To read this blog in English please click here.

Mae natur yn darparu’r awyr iach rydym ni’n hanadlu, y dŵr glân rydym yn yfed a’r priddoedd ffrwythlon sy’n ein cynnal. Natur yw’r peiriant gwyrdd sy’n sbarduno ein heconomi. Mae’n ganolog i’n treftadaeth naturiol a diwylliannol ac mae’n darparu’r cyfoeth naturiol sy’n ein cadw ni’n iach ac yn fodlon. Ond, tra bo natur yn gofalu amdanon ni, pwy sy’n gofalu am natur?

Mae RSPB Cymru yn frwd dros fywyd gwyllt ac yn ymroddedig i’w achub. Mae’r bygythiadau mae natur yn eu hwynebu wedi gwaethygu ers cenhadaeth yr RSPB yn ôl yn 1889. Mae RSPB Cymru wedi camu i’r adwy i ateb yr heriau hyn drwy warchod ardaloedd sy’n llawn natur, adfer poblogaethau bywyd gwyllt bregus i gefn gwlad a chreu partneriaethau newydd, gan annog eraill i roi cartref i fyd natur. Mae’r elusen hefyd yn dod a miloedd o bobl ifanc a’u teuluoedd yn nes at ein bywyd gwyllt trefol yng Nghaerdydd, gan ymddangos mewn parciau, hybiau cymunedol a mannau gwyrdd ar draws y ddinas a thanio chwilfrydedd newydd sbon mewn natur. 

Uchod: Lluniau gan Martyn Poynor

Rydyn ni wrth ein bodd felly o gyhoeddi bod RSPB Cymru a Buglife Cymru wedi cael eu dewis fel elusennau’r flwyddyn Arglwydd Faer Dinas Caerdydd. Bydd hyn yn fodd i ni annog mwy byth i fwynhau’r rhyfeddod a’r hapusrwydd llwyr sy’n gysylltiedig â natur. O ddolydd blodau gwyllt Fferm y Fforest i lynnoedd tawel Parc y Rhath, mae Caerdydd yn morio mewn bywyd gwyllt, ond weithiau gall fod yn hawdd i ni fyw mewn dinas heb werthfawrogi’r byd naturiol gwych o’n cwmpas. Rydyn yn awyddus i wneud ein dinas yn gartref delfrydol i fywyd gwyllt a rhannu’r brwdfrydedd hwnnw dros natur gyda mwy o blant, teuluoedd a chymunedau.  

Yn ôl y gwaith ymchwil, yn anffodus, dim ond un o bob wyth plentyn yng Nghymru sydd â chysylltiad iach â byd natur. Felly mae RSPB Cymru a Buglife Cymru yn gweithio ledled Caerdydd i ddenu mwy o blant at natur drwy ein prosiect Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd, mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Caerdydd sydd wedi’i ariannu’n rhannol gan y Gronfa Loteri Fawr ac Aldi. 

Ers i’r prosiect gychwyn yn 2014, mae wedi darparu sesiynau allgymorth am ddim i dros ddwy ran o dair o ysgolion cynradd Caerdydd, gan gynnig profiadau ymarferol ym myd natur i dros 17,500 o blant. Mae wedi helpu cymunedau yn 90% o wardiau Caerdydd i dreulio mwy o amser gyda bywyd gwyllt drwy ddigwyddiadau am ddim i’r teulu, ac wedi gweithio gyda gwirfoddolwyr lleol sydd wedi treulio dros 4,000 o oriau yn helpu cymunedau i ymwneud â byd natur. Fodd bynnag, mae llawer o waith i’w wneud o hyd. Erbyn 2022, nod y prosiect yw denu 50,000 o blant, teuluoedd a chymunedau lleol eraill i ymgysylltu â natur; darparu sesiynau allgymorth natur am ddim ym mhob ysgol gynradd a lleoliad blynyddoedd cynnar yng Nghaerdydd; ysbrydoli cymunedau i greu cynefinoedd sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt yn eu hardal nhw ac annog mwy byth o bobl i wirfoddoli dros natur yng Nghaerdydd. 

Uchod: Lluniau gan Martyn Poynor

Mae natur yn gallu apelio at ein hemosiwn, gan ddarparu profiadau ac atgofion calonogol. Mae’n ein cadw ni’n fyw, mae’n allweddol i’n hiechyd a’n lles ac mae’n gwneud ein bywyd yn werth ei fyw.  Unwaith y bydd wedi mynd mae’n amhosib ei ddisodli. Os ydyn ni am drosglwyddo byd llawn bywyd gwyllt i’n plant mae angen i ni weithio gyda’n gilydd i’w warchod nawr.

Os hoffech dderbyn rhagor o wybodaeth, neu os hoffech roi neu godi arian ar gyfer RSPB Cymru fel Elusen yr Arglwydd Faer, cysylltwch â Robert.Williams@rspb.org.uk os gwelwch yn dda.