English version available here
Mae RSPB Ynys Gwales yn gartref i 36,000 o barau o huganod, sy’n golygu mai hon yw’r drydedd nythfa fwyaf yn y byd i’r aderyn môr hwn. Mae’n un o ddwy nythfa huganod yng Nghymru ac mae o bwysigrwydd rhyngwladol.
Fel y gallech fod wedi gweld yn y wasg eleni, mae huganod, ynghyd â llu o rywogaethau adar môr eraill, wedi cael eu taro gan achos o firws Ffliw Adar Pathogenig Iawn (HPAI). Tarddodd y straen H5N1 pathogenig iawn yn y diwydiant dofednod (poultry) dwys yn Asia ac ers hynny mae wedi lledaenu i boblogaethau adar gwyllt ledled y byd.
Tan nawr, nid oedd y clefyd wedi cyrraedd Ynys Gwales ac yr oeddem yn byw mewn gobaith y byddai’n parhau felly'r tymor hwn. Yn anffodus, nid yw hyn yn wir bellach ac, yn dilyn cyfres o farwolaethau amheus a gafodd ei gofnodi yn ystod un o’n hymweliadau monitro diweddar, mae’r clefyd wedi’i gadarnhau yn dilyn profion pellach gan DEFRA.
Ar hyn o bryd mae nifer yr achosion yn isel ond mae ganddo’r potensial i waethygu. Mae hi’n dal yn ddyddiau cynnar ar Ynys Gwales, ac rydym yn cadw’r safle dan wyliadwriaeth fanwl a byddwn yn diweddaru’r cyhoedd pan fydd mwy i’w ddweud. Mae’n bwysig cofio fod nifer yr adar yr effeithir arnynt yn isel ar hyn o bryd ac rydym yn monitro hyn.
Nid yw'r ynys yn agored ar gyfer glaniadau cyhoeddus oherwydd y lefelau aflonyddwch y byddai hyn yn ei achosi felly nid oes unrhyw newid yn hyn o beth.
Yn y cyfamser, efallai y byddwch yn dod ar draws huganod marw neu farw (neu adar môr eraill) wedi'u cario i mewn gan y môr ar draethau o amgylch Sir Benfro. Y cyngor yw peidio â chyffwrdd â’r adar hyn, cadw cŵn draw oddi wrthynt ac adrodd i DEFRA ar 03459 33 55 77.