Click here for English version.

Rydym yn falch o fod wedi derbyn nawdd gan Lywodraeth Cymru i ymchwilio i'r potensial o ddefnyddio gwirfoddolwyr i gynyddu ein gallu i ymwneud ag ystod ehangach, a nifer uwch, o faterion polisi natur, ledled Cymru. Y nod yw sicrhau bod cadwraeth natur yn cael ei hystyried yn y ffyrdd newydd mae Llywodraeth Cymru yn ymwneud â materion cynllunio ac yn gwneud penderfyniadau ar lefelau lleol a rhanbarthol.

Mae datblygiad Datganiadau Ardal ac adolygiad, diwygiad a gweithredu Cynlluniau Lles Lleol a Chynlluniau Datblygu Lleol yn enghreifftiau lle y gellid creu gwell cysylltiad rhwng y cyhoedd â materion cadwraeth natur leol. Er enghraifft, os ydych chi'n pryderu am y dirywiad yn y niferoedd o adar sy'n nythu ar y ddaear yn eich ardal leol, adar fel y gylfinir, yna gallech dynnu sylw at hyn fel blaenoriaeth i gael sylw dan eich datganiad ardal leol.

 

Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych

Efallai'ch bod chi'n meddwl 'Ond dydw i ddim yn gwybod unrhyw beth am bolisi natur a datganiadau ardal'. Peidiwch â gadael i hynny eich rhwystro chi, mae'n rhaid i bob un ohonom ni ddechrau yn rhywle! A chofiwch, astudiaeth yn unig yw hon ar hyn o bryd i ymchwilio i'r potensial o gynyddu y nifer o wirfoddolwyr sy’n fodlon cyfrannu eu hamser i faterion polisi natur yng Nghymru. Mae hyn yn golygu fyddwn ni ddim yn gofyn i chi ymwneud ag unrhyw eiriolaeth polisi natur ar hyn o bryd. Yr hyn yr ydym am ei wneud ar hyn o bryd yw siarad â chi fel gwirfoddolwyr er mwyn pwyso a mesur eich diddordeb mewn gwneud rhywbeth tebyg yn y dyfodol. Fe all y cwestiynau yr hoffem eu holi gynnwys:

  • Hoffech chi gymryd rhan mewn materion yn ymwneud â pholisi natur?
  • Os felly, pa faterion polisi natur y mae gennych ddiddordeb ynddynt?
  • Sut hoffech chi wneud hyn?
  • Beth yw'r rhwystrau, cyfyngiadau neu heriau fyddai'n eich atal chi rhag cymryd rhan?
  • Beth allwn ni ei wneud i'ch helpu chi i baratoi? Hoffech chi dderbyn unrhyw hyfforddiant? Os felly, pa fath?

Achub natur trwy bobol

Gwirfoddolwyr yw enaid yr RSPB. Ar draws y DU rydym yn edrych i drawsnewid y ffordd yr ydym yn ymgysylltu â gwirfoddolwyr er mwyn annog a chefnogi mwy o bobol i gymryd rhan mewn mwy o ffyrdd a gweithgareddau er mwyn achub byd natur. Bydd adeiladu'r gallu hwn yng Nghymru yn sicrhau bod gan wirfoddolwyr yr wybodaeth a'r sgiliau i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar ein bywyd gwyllt.

Bydd y wybodaeth a roddwch i ni yn hynod werthfawr. Bydd yn rhoi syniad gwell inni o'r heriau a'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â chynnwys gwirfoddolwyr i ymgysylltu â materion polisi cadwraeth natur. Dyma'r cam cyntaf o ddatblygu cynghrair cryf o wirfoddolwyr a all gyfrannu eu cyfoeth o wybodaeth leol ac amgylcheddol, eu hamser a'u sgiliau i godi llais dros bolisïau sy'n gweithio i achub byd natur.  

Os hoffech chi ddysgu mwy am y project hwn neu gymryd rhan, cysylltwch â Rhys Evans (Swyddog Polisi Defnydd Tir RSPB Cymru) rhys.evans@rspb.org.uk