English version available here
Fe welson ni dipyn o newidiadau gwleidyddol yng Nghymru yn ystod 2024. Gawson ni dri Phrif Weinidog yng Nghymru a Llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan. Yng nghanol yr holl newid yma rydyn ni wedi bod yn brwydro dros fyd natur yn y Senedd ac yn San Steffan, ac mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur o ymgyrchu dros fyd natur. Dyma rai o’r uchafbwyntiau.
Ffermio a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Mae wedi bod yn flwyddyn enfawr i ffermio yng Nghymru. Ym mis Rhagfyr 2023, lansiodd Llywodraeth Cymru ei hymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Roedd hwn yn gyfle unigryw i helpu ffermwyr Cymru i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ar yr un pryd â mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur. Ym mis Chwefror, roedd bron i 500 ohonoch chi wedi ymuno â ni wyneb yn wyneb neu ar-lein yn ein wyth gweithdy Cynllun Ffermio Cynaliadwy a gynhaliwyd ar hyd a lled Cymru. Roedd rhain wedi arwain at gyflwyno nifer o ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru. Diolch eto i bawb a ddaeth a rhoi o’u hamser i ymateb.
Ym mis Mai, cyhoeddwyd y byddai’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cael ei ohirio am flwyddyn. Er bod yr oedi’n siomedig, roeddem yn croesawu bod yr amser ychwanegol hwn yn rhoi cyfle i ddatblygu’r Cynllun ymhellach. Ym mis Tachwedd, cadarnhawyd y byddai’r Cynllun yn talu i ffermwyr reoli o leiaf 10% o’u tir ar gyfer bywyd gwyllt ac i gynnal eu Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, sy’n hanfodol i adfer cynefinoedd a rhywogaethau yng Nghymru. Fodd bynnag, cyhoeddwyd hefyd y byddai’r targed o 10% ar gyfer gorchudd coetiroedd yn cael ei ollwng. Mae hyn yn destun pryder, yn yr un modd â’r diffyg eglurder am sut bydd cyllid yn cael ei rannu rhwng gwahanol haenau o’r cynllun. O ganlyniad, rydyn ni’n teimlo nad oes cynllun clir yn amlinellu sut bydd y cynllun yn gyffredinol yn helpu Cymru i gyflawni ei hymrwymiadau bioamrywiaeth ar gyfer 2030. Yn 2025, byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r sector gwledig, gan sicrhau bod lleisiau ein hymgyrchwyr yn cael eu clywed, a bod y cynllun mor effeithiol â phosibl i ffermwyr, i bobl ac i fyd natur.
Bil Natur Bositif
Ym mis Ionawr eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar y papur gwyn ar gyfer Bil ar egwyddorion amgylcheddol, llywodraethu amgylcheddol a thargedau adfer natur, sef y ‘Bil Natur Bositif’. Mae angen y Bil hwn ar frys i fynd i’r afael â’r bwlch mewn gwarchodaeth amgylcheddol a llywodraethu amgylcheddol a gafodd ei greu yng Nghymru pan adawodd y DU yr UE, ac i wreiddio nodau adfer natur yn y gyfraith i sbarduno gweithredu dros ein bioamrywiaeth yn unol ag ymrwymiadau byd-eang.
Rhwng mis Mawrth a mis Ebrill, roedd dros 1,000 ohonoch wedi gweithredu, gan ymuno â ni am weminar a chodi llais drwy bwyso ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn ddigon cadarn ac uchelgeisiol i sicrhau Cymru Natur Bositif. Yn nes ymlaen yn y gwanwyn, fe wnaethon ni weithio gyda Climate Cymru a oedd wedi creu ffilm a oedd yn gofyn i bobl rannu hoff atgofion eu plentyndod o fyd natur a rhannu’r hyn y bydden nhw’n hoffi i genedlaethau’r dyfodol ei gael o fyd natur. Mae hi wedi bod yn wych clywed eich cysylltiadau personol dwfn a’ch atgofion o fyd natur, a fydd yn ein sbarduno i frwydro dros fyd natur Cymru.
Ym mis Awst, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddiweddariad ar y Bil. Mae ganddo lawer o agweddau cadarnhaol ac mae’n ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu meysydd allweddol ymhellach. Ond mae llawer o waith i’w wneud i sicrhau bod y Bil yn cyflwyno’r targedau cywir i sbarduno adferiad byd natur a bydd hyn yn flaenoriaeth i ni yn 2025.
Strategaeth Cadwraeth Adar y Môr
Drwy gydol y flwyddyn, rydyn ni wedi parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i greu Strategaeth Cadwraeth Adar y Môr ar gyfer Cymru, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd yn cael ei chyhoeddi yn y flwyddyn newydd. Mae creu strategaeth o’r fath wedi bod yn ofyniad allweddol i’r RSPB ers blynyddoedd lawer, gan fod adar y môr yn wynebu ystod gynyddol o fygythiadau, gan gynnwys newid hinsawdd a mwy o ddatblygiadau morol. Bydd darparu ateb tymor hir ar gyfer bioddiogelwch ynysoedd adar môr Cymru yn rhan annatod o hyn.
Gwenoliaid Duon
Rydyn ni wedi gweld llwyddiant ar ddiwedd y flwyddyn gyda’r ddeiseb rydyn ni wedi gofyn i chi ei chefnogi, i bwyso ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu y dylid gosod brics Gwenoliaid Duon ym mhob adeilad newydd. Yn anffodus, mae niferoedd Gwenoliaid Duon wedi disgyn 72% yng Nghymru dros y 30 mlynedd diwethaf a heb fwy o ddewisiadau nythu, bydd y Gwenoliaid Duon yn diflannu. Byddai gosod brics Gwenoliaid Duon ym mhob datblygiad newydd yn helpu i gynyddu niferoedd Gwenoliaid Duon (ac adar eraill sy’n cael trafferthion fel Gwenoliaid y Bondo ac Adar y To), felly diolch i’r 10,930 ohonoch chi sydd wedi llofnodi a rhannu’r ddeiseb hon, sy’n golygu y bydd y Pwyllgor Deisebau yn ystyried y mater i’w drafod. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i bethau ddatblygu.
Dyma ddim ond rai o uchafbwyntiau 2024 yn RSPB Cymru ac mae’n edrych y bydd 2025 yn brysur iawn hefyd, felly dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol a gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru i fod yn ‘hyrwyddwr ymgyrchoedd’ yr RSPB i gael newyddion ein hymgyrch Gweithredu dros Natur, i helpu i achub y byd natur rydych chi’n ei garu a'i ddiogelu ar gyfer y dyfodol.
Diolch yn fawr am eich holl gefnogaeth eleni - fydden ni ddim yn gallu gwneud hyn heboch chi!