English version available here
(Cyhoeddwyd yr erthygl hwn yn wreiddiol ar wefan yr IWA ar Orffennaf 22, 2024)
Yn ystod chwarter cyntaf 2024 bu Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ar ddau bolisi pwysig ochr yn ochr â’i gilydd, ac mae gan y ddau rôl allweddol ar gyfer mynd i’r afael â’r argyfwng amgylcheddol y mae Cymru’n ei wynebu. Prin y cyfeiriodd y ddau ymgynghoriad - ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ac ar Bapur Gwyn ar egwyddorion amgylcheddol, trefniadau llywodraethu a thargedau bioamrywiaeth - at y llall, ond mewn gwirionedd ni ellir gwahanu eu rhagolygon.
Roedd y Papur Gwyn yn nodi’r cynigion ar gyfer Bil i gau’r bwlch yn y trefniadau llywodraethu ers Brexit drwy ymgorffori egwyddorion amgylcheddol craidd yng nghyfreithiau Cymru a sefydlu corff gwarchod amgylcheddol annibynnol yn debyg i Swyddfa Diogelu’r Amgylchedd yng Nghymru a Lloegr. Bydd y Bil hefyd yn nodi targedau adfer natur sydd wedi’u rhwymo mewn cyfraith, sy’n adlewyrchu ymrwymiadau Cymru o dan Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang Kunming-Montreal (GBF) a’r angen brys i fynd i’r afael â’r golled ddifrifol a pharhaus o’n bioamrywiaeth. Cadarnhaodd cyhoeddiad Datganiad Deddfwriaethol Prif Weinidog Cymru ar 9 Gorffennaf y bydd y Bil Egwyddorion Amgylcheddol a Bioamrywiaeth yn cael ei ddwyn ymlaen yn ystod y flwyddyn i ddod.
Mae’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC) wedi bod yn destun trafodaeth ac ymgynghoriad ers 2016. Mae’n rhaid iddo gyflawni ar yr amcanion rheoli tir cynaliadwy a nodir yn Neddf <https://www.legislation.gov.uk/asc/2023/4/contents/enacted/welsh> Amaethyddiaeth Cymru 2023, sy’n cynnwys mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, adfer bioamrywiaeth a hyrwyddo dulliau cynhyrchu bwyd cynaliadwy. Mae’n seiliedig ar yr egwyddor ‘arian cyhoeddus ar gyfer nwyddau cyhoeddus’ - gan symud i ffwrdd o gymorthdaliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin sy’n gwobrwyo ffermwyr a rheolwyr tir eraill am y buddion amgylcheddol a ddarperir ganddynt. Yn dilyn yr ymgynghoriad diweddaraf, estynnwyd ei gyfnod datblygu am flwyddyn arall a disgwylir i’r cynllun ddechrau yn awr yn 2026.
Mae’r flwyddyn ychwanegol hon yn rhoi cyfle i wneud yn siŵr bod Dyluniad y CFfC yn ystyried y bil amgylcheddol newydd addawedig yn llawn, yn benodol y targedau adfer natur allweddol. Mae ymchwil wedi nodi newid wedi’i ysgogi gan bolisi mewn dulliau rheoli tir amaethyddol fel prif ysgogwr ein bioamrywiaeth a gollwyd yn y degawdau diwethaf. Efallai nad yw hyn yn syndod oherwydd mae tua 90% o dir Cymru yn cael ei ffermio – ffaith sydd hefyd yn golygu bod gan ffermio y potensial mwyaf i ysgogi adferiad bioamrywiaeth.
Rydym yn disgwyl i’r Bil newydd ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyflenwi targedau bioamrywiaeth sydd wedi’u rhwymo mewn cyfraith er mwyn atgyfnerthu dyletswyddau bioamrywiaeth awdurdodau cyhoeddus. Ond wrth drafod dylanwadu ar sut y rheolir tir preifat, mae’r CFfC, gyda chefndir o fframwaith rheoleiddiol sydd wedi’i gymhwyso’n gadarn, yn cynrychioli’r cyfle mwyaf i adfer natur yng Nghymru. Yma rydym yn edrych ar dargedau allweddol o’r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang yr ydym yn disgwyl iddynt gael eu hymgorffori mewn deddfwriaeth yng Nghymru, a sut y mae’n rhaid i’r CFfC helpu i’w gwireddu.
Gylfinir gan Jake Stephens
Adfer Rhywogaethau
Ffawd rhywogaethau, tua ohonynt 50,000 yng Nghymru, yw blociau adeiladu adferiad natur. Mae'r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang yn ei gwneud yn ofynnol i atal difodiant a achosir gan ddyn, lleihau'r risg o ddifodiant yn sylweddol ac adfer poblogaethau rhywogaethau i lefelau iach a gwydn erbyn 2050. Disgwyliwn i ddeddfwriaeth Cymru adlewyrchu'r nodau hyn, gan gynnwys drwy darged i gynyddu nifer y rhywogaethau erbyn 2050. Disgwyliwn i ddeddfwriaeth Cymru adlewyrchu’r nodau hyn, gan gynnwys drwy darged i gynyddu nifer y rhywogaethau erbyn 2030, a’i rhoi ar drywydd tuag at lefelau iach a gwydn. Mae hyn yn golygu gofalu am rywogaethau cyffredin yn ogystal â rhywogaethau prin a rhai sydd dan fygythiad.
Er mwyn hybu rhywogaethau cyffredin a darparu’r sail ar gyfer adferiad natur, mae’n rhaid i’r CFfC gefnogi ffermwyr ledled Cymru i reoli o leiaf 10% o’u tir caeedig fel y cymysgedd cywir o gynefinoedd y byddai ffermydd teuluoedd traddodiadol wedi’u darparu’n helaeth yn y gorffennol. Mae’r cymysgedd hwn yn cynnwys cynefinoedd llawn blodau a hadau, gwrychoedd sy’n cael eu rheoli’n dda, prysgwydd, coed, ardaloedd o laswellt garw a phyllau a nentydd. Mae canolbwyntio ar dir caeedig yn bwysig oherwydd dyma lle mae’r colledion cynefinoedd mwyaf arwyddocaol wedi digwydd, er enghraifft, rydym wedi colli mwy na 90% o ddolydd blodau Cymru.
Er mwyn atal difodiant rhywogaethau dan fygythiad, gan gynnwys y Gylfinir, yn aml mae angen i ffermwyr gydweithio i reoli ardaloedd o gynefinoedd sy’n ddigon mawr i gynnal poblogaethau. Bydd angen unigolion a sefydliadau eraill i sicrhau llwyddiant, er enghraifft drwy ddarparu cyngor arbenigol. I gefnogi hyn, bydd angen i’r CFfC hwyluso ac ariannu cydweithrediad tymor hir yn ddigonol. Dylai Llywodraeth Cymru fod yn cefnogi prosiectau peilot, er mwyn i ni ddysgu sut i wneud hyn yn dda.
Diogelu’r lleoedd pwysicaf ar gyfer natur
Y ‘targed 30 erbyn 30’ yw un o elfennau mwy adnabyddus y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i o leiaf 30% o dir a moroedd gael eu diogelu a’u rheoli’n effeithiol erbyn 2030, drwy ardaloedd gwarchodedig a ‘mesurau cadwraeth eraill effeithiol yn seiliedig ar ardal’ (‘OECM’). Roedd Cymru’n cyflawni’r targed hwn yn destun ‘plymio dwfn bioamrywiaeth’ gan Lywodraeth Cymru yn 2022.
Mae tua 11% o dir Cymru (gan gynnwys ardaloedd dŵr croyw yn cael ei gwmpasu ar hyn o bryd gan ddynodiad fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Mae SoDdGA yn amrywio’n ddramatig mewn maint; mae rhai’n ymestyn dros lawer o ddaliadau tir. Mae llawer yn safleoedd lle mae eu cynefinoedd a’u rhywogaethau arbennig wedi’u cynnal gan fyd ffermio dros ddegawdau. Fodd bynnag, yn ôl asesiad gwaelodlin yn 2020 gan Cyfoeth Naturiol Cymru, mae cyflwr 49% o SoDdGA yn anhysbys, ac mae cyflwr 60% y rhai sydd wedi’u hasesu mewn cyflwr anffafriol.
Er mwyn i Gymru gael siawns o gyflawni 30 erbyn 30, rhaid gwella ‘cynnig’ y CFfC i ffermwyr y mae eu tir yn cynnwys SoDdGA (neu ran ohono) yn radical. Rhaid i'r cynllun gefnogi ffermwyr i reoli a chynnal eu SoDdGA o'r cychwyn cyntaf, gyda chynlluniau rheoli yn eu lle erbyn diwedd ei flwyddyn gyntaf. Erbyn 2030 rydym am weld y cynlluniau hynny’n cael eu cyflawni ar bob safle, a dylai pob un gael asesiad cyflwr sylfaenol fel bod monitro rheolaidd yn gallu olrhain effaith y rheolaeth hon ar gyflwr safleoedd.
Er mwyn sicrhau’r targed ardal 30% bydd angen i fwy o SoDdGA gael eu dynodi, yn ogystal â phroses o nodi ‘OECM’ posibl a all gyfrannu. Mae syniadau’n parhau i gael eu datblygu ar beth y bydd hyn yn ei olygu i Gymru, ond mae’n debygol y bydd y cyfleoedd gorau’n deillio o ddulliau rheoli ac adfer cynefinoedd cyfoethog o ran mawn ar raddfa fawr, fel mawndir, a allai ddarparu cyfleoedd mewn marchnadoedd amgylcheddol fel credydau carbon. Dylai’r CFfC, drwy ei haen gydweithredol, gymell grwpiau o ffermwyr i gydweithio i reoli ac adfer cynefinoedd ar raddfa, yn y tymor hir.
Adfer ecosystemau a mynd i’r afael ag ysgogwyr colled
Mae’r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang hefyd yn cynnwys targedau i adfer ecosystemau diraddiedig, i fynd i’r afael ag ysgogwyr allweddol colli bioamrywiaeth gan gynnwys rhywogaethau anfrodorol ymledol a llygredd, ac i wella bioamrywiaeth a chynaliadwyedd mewn amaethyddiaeth. Mae hyn yn adlewyrchu’r manteision neu’r gwasanaethau a ddeellir yn dda y mae ecosystemau iach yn eu darparu, i amaethyddiaeth ac i’r gymdeithas gyfan: aer a dŵr glân, priddoedd ffrwythlon, dal a storio carbon, mwy o wydnwch yn wyneb y llifogydd a’r sychder mynych sy’n deillio o’r newid yn yr hinsawdd, ac iechyd a lles unigol (canfu arolwg diweddar yn y DU bod 79% o bobl yn credu bod natur yn bwysig i’n llesiant a’n ffyniant economaidd). Mae’r buddion cymdeithasol ehangach hyn yn cyflwyno achos clir i’r CFfC gyfeirio arian cyhoeddus i gefnogi ffermwyr i ffermio gyda, ac ar gyfer natur. Yn ogystal â hyn, mae ffermio gyda natur yn aml yn fwy proffidiol, am ei fod yn llai dibynnol ar fwydydd anifeiliaid a gwrteithiau drud.
Er ein bod yn clywed newyddion drwg diddiwedd am gyllidebau cyhoeddus, mae targedau cyfreithiol newydd yn sicr o lywio dewisiadau buddsoddi gan y Llywodraeth ac eraill. Rhaid defnyddio’r flwyddyn ddatblygu ychwanegol cyn i’r CFfC ddod yn weithredol i ganolbwyntio ar gyd-ddibyniaeth y ddau bolisi blaenllaw hyn, er budd y gymuned ffermio a Chymru gyfan.