English version available here.
Yn 2023 cyhoeddwyd adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2023, gan ddatgelu maint dinistriol y golled a'r camau brys sydd eu hangen i achub natur ledled Cymru. Er gwaethaf y ffigurau hyn, nid ydym erioed wedi cael gwell dealltwriaeth o gyflwr natur ledled Cymru a'r hyn sydd ei angen i'w hachub. Ar ddechrau’r flwyddyn newydd, dyma rai o’r pethau rydyn ni yn RSPB Cymru yn gobeithio eu gweld.
Pobl yn parhau i ddarganfod, gan gysylltu â’r byd natur o’u cwmpas a bod yn falch ohono.
Mae digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB yn ffordd wych o ddechrau, drwy dreulio awr yn cofnodi’r adar rydych chi’n eu gweld yn eich gardd, ysgol neu barc lleol. Y llynedd, cymerodd 26,206 o bobl ran ledled Cymru, gan ddychwelyd 15,325 o arolygon, ar ôl gwylio 513,485 o adar! Eleni rydyn ni’n ôl ar gyfer ein 45ed blwyddyn ac rydyn ni’n gofyn i bobl chwarae eu rhan unwaith eto i warchod adar yr ardd am genedlaethau i ddod. Rhagor o wybodaeth yma
Natur i fod yn flaenoriaeth i’n harweinwyr gwleidyddol.
Rydyn ni’n dechrau 2024 yng nghanol ras rhwng dau ymgeisydd i fod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru, a Phrif Weinidog nesaf Cymru yn ôl pob tebyg. Byddwn yn rhoi gwybod i’r ddau ymgeisydd – Vaughan Gething AS a Jeremy Miles AS – ein bod yn dymuno gweld adfer byd natur Cymru ymysg eu prif flaenoriaethau. Beth am wneud yr un peth?
Rhywbryd yn ddiweddarach yn y flwyddyn, rydyn ni’n disgwyl Etholiad Cyffredinol y DU – yng Nghymru a gweddill y DU byddwn yn pleidleisio dros yr Aelodau Seneddol a fydd yn ein cynrychioli yn San Steffan – a byddwn yn gofyn i’n cefnogwyr ein helpu i ddangos i bob plaid wleidyddol bod angen iddynt ymrwymo i ddod i’r adwy dros fyd natur.
Polisïau newydd i sbarduno adferiad byd natur.
Mae Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, sy’n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, yn gyfle unigryw i helpu ffermwyr i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur. Mae’r hyn sy’n cael ei gynnig yn yr ymgynghoriad yn ddechrau da, ond mae’n hanfodol bod holl elfennau’r cynllun ar waith cyn gynted â phosib, a bod y cynllun yn cael ei ariannu’n ddigonol er mwyn helpu ffermwyr i gymryd camau i atal colledion pellach a dechrau adfer bioamrywiaeth i’n tirweddau. Gallai'r hyn sy'n digwydd eleni wneud byd o wahaniaeth a byddwn yn gweithio i sicrhau bod RSPB Cymru a lleisiau ein cefnogwyr yn cael eu clywed.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at y Papur Gwyn Natur Bositif y mae Llywodraeth Cymru wedi’i addo ddiwedd mis Ionawr. Bydd hwn yn amlinellu cynigion i greu corff gwarchod amgylcheddol annibynnol newydd i Gymru, ac i gyflwyno fframwaith o dargedau cyfreithiol ar gyfer adfer byd natur. Mae angen hyn arnom i sicrhau bod holl adrannau’r llywodraeth a phob sector yn chwarae eu rhan i sicrhau bod Cymru’n cyflawni ei hymrwymiad rhyngwladol i atal a gwrthdroi prosesau colli bioamrywiaeth erbyn 2030, ac i sicrhau adferiad erbyn 2050. Byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad dros y misoedd nesaf.
Yn y cyfnod cyn COP15 lle cytunwyd ar y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang newydd, cynhaliodd Llywodraeth Cymru archwiliad dwfn i weld beth fyddai’n rhaid i Gymru ei wneud i gyrraedd y targed byd-eang i warchod a rheoli 30% o’r tir a’r moroedd ar gyfer byd natur yn effeithiol erbyn 2030. Mae gwella cyflwr safleoedd gwarchodedig presennol a dynodi rhai newydd, yn ogystal â gwella cysylltedd drwy reoli ac adfer cynefinoedd y tu hwnt i’w ffiniau, yn gam hanfodol tuag at gyrraedd y targed ‘30 erbyn 30’, a byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ac eraill eleni i gyflawni’r ymrwymiadau hyn.
Cymru sydd â’r boblogaeth fwyaf o Adar Drycin Manaw yn y byd, a’r drydedd nythfa fwyaf o Huganod. Oherwydd y gostyngiadau mawr a welir mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, yn enwedig yr Alban a gogledd Lloegr, mae pwysigrwydd cymharol Palod, Gweilch y Penwaig, a Gwylogod yng Nghymru wedi cynyddu. Dim ond mewn rhai mannau y gall yr adar môr hyn fridio, sy’n golygu ei bod yn hollbwysig ein bod yn diogelu’r mannau hyn yn briodol. Byddwn yn parhau i bwyso eleni am gyflwyno cynllun datblygu morol newydd, strategaeth cadwraeth adar môr a mabwysiadu monitro electronig o bell ar gychod pysgota, er mwyn sicrhau ein bod yn gofalu’n briodol am ein bywyd gwyllt morol anhygoel.
Mae Llywodraeth Cymru’n ystyried datblygu Gwasanaeth Natur Cymru i gefnogi’r gwaith o ddatblygu sgiliau gwyrdd a darparu cyfleoedd cyflogaeth ym myd natur ledled Cymru. Byddai cynllun peilot yn dangos sut gall buddsoddi mewn natur helpu i gefnogi cymunedau lleol yn ogystal ag adfer yr amgylchedd naturiol y mae pob un ohonom yn dibynnu arno. Bydd buddsoddi mewn Gwasanaeth Natur Cymru yn darparu cyfleoedd uwchsgilio ac ailsgilio mewn cadwraeth ac adfer natur, a gallai greu 7,000 o swyddi ym myd natur dros y degawd nesaf. Gobeithio mai 2024 yw’r flwyddyn y mae ein gwleidyddion yn ymrwymo i ariannu ei ddatblygiad. Gweithredu dros fyd natur mewn cymunedau a mannau gwyrdd ledled Cymru. Mae gweithio i ddylanwadu ar gyfreithiau a pholisïau i wella rhagolygon byd natur yn mynd law yn llaw â’n gwaith parhaus ar lawr gwlad i sicrhau dyfodol mwy disglair i fyd natur, yng ngwarchodfeydd yr RSPB a phrosiectau partneriaeth fel y Coedwigoedd Glaw Celtaidd a Chri’r Gylfinir (Curlew LIFE), a’n gwaith i adfer y mawndiroedd yn Llyn Efyrnwy. Rydyn ni hefyd yn edrych ymlaen at weld sut mae prosiectau sy’n cael eu hariannu gan Achub ein Hynysoedd Gwyllt fel ‘Cymdogaethau Natur’ yn datblygu, sydd â’r potensial i wneud gwahaniaeth go iawn a pharhaol i fyd natur drwy gydweithio cymunedol yng Nghasnewydd, Neyland a Phwllheli. Mae’r galwadau i weithredu a nodir yng Nghynllun Natur y Bobl yn parhau i daro tant hefyd, gyda hyrwyddwyr Cynllun y Bobl yn lledaenu’r gair yn ein cymunedau, ein busnesau ac i Lywodraeth Cymru.