Ffermio a Natur yng Nghymru

English version available here

Mae ffermio yn greiddiol i Gymru, gyda ffermwyr yn teimlo cysylltiad cryf â’r tir ac yn cael pleser o’r natur y maen nhw’n ei alw yn adref. Boed hynny’n alwad wefreiddiol y gylfinir, ysblander y breision melyn neu arogl gwrych y ddraenen wen yn y gwanwyn. Ers canrifoedd, mae’r systemau ffermio traddodiadol a ffermio chymysg yng Nghymru wedi darparu cynefinoedd ar gyfer amrywiaeth eang o rywogaethau. Yn anffodus, fodd bynnag, mae’r golygfeydd a’r synau tir amaethyddol eiconig hyn yn diflannu, ochr yn ochr â ffermio ei hun.

Wedi’i sbarduno gan yr angen i oroesi yn y diwydiant, mae ffermwyr yn aml yn teimlo mai eu hunig opsiwn i lwyddo yw ffermio’n fwy dwys ac, mewn rhai achosion, mae methu â gwneud hynny’n golygu nad yw ffermio’n ymarferol. Mae’r dwysáu hwn, sy’n cael ei yrru gan bolisïau anaddas a chynlluniau amgylcheddol annigonol, wedi lleihau amrywiaeth diwydiant amaethyddol Cymru, ffermio mwy traddodiadol, lleihau ansawdd tir amaethyddol a gwytnwch, yn ogystal â chael gwared â’r cynefin y mae rhywogaethau’n dibynnu arno i oroesi. Yng Nghymru, nid oes yr un o’n hecosystemau yn wydn ac ym mis Mehefin 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Argyfwng Natur; mae’r rhain yn deitlau nad oes neb eisiau i Gymru eu cael. Felly, ar yr adeg dyngedfennol hon i ffermio yng Nghymru, rhaid ei gwneud hi’n glir iawn nad ffermwyr yw’r gelyn yn nirywiad byd natur a bod ganddynt ran fawr i’w chwarae yn y gwaith o’i adfer.


Dyfodol ffermio yng Nghymru

Yn 2022, dechreuwyd cyfnod newydd i’r system ffermio yng Nghymru drwy gyhoeddi’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a’r Bil Amaethyddiaeth. Mae’r cynllun a’r mesur newydd yn seiliedig ar ffermio sy’n cyflawni pedwar amcan Rheoli Tir yn Gynaliadwy:

  • Cynhyrchu bwyd a nwyddau eraill mewn modd cynaliadwy
  • Lliniaru ac addasu i newid yn yr hinsawdd
  • Cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau a’r buddion maent yn eu darparu
  • Gwarchod a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol a hyrwyddo mynediad y cyhoedd atynt ac ymgysylltu â hwy, a chynnal yr iaith Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso ei defnyddio

Mae gennym yr un cyfle hwn i sicrhau bod ffermwyr yn cael eu talu i ofalu am yr union flociau adeiladu sydd eu hangen arnynt i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. Rhaid i ni sicrhau bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a’r Bil Amaethyddiaeth yn cyflawni nawr ac yn y dyfodol.

Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn dileu Cynllun y Taliad Sylfaenol yn raddol dros bum mlynedd o ddechrau 2025 a bydd yn talu ffermwyr am ganlyniadau amgylcheddol cadarnhaol. O ystyried cyflwr bregus y byd natur ac ecosystemau Cymru, mae wedi bod yn galonogol gweld bod gan fioamrywiaeth ei le ei hun yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ac nad yw’n cael ei ystyried fel un o sgil-gynhyrchion canlyniadau amgylcheddol eraill yn unig. Ond, os na fydd y gofynion amgylcheddol hyn yn cael eu gweithredu’n llwyddiannus drwy’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a’r Bil Amaethyddiaeth, gan sicrhau bod ffermwyr yn cael eu cynnwys ac yn cael eu galluogi i gyflawni’r camau gweithredu gofynnol hyn, byddwn yn gweld dirywiad pellach yng ngwytnwch yr ecosystem yng Nghymru.

Yng ngoleuni’r pwysau byd-eang a welwyd dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf drwy ofn y pandemig a gwrthdaro, rhaid i ffermio yng Nghymru fod yn fwy gwydn nag erioed ac mae bellach yn cael ei gydnabod bod ecosystemau gwydn yn sail i gynhyrchu bwyd cynaliadwy ac yn darparu seilwaith hanfodol ar gyfer busnesau fferm. Rhaid i bolisïau a chynlluniau alluogi ffermwyr Cymru i symud oddi wrth amaethyddiaeth ddwys er mwyn helpu i adfer natur a gwytnwch ecosystemau, i sicrhau ein bod yn gallu cynhyrchu bwyd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a darparu manteision amgylcheddol ehangach i gymdeithas.

Ar hyn o bryd yng Nghymru, mae ffermwyr yn gwneud union hynny, drwy ffermio sy’n ystyriol o natur, ac maent wedi gweld y manteision y gall y math hwn o ffermio eu cynnig i’w busnes a’u cadernid ar y fferm.

Ein gwaith

Yn gynharach eleni, bu grŵp o’r ffermwyr hyn yng Nghymru yn gweithio gydag RSPB Cymru i helpu i ddangos bod cynefinoedd a bywyd gwyllt yn gallu ffynnu mewn amrywiaeth o systemau ffermio, ledled y wlad. Bu’r ffermwyr yn asesu eu tir fferm, ar sail y safon Fair to Nature ac yna’n rhannu eu canfyddiadau gyda ni. Nod y safon yw helpu ffermwyr i ymgorffori a rheoli amrywiaeth o gynefinoedd bywyd gwyllt ar eu ffermydd er mwyn helpu i gynnal ac adfer natur ynghyd â chynhyrchu bwyd. Roedd y ffermwyr hyn yn gallu dangos bod gan bob un ohonynt gynefinoedd pwysig, gan gynnwys porfa barhaol sy’n llawn blodau, clustogfeydd afon ffyniannus, cynefinoedd âr gwerthfawr a phorfeydd coed eiconig. O hyn, mae RSPB Cymru wedi datblygu safon natur i Gymru, ac rydyn ni’n cynnig y dylid ei hymgorffori yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy er mwyn helpu pob ffermwr i weithio tuag at ddyfodol cadarnhaol i’r amgylchedd a ffermio.  

Byddwn yn parhau i ddefnyddio’r gwaith hwn i ddangos y gall ffermydd Cymru gynnwys amrywiaeth o gynefinoedd ar draws y systemau ffermio tra’n cynhyrchu bwyd yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy, sy’n gadarnhaol yn gyffredinol i natur, pobl a’r hinsawdd.