol bydd hyn yn ymarfer da ac yn gyfle da hefyd i weld ac adnabod adar eich ysgol, gyda rhywfaint o gymorth arbenigol.

Rhoi Cartref i Fyd Natur

Pe baech yn gallu creu map cynefin o’ch ysgol, sut fyddai hwnnw’n edrych?  Mwy o darmac nag o dywod, briciau’n hytrach na blychau adar?

Cynlluniwyd ein sesiwn Rhoi Cartref i Fyd Natur i helpu eich disgyblion fapio eich ysgol dros fyd natur, adnabod cynefinoedd a gofod ar gyfer natur sy’n bodoli eisoes, a nodi cyfleoedd i greu mwy.  Gyda chymorth cerdyn sgorio, bydd eich disgyblion yn sgorio eich ysgol o ran byd natur a gyda’n gilydd gallwn ddyfalu sut ac ym mhle y gallwn greu dipyn bach mwy o ofod i fyd natur a chynyddu bioamrywiaeth tir eich ysgol ... gyda’r posibilrwydd o sicrhau bod eich ysgol yn lle brafiach i chi ac i’ch disgyblion hefyd.

Wedi i’ch disgyblion nodi ychydig o bethau yr hoffent eu cyflawni byddwn yn cydweithio â chi i rannu canllawiau a llawer o bethau hawdd i’w gwneud i’ch helpu i wireddu’r cynlluniau yma a sicrhau y bydd eich ysgol yn fwy cyfeillgar i fyd natur. http://www.rspb.org.uk/forprofessionals/teachers/resources/school-grounds/index.aspx

Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu unrhyw un o’r sesiynau yma cysylltwch â Sarah Mitchell ar: 02920 353 271 / sarah.mitchell@rspb.org.uk

Ariennir Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd hyd 2017 diolch i gefnogaeth hael cwsmeriaid Tesco, drwy gyfrwng tâl bagiau plastig Llywodraeth Cymru.