Ein gweledigaeth ar y cyd ar gyfer Cymru sydd â llais mwy dros natur

English version available here.

Mae RSPB Cymru yn croesawu gweledigaeth Cynulliad Dinasyddion Natur a Ni. Mae’r weledigaeth hon ar gyfer Cymru yn cyd-fynd yn gryf â Chynllun Natur y Bobl, a luniwyd gan Gynulliad Dinasyddion ledled y DU gyda chefnogaeth yr RSPB, WWF a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rydyn ni’n falch ein bod ni wedi cael cyfle i gyfrannu at broses Natur a Ni ac rydyn ni’n ddiolchgar am gefnogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru i Gynulliad y Bobl. Mae gweledigaeth Natur a Ni a Chynllun y Bobl yn galw am natur – a phobl – i gael fwy o lais mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar yr amgylchedd. Maen nhw’n galw am arweinyddiaeth a gweithredu gan y llywodraeth ar bob lefel – gan lywodraeth genedlaethol a lleol, sefydliadau cadwraeth natur, busnesau a chymunedau. 

Mae angen natur ar bobl. Mae’n rhoi aer a dŵr glân i ni. Dyma ein cymorth pennaf yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd, ac mae ganddo’r potensial i’n helpu ni i leihau allyriadau carbon – drwy storio mwy o garbon mewn ecosystemau – ac i’n helpu ni i addasu i’r effeithiau newid yn yr hinsawdd rydyn ni eisoes yn eu gweld, er enghraifft lleihau’r perygl o lifogydd drwy ddal mwy o ddŵr mewn tirweddau. Mae natur wedi’i rwymo â phroses cynhyrchu bwyd cynaliadwy; mae’n hanfodol i’n hiechyd a’n llesiant.

Ond mae’r dystiolaeth yn glir: rydyn ni’n colli ein bywyd gwyllt. Mae adroddiad Sefyllfa Byd Natur Cymru 2023 yn dangos gostyngiad cyfartalog o 20% yn nifer y rhywogaethau daearol a dŵr  croyw. Mae un rhywogaeth o bob chwech mewn perygl o ddiflannu o Gymru yn gyfan gwbl, ac mae pwysau hanesyddol a pharhaus wedi golygu mai Cymru yw un o’r gwledydd lle mae natur wedi dirywio fwyaf ar y ddaear.

Mae Cynulliad Dinasyddion Natur a Ni wedi gwneud galwadau clir a chalonogol i weithredu. Rydyn ni’n cytuno’n llwyr fod angen i’r Llywodraeth fabwysiadu cynllun clir i adfer natur, wedi’i ategu gan  broses gyfathrebu ac ymgysylltu gryf i wneud penderfyniadau. Fel y dywed y Cynulliad Dinasyddion, mae mynediad at natur yn hollbwysig i iechyd a llesiant pobl, ac mae angen gwneud mwy i sicrhau gwell mynediad i bawb. Mae angen trawsnewid ein systemau ynni, trafnidiaeth a bwyd mewn ffordd sy’n galluogi pobl i fyw bywydau gwyrddach ac iachach ac yn helpu i sbarduno’r gwaith o adfer byd natur.

Fel y dywed adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2023, dydyn ni erioed wedi cael dealltwriaeth gliriach o gyflwr natur, na sut i’w ddatrys. Ar ôl cyhoeddi’r adroddiad, fe wnaethom ofyn i bobl alw ar eu Haelodau o’r Senedd i ymateb i’r argyfwng natur drwy gefnogi’r camau brys hyn:

  • Gosod targedau cyfreithiol uchelgeisiol ar gyfer adfer byd natur – mae angen targed Sero Net cyfatebol sy’n gyfreithiol rwymol ar fyd natur i annog gweithredu ar draws sectorau a galluogi Cymru i gyflawni’r nod byd-eang o atal colli bioamrywiaeth erbyn 2030 a sicrhau adferiad erbyn 2050.

  • Sicrhau bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd yn cefnogi ffermio sy’n ystyriol o natur. Mae 90% o’r tir yng Nghymru yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ffermio, felly mae’n rhaid i ffermio chwarae rhan bwysig yn y gwaith o adfer byd natur.  
  • Gwella’r ardaloedd gwarchodedig ar gyfer byd natur. Dim ond 11% o dir Cymru sydd wedi'i warchod ar gyfer byd natur a dim ond cyfran fach sydd mewn cyflwr da.  
  • Diogelu bywyd morol Cymru yn briodol, drwy ardaloedd morol gwarchodedig sy’n cael eu rheoli’n dda a chynllun gofodol i arwain datblygiad oddi wrth safleoedd sensitif a galluogi natur i adfer.  
  • Creu Gwasanaeth Byd Natur i Gymru. Gallai buddsoddi mewn adfer greu hyd at 7000 o swyddi sy’n gysylltiedig â byd natur dros y degawd nesaf.  

O’n rhan ni, mae RSPB Cymru yn gweithio i sicrhau dyfodol mwy disglair i fioamrywiaeth Cymru. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy reoli ein 18 gwarchodfa natur lle rydyn ni’n gofalu am  amrywiaeth eang o gynefinoedd a rhywogaethau, ac rydyn ni’n croesawu ymwelwyr i brofi, mwynhau a dysgu yn y lleoliadau hyfryd hyn sy’n llawn natur. Mae angen i ni feddwl am syniadau mawr ar gyfer byd natur, felly rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth ag eraill i adfer cynefinoedd a dod â rhywogaethau dan fygythiad yn ôl, drwy brosiectau fel y Prosiect Coedwig Law Celtaidd, Natur am Byth, Partneriaeth Tirwedd y Gwastadeddau Byw, a Tir Canol.

Rydyn ni hefyd yn cefnogi’r prosiect Cymdogaethau Natur, gan weithredu Cynllun Natur y Bobl ar lefel cymdogaethau drwy weithio gyda phartneriaid cymunedol ym Maendy, Neyland a Phwllheli i alluogi mwy o gapasiti ar gyfer cyfranogiad cymunedol a chamau gweithredu sy’n cael eu hysgogi gan y gymuned ar gyfer natur. Bydd y tri sefydliad angor yng Nghymru yn rhan o rwydwaith o 18 o gymdogaethau amrywiol, cymdogaethau trefol yn bennaf ar draws y DU, a fydd yn cael eu grymuso gyda’r offer a’r adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i ddod â’u cymunedau at ei gilydd gyda phobl sy’n gwneud penderfyniadau lleol i sicrhau bod gweithredu dros natur a’r hinsawdd yn rhan hanfodol o gynlluniau yn y dyfodol.

A byddwn ni’n parhau i eirioli gyda Llywodraeth Cymru, y Senedd ac eraill, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, i sicrhau’r ddeddfwriaeth, y polisïau a’r cynlluniau sydd eu hangen ar natur i adfer a ffynnu.