To read this blog in English please click here

Mae’n haf o’r diwedd. Mae’r blodau yn eu llawn dwf, mae glöynnod byw ar hyd a lled y caeau ac yn eu mysg mae creadur bach, ond pwysig, yn brysur yn peillio blodau ac yn dod â’n gwyrddni ni’n fyw. Mae’r cardwenyn main yn hynod bwysig i natur a dynoliaeth - maen nhw’n peillio blodau er mwyn i blanhigion allu blodeuo a lluosogi, gan roi bwyd a llefydd hardd i ni eu mwynhau, ac maen nhw’n helpu i ddarparu cartrefi sy’n gyforiog o flodau i fywyd gwyllt eraill hefyd. Ond y cardwenyn main hyn yw’r gwenyn sydd fwyaf dan fygythiad yn y DU bellach, ac o gofio bod y datblygiadau i’r ffordd yn bygwth eu cartref, ai dyma fydd eu haf olaf ar Wastadeddau Gwent. 

Unwaith i’w weld ledled Cymru a Lloegr, erbyn 2000 dim ond saith poblogaeth o’r rhywogaeth oedd ar ôl. Yn anffodus, mae dwy o’r poblogaethau yn Lloegr wedi diflannu’n llwyr, ond o’r pump sy’n weddill, mae’r poblogaethau cryfaf i'w gweld ar Wastadeddau Gwent yng Nghymru ac ar Aber y Tafwys yn Lloegr. Fodd bynnag, os nad oedd dirywiad y rhain yn ddigon drwg, mae datblygiadau ffyrdd bellach yn bygwth y ddwy boblogaeth hyn hefyd. Ond nid yw eu tynged yn anochel - os gweithiwn gyda’n gilydd i warchod cartref y gardwenynen fain, gall barhau i hedfan a pheillio am flynyddoedd i ddod.

Fel y gwyddoch, mae cynnig Llywodraeth Cymru i ymestyn a dargyfeirio rhan o’r M4 o amgylch de Casnewydd yn bygwth Gwastadeddau Gwent ar hyn o bryd. Mae’r RSPB wedi gwrthwynebu’r cynigion hyn ers iddynt gael eu cyflwyno ddechrau’r 1990au oherwydd y niwed sylweddol y byddent yn ei wneud i’r bywyd gwyllt sy’n byw yno.

Mae Gwastadeddau Gwent yn bwysig iawn i’r gardwenynen fain am fod y dirwedd yn unigryw ac yn cynnwys dolydd sy’n llawn blodau gwyllt a glaswelltir, ynghyd â rhwydweithiau eang o ffosydd a phyllau dŵr. Oherwydd datblygiadau modern, fel ffyrdd a rheilffyrdd, mae’r ffosydd a’r ffosydd draenio i gyd wedi’u cysylltu mewn modd penodol nad ydych chi’n ei weld yn aml yn yr oes sydd ohoni. Gwyddom mai un o’r rhesymau tebygol dros ddirywiad cyffredinol y gwenyn hyn yw colli cynefinoedd cysylltiedig, felly mae’n hanfodol ein bod yn gwarchod yr ychydig lefydd sydd ar ôl sy’n darparu cartrefi arbennig ar gyfer y bywyd gwyllt.

Yn anffodus, byddai’r cynlluniau ar gyfer yr M4 yn torri drwy ganol cartref y gwenyn, gan rannu’r dirwedd mewn modd a fyddai’n lleihau eu cyflenwad o fwyd a’u gallu i nythu a bridio. Byddai’r ‘llwybr du’ arfaethedig yn defnyddio 721 hectar o dir i gyd. Yn rhwydwaith Gwastadeddau Gwent o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, byddai 135 hectar o dir yn cael ei ddinistrio’n barhaol, a byddai 20 hectar arall o gynefinoedd yn cael eu colli yn ystod y pedair blynedd y byddai’n ei gymryd i adeiladu’r ffordd.

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ystyried sut y gellid creu cartrefi newydd ar gyfer y bywyd gwyllt y byddai’r ffordd newydd yn effeithio arno, sy’n wych, ond yn ôl pob golwg nid yw’r cynigion yn mynd i fod yn ddigon i ddadwneud y difrod. Mae’r math o natur y mae bywyd gwyllt fel y gardwenynen fain yn dibynnu arni yn hen iawn; mae wedi cymryd degau ar filoedd o flynyddoedd i greu’r amodau perffaith hyn. Byddai fwy neu lai’n amhosib eu hail-greu.

Rydyn ni’n parhau i ymgyrchu yn erbyn y datblygiad hwn, er mwyn i'r gardwenynen fain allu hedfan o hyd a pheillio ar gyfer pobl a natur fel ei gilydd. Ochr yn ochr â Sefydliadau Anllywodraethol eraill, rydyn ni’n cymryd rhan yn Ymchwiliad Cyhoeddus Llywodraeth Cymru ar yr M4, a fydd yn dirwyn i ben yn fuan. Fodd bynnag, dros y misoedd nesaf byddwn yn parhau i alw ar Lywodraeth Cymru i achub y Gwastadeddau, y gardwenynen fain a’r bywyd gwyllt gwych sy’n byw yn yr ardal.

Disgwylir penderfyniad ar ffawd Gwastadeddau Gwent yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Cadwch lygad allan am ragor o wybodaeth, a byddwch yn barod i sefyll gyda’n gilydd dros natur.