Rhoi cartref i fyd natur yn eich ysgol ... sesiynau am ddim i ysgolion Caerdydd

Bwriad RSPB Cymru yw sicrhau bod ysgolion Caerdydd yn fwy ‘gwyrdd’, yn adeiladu cartrefi i fywyd gwyllt ac yn dod â bioamrywiaeth yn ôl i’w cae chwarae.

Yn ystod mis Medi lansiodd RSPB Cymru broject peilot newydd, ar y cyd â Chyngor Dinas Caerdydd, i ysbrydoli a helpu miloedd o blant ysgol gynradd 8-11 oed (Cyfnod Allweddol 2) ledled Caerdydd i roi cartref i fyd natur.

Drwy gyfrwng y project Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd, rydym yn cynnig tair sesiwn newydd mewn ysgolion cynradd, pob yn un parhau awr, i helpu eich disgyblion ddysgu am y bywyd gwyllt y tu allan i ffenestri eu dosbarth, ac ystyried sut i wneud eu hysgol yn fwy cyfeillgar i fyd natur.

Cyflwynir pob un o’n sesiynau rhad ac am ddim gan ein staff a gwirfoddolwyr gwybodus.  Dros gyfnod y flwyddyn addysgol hon cyflwynir dwy sesiwn yn eich ysgol.  Bydd hyn yn helpu eich disgyblion ddysgu mwy am y bywyd gwyllt o’u cwmpas a’u hannog i wneud mwy dros fyd natur nawr ac yn y dyfodol.

Y tair sesiwn y gallwn eu cyflwyno yn eich ysgol yw:

Bioblits

Rydym yn hyderus fod eich ysgol eisoes yn rhoi cartref i fyd natur, ond i beth ac ym mhle?  Bydd ein sesiwn Bioblits yn eich helpu chi i ddod o hyd i’r ateb.

Byddwn yn dod â phob dim sydd ei angen arnoch i helpu eich disgyblion roi’r Bioblits ar waith yn yr ysgol.  Gyda’n rhwydi ysgubo, chwyddwydrau ac offer canfod natur arall byddwn yn helpu eich disgyblion i chwilio am blanhigion ac anifeiliaid o dan bob carreg, llwyn a mat drws.

Drwy gyfrwng y Bioblits cewch ganlyniadau rhyfeddol; cannoedd o rywogaethau a bywyd gwyllt ym mhob twll a chornel.  Yn y sesiwn hon cynigir cyfle i’ch disgyblion archwilio mân gynefinoedd eich ysgol i ddod o hyd i blanhigion ac anifeiliaid sydd wedi addasu i wahanol amgylcheddau, eu hadnabod a deall beth maent yn ei wneud a beth sydd angen i ni ei gyflenwi iddynt.

Mae ein sesiwn Bioblits ar gael drwy’r flwyddyn ac mae’n gweithio mewn unrhyw dymor.  Yn yr hydref efallai y cawn hyd i fwy o anifeiliaid yn cysgodi rhag yr oerni ac yn yr haf bydd anifeiliaid yn fwy bywiog!

Gwylio Adar yr Ysgol

Cyfle i’ch dosbarth gymryd rhan yn arolwg gwylio adar mwyaf a hynaf Ewrop; project gwyddoniaeth enfawr gan ddinasyddion.  Bydd y sesiwn hon yn helpu eich disgyblion i gymryd rhan. 

Wrth ddefnyddio ein harweinlyfrau adnabod ac ysbienddrychau a gydag arbenigedd yr RSPB wrth law byddwn yn cydweithio â’ch dosbarth i weld ac adnabod adar eich ysgol.  O’r fwyalchen i’r robin goch, byddwn yn cyfrif pob un aderyn, yn ei gofnodi gyda’ch disgyblion ac yn eu helpu i anfon eich canlyniadau ar-lein i wefan Gwylio Adar yr Ysgol.

Gyda chanlyniadau o’r wefan gallwn gymharu a chyferbynnu’r adar a welir yn eich ysgol chi gyda’r rhai a welwyd mewn ysgolion ledled Caerdydd ac adnabod yr adar y gallwn eu denu yn y dyfodol.

Cynhelir ein Gwylio Adar yr Ysgol rhwng 5 Ionawr ac 13 Chwefror 2015.  Yn ystod y cyfnod hwn gallwn gyflwyno’r sesiwn hon ac anfon canlyniadau eich ysgol i wefan Gwylio Adar yr Ysgol.

Gallwn gyflwyno’r sesiwn hon ar unrhyw adeg arall o’r flwyddyn ac er na fydd eich canlyniadau’n cyfrif tuag at arolwg Gwylio Adar yr Ysgol bydd hyn yn ymarfer da ac yn gyfle da hefyd i weld ac adnabod adar eich ysgol, gyda rhywfaint o gymorth arbenigol.

Rhoi Cartref i Fyd Natur

Pe baech yn gallu creu map cynefin o’ch ysgol, sut fyddai hwnnw’n edrych?  Mwy o darmac nag o dywod, briciau’n hytrach na blychau adar?

Cynlluniwyd ein sesiwn Rhoi Cartref i Fyd Natur i helpu eich disgyblion fapio eich ysgol dros fyd natur, adnabod cynefinoedd a gofod ar gyfer natur sy’n bodoli eisoes, a nodi cyfleoedd i greu mwy.  Gyda chymorth cerdyn sgorio, bydd eich disgyblion yn sgorio eich ysgol o ran byd natur a gyda’n gilydd gallwn ddyfalu sut ac ym mhle y gallwn greu dipyn bach mwy o ofod i fyd natur a chynyddu bioamrywiaeth tir eich ysgol ... gyda’r posibilrwydd o sicrhau bod eich ysgol yn lle brafiach i chi ac i’ch disgyblion hefyd.

Wedi i’ch disgyblion nodi ychydig o bethau yr hoffent eu cyflawni byddwn yn cydweithio â chi i rannu canllawiau a llawer o bethau hawdd i’w gwneud i’ch helpu i wireddu’r cynlluniau yma a sicrhau y bydd eich ysgol yn fwy cyfeillgar i fyd natur.

Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu unrhyw un o’r sesiynau yma cysylltwch â Sarah Mitchell ar: 02920 353 000 / sarah.mitchell@rspb.org.uk

Ariennir Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd hyd 2017 diolch i gefnogaeth hael cwsmeriaid Tesco, drwy gyfrwng tâl bagiau plastig Llywodraeth Cymru. 

English

RSPB Cymru is on a mission to help ‘green-up’ schools in Cardiff, build homes for wildlife and bring biodiversity to your playground.

RSPB Cymru is launching a brand new pilot project this September in partnership with the City of Cardiff Council, to inspire and help thousands of primary school children aged 8 – 11 (Key Stage 2) across Cardiff to give nature a home.

Through the project; Giving Nature a Home in Cardiff, we’re offering three new outreach sessions for primary schools, each lasting an hour to help your pupils learn about the wildlife outside their classroom window and identify what they can do to make their school more nature-friendly.

All our sessions are free of charge and delivered by our expert staff and volunteers, who can deliver two sessions in your school over the course of this academic year to really help your pupils learn more about the wildlife around them; encouraging them to do more for nature, now and in the future.

The three sessions we can deliver in your school are:

Bioblitz

We’re pretty sure your school is already giving nature a home, but to what and where? Our Bioblitz session will help you find the answer.

We’ll arrive armed and ready to help your pupils Bioblitz your school. Using our sweep nets, magnifying glasses and other nature detective equipment we’ll help your pupils hunt for plants and animals under every rock, bush and doormat.

Bioblitzes can unearth some amazing results; hundreds of species and wildlife in corners you never knew existed. This session offers your pupils the chance to investigate the microhabitats around your school to find plants and animals adapted to different environments, identify them and work out what they do and what they need from us.

Our Bioblitz session is available all year round and works in any season. In autumn we might find more animals tucked away for warmth and in summer animals will be more active; keeping us on our toes!

Big Schools Birdwatch

A chance for your class to take part in Europe’s biggest and longest running birdwatch; a huge citizen science project and this session will help your pupils get involved.

Using our ID guides and binoculars and with some RSPB expertise on hand we’ll work with your class to spot and identify the birds around your school. From blackbirds to robins, all the birds we spot we’ll count and record with your pupils and help them to submit your results online to the Big Schools Birdwatch website.

Using results from the website we can compare and contrast the birds found in your school to those spotted in other schools across Cardiff and identify the birds we could attract in future.

Our Big Schools Birdwatch runs from 5 January to 13 February 2015. During this time we can deliver this session and submit your school results to the Big Schools Birdwatch website.

At all other times of year  we can deliver this session, your  results won’t count towards the Big Schools Birdwatch survey, but it’ll be good practice and is still a great chance to spot and identify the birds around your school, with some expert help.

Giving Nature a Home

If you could create a habitat map of your school, what would it look like? More tarmac than toaditats, bricks than bird boxes?

Our Giving Nature a Home session is designed to help your pupils map your school for nature and identify habitats and spaces for nature that already exist and spot opportunities for more. Armed with a scorecard, your pupils can score your school for nature and together we can work out how and where we could make a little bit more space for nature and increase the biodiversity around your school ... potentially making your school a nicer place to be, for you and your pupils too.

Once your pupils have identified a few things they’d like to do we’ll work with you to share top tips and lots of easy ‘how tos’ to help you realise these plans and help make your school more nature-friendly.

If you’re interested in booking any of these sessions please contact Sarah Mitchell on: 02920 353 000 / sarah.mitchell@rspb.org.uk

Giving Nature a Home in Cardiff is funded until 2017 thanks to the generous support of Tesco customers, through the Welsh Government’s carrier bag levy.