Sgroliwch i lawr am y fersiwn Saesneg / Scroll down for the English version
Rydym yn wynebu un o’r heriau mwyaf yn ein hanes hir o 126 mlynedd, ac rydw i’n gofyn am eich cefnogaeth bwysig heddiw.
Dros y 30+ mlynedd diwethaf, y Cyfarwyddebau Natur oedd conglfaen bron pob dim a sicrhawyd gennym. Hebddynt, byddai gwarchod ein mannau naturiol a’n bywyd gwyllt mwyaf gwerthfawr wedi bod yn llawer anoddach neu hyd yn oed yn amhosibl. Hebddynt, ni fyddem wedi sicrhau adferiad rhyfeddol aderyn y bwn, nac wedi sicrhau gwarchodfa hyfryd Gwlyptiroedd Casnewydd i wneud yn iawn am golli Bae Caerdydd. Ni fyddem wedi gallu arwain adferiad mentrus yr orgors ar fynyddoedd hardd y Berwyn, sydd wedi sicrhau buddion i fywyd gwyllt, i ddŵr ac i garbon.
Erbyn hyn mae ‘Gwiriad Ffitrwydd’ yn cael ei gynnal ar y Cyfarwyddebau Natur yn unol â Rhaglen Ffitrwydd a Pherfformiad Rheoliadol yr UE (REFIT). Bydd hwn yn asesu a ydynt yn cyflawni’r hyn y’u crëwyd i’w wneud - gwarchod cynefinoedd a rhywogaethau pwysicaf Ewrop. Mae gwir bryder ledled yr UE bod rhai gwleidyddion yn dymuno gwanhau’r Cyfarwyddebau Natur.
Credwn yn gryf bod y Cyfarwyddebau Natur yn briodol i’w pwrpas ac y dylai’r Comisiwn Ewropeaidd, yn hytrach na’u gwanhau, ganolbwyntio ar wella sut maent yn cael eu rhoi ar waith ledled holl wledydd Ewrop. Credwn eu bod yn well i fywyd gwyllt, yn well i fusnes ac, yn hanfodol, yn well i bobl.
Heddiw rydym yn lansio ein hymgyrch i warchod y Cyfarwyddebau Natur, ac rydym yn gofyn i bob un ohonoch, , eich ffrindiau, eich teulu a’ch cydweithwyr, gefnogi’r ymgyrch hwn.
1. Cwblhewch yr ymgynghoriad llawn yn uniongyrchol ar wefan y Comisiwn yma(dylai hyn gymryd hyd at 20 munud). Wedi i chi wneud hyn, anfonwch e-bost at NatureDirectives@rspb.org.uk i adael i ni wybod eich bod wedi gwneud yr uchod er mwyn ein helpu ni i gadw llygad ar gynnydd yr ymgyrch.
NEU
2. Crëwch gefnogaeth weledol - os nad ydych yn teimlo’n ddigon hyderus i gwblhau’r ymgynghoriad llawn yna os gwelwch yn dda treuliwch 2 funud yn cwblhau’r weithred un-clic drwy gyfrwng ein gwefan. Peidiwch â gwneud hyn yn ogystal â’r ymgynghoriad llawn os gwelwch yn dda.
3. Gwnewch rywbeth ymarferol ar y Cyfryngau Cymdeithasol - Postiwch ar Facebook neu Trydar/ail-drydar cyswllt i’n gwefan.
4. Crëwch symudiad - rhannwch hyn gyda’ch cyfeillion, teulu, cysylltiadau, cyfoedion ... siaradwch â hwy am y mannau a’r bywyd gwyllt sy’n hoff gennych chi a hwy, a gofynnwch iddynt weithredu nawr drwy fynd i’n gwefan.
Rydym yn gofyn am ychydig funudau o’ch amser – dewch i’n helpu i ennill y frwydr hon os gwelwch yn dda. Gweithredwch heddiw!
Diolch i chi!
Katie-jo
photo: lapwing rspb-images.com
ENGLISH
We are facing one of the biggest challenges in our 126 year history, and I’m asking for your urgent support today.
For the last 30+ years, the Nature Directives have been the bedrock for almost everything we have achieved. Without them, defending our most precious natural places and wildlife would have been a far more difficult or even impossible task. Without them, we could not have achieved the remarkable recovery of the bittern, nor secured the wonderful Newport Wetlands reserve as the compensation for the loss of Cardiff Bay. We would not have been able to lead the ground-breaking restoration of the blanket bog on the wonderful Berwyn mountains, which has delivered benefits for wildlife, water and carbon.
The Nature Directives are now being subjected to a ‘Fitness Check’ under the EU’s Regulatory Fitness and Performance Programme (REFIT). This will assess whether they are doing the job which they were intended for – to protect European important habitats and species. There is a real concern across the EU that some politicians want to weaken the Nature Directives.
We firmly believe that the Nature Directives are fit for purpose, and that rather than weakening them, the European Commission should be focusing on improving how they are implemented across all European countries. We believe they are better for wildlife, better for business, and crucially better for people.
Today we are launching our campaign to defend the Nature Directives, and we are asking you all, and your friends, your family and your colleagues, to support this campaign:
1. Complete the full consultation directly on the Commission website here (this should take up to 20 minutes). Once you’ve done this, please send an email to NatureDirectives@rspb.org.uk to let us know that you’ve done it to help us track the progress of the campaign.
OR
2. Create a show of force - if you do not feel confident to complete the full consultation then please take 2 minutes for the one-click action through our website. Please don’t do this as well as completing the full consultation.
3. Get active on Social Media – Post on Facebook or Tweet/retweet a link to our website.
4. Create a movement - share this with your friends, family, contacts, associates... talk to them about the places and wildlife that you and they love, and ask them to take action now by going to our website.
We’re asking for just a few minutes of your time - please help us win this battle. Please act, and act today!
Thank you!