English version available here.
Mae Sefydliadau’r UE yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o ystyried a mynd i’r afael ag achosion o dorri’r gyfraith, a chyflwyno newidiadau pwysig. Er enghraifft, yn 2012, fe wnaeth RSPB gyflwyno cwyn i’r Comisiwn Ewropeaidd ynghylch ein pryderon nad oedd llywodraethau’r DU yn gwarchod adar môr yn ddigon da, fel yr oedd Cyfarwyddeb yr EU yng nghyswllt Adar yn mynnu. Arweiniodd y gŵyn hon at drafodaethau rhwng y Comisiwn a’r DU ac, yn ei dro, arweiniodd hynny at ardaloedd morol gwarchodedig newydd i adar môr yn y pedair gwlad. Yng Nghymru, mae hyn yn cynnwys gwarchod gwenoliaid y môr sy’n chwilota am fwyd oddi ar Ynys Môn, adar pâl a huganod o amgylch Ynysoedd Sir Benfro, a throchyddion gyddfgoch sy’n treulio’r gaeaf ym Mae Ceredigion.
Mae RSPB Cymru wedi bod yn rhan o grŵp gorchwyl rhanddeiliaid a ffurfiwyd i helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu trefniadau llywodraethu amgylcheddol yng Nghymru yn y dyfodol. Roedd Gweinidog yr Amgylchedd yn cefnogi argymhellion olaf y grŵp, sef bod angen deddfwriaeth newydd yng Nghymru i ddod ag egwyddorion amgylcheddol craidd i gyfraith Cymru ac i sefydlu Comisiwn annibynnol i oruchwylio’r gwaith o weithredu cyfraith amgylcheddol yng Nghymru.
Byddai’r Comisiwn yn gallu derbyn a gweithredu ar gwynion gan aelodau o’r cyhoedd ynghylch unrhyw fethiannau gan Lywodraeth Cymru neu gyrff cyhoeddus eraill i weithredu neu gydymffurfio â rheolau a gofynion amgylcheddol. Yn anffodus, fodd bynnag, mae amser Llywodraeth Cymru wedi dod i ben o ran dod â deddfwriaeth ymlaen i’r Senedd bresennol ac mae’n ymddangos yn anochel y byddwn yn wynebu oedi hir, neu ‘fwlch llywodraethu’. Er mwyn osgoi bod yn y bwlch hwn yn rhy hir, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ymrwymo adnoddau i baratoi cynigion deddfwriaethol (Bil drafft) cyn gynted â phosibl, ac rydym yn gofyn i bob Plaid ymrwymo i ddod â deddfwriaeth ymlaen yn gyflym ar ôl etholiad y Senedd.
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi trefniadau dros dro ar waith a fydd yn cael eu goruchwylio gan Asesydd Dros Dro. Adeg ysgrifennu hwn, nid oes cyhoeddiad wedi’i wneud ynghylch pwy fydd yn gwneud hyn, ond mae tudalen we sylfaenol ar gael. Mae’r dudalen we yn ei gwneud yn gwbl glir na all pobl gyflwyno heriau neu gwynion a fydd yn arwain at ymchwilio neu wneud iawn am achosion posibl o dorri cyfraith amgylcheddol (mae’n egluro os bydd rhywun yn dymuno cyflwyno cwyn am achos posibl o dorri’r gyfraith y dylent ddilyn y dulliau presennol o unioni’r sefyllfa, fel adolygiad barnwrol, sy’n ddrud ac yn gyfyngedig o ran cwmpas).
Yn hytrach, o dan y trefniadau dros dro, bydd pobl yn gallu mynegi pryderon am sut mae cyfraith amgylcheddol yn gweithio. Bydd yr Asesydd Dros Dro yn casglu’r holl wybodaeth a ddaw i law ac yn cyflwyno adroddiad blynyddol. Bydd yn gallu adrodd i’r Senedd yn ogystal â chynghori gweinidogion ar faterion sy’n dod i’r amlwg. Rydym yn gobeithio – a byddwn yn parhau i ofyn – y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i roi cyhoeddusrwydd i’r rôl hon ar ôl penodi’r Asesydd, ac i egluro beth mae hyn yn ei olygu i bobl sydd â phryderon am faterion sy’n effeithio ar eu hamgylchedd. Ond mae’r dudalen we eisoes yn cynnwys cyfeiriad ebost y gellir ei ddefnyddio i godi pryderon.
Er nad yw’n beth drwg cael swydd wedi’i chreu i ystyried materion sy’n ymwneud â sut mae cyfraith amgylcheddol yn gweithio, mae’n amlwg nad yw’n disodli’r rôl oruchwylio a gorfodi y mae arnom ei hangen yn lle’r hyn a oedd yn cael ei ddarparu gan sefydliadau’r UE, fel yr argymhellwyd gan randdeiliaid ac a dderbynnir gan y Gweinidog.
Byddwn yn parhau i ymgyrchu dros drefniadau llywodraethu cadarn ac annibynnol i sicrhau bod ein hamgylchedd yn cael ei ddiogelu fel y mae’n ei haeddu.