Dylai pobl sy’n cymryd rhan yn arolwg Gwylio Adar yr Ardd eleni (Sadwrn 24 a Sul 25 Ionawr) sylwi sut mae adar yn defnyddio eu gerddi’n ogystal â gwylio’r adar eu hunain y flwyddyn hon.
“Bydd gweld pethau trwy lygaid aderyn yn eich helpu i ddeall yn union sut maent yn defnyddio’r hyn sydd yn eich gardd, yn sylwi ar unrhyw beth sy’n ei wneud yn fan peryglus neu ddigroeso, a’ch galluogi chi i wella eich dulliau o roi cartref i fyd natur pan fydd y gwanwyn yn cyrraedd,” meddai Stephen Bladwell, Rheolwr Bioamrywiaeth RSPB Cymru.
Disgwylir y bydd dros hanner miliwn o bobl yn gwylio ac yn cyfrif adar eu gerddi yn ystod penwythnos Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB y penwythnos hwn. Mae’r arolwg, sydd bellach yn 36 oed, yn darparu gwybodaeth bwysig am y newidiadau yn nifer yr adar sy’n defnyddio ein gerddi yn y gaeaf, ac yn helpu i dynnu sylw cadwraethwyr at y rhywogaethau hynny sy’n prinhau fel y llinos werdd a’r ddrudwen.
Y drudwy
Mae gan arbenigwyr ddiddordeb mewn gweld sut mae’r amodau tywydd cymysg o amgylch y DU hyd yma eleni wedi effeithio ar y nifer o adar mewn gerddi gwahanol ardaloedd. A fydd y nifer yn isel oherwydd bod digon o ffynonellau o fwyd naturiol yng nghefn gwlad, neu a fydd heidiau o adar yn galw heibio i wneud yn fawr o fwydwyr yn yr ardd?
Mae gwyddonwyr yr RSPB yn awyddus iawn i weld cymaint o bobl â phosib yn cymryd rhan, beth bynnag fo’r tywydd.
Meddai Stephen: “Er bod gosod bwyd i’r adar yn bwysig, nid dyma’r unig beth hanfodol. Mae angen amrywiaeth eang o blanhigion sy’n cynnig lloches a rhywle i glwydo ar adar er mwyn gwneud yn fawr o’r bwydwyr a ddarperir gennym yn y gaeaf, yn ogystal â phlanhigion llawn neithdar sy’n denu pryfed yn yr haf. Yn ystod y Gwylio Adar eleni edrychwch sut mae adar yn agosáu at eich bwydwyr wrth ddefnyddio’r amrywiol goed, llwyni a pherthi. Wrth sicrhau bod eich gardd yn fwy cyfeillgar i fyd natur gallwch helpu’r adar a’r bywyd gwyllt arall sy’n ei defnyddio - ac wrth wneud hynny byddwch yn denu hyd yn oed mwy i’ch gardd i chi eu mwynhau!”
Y llynedd, am y tro cyntaf, gofynnodd yr RSPB i’r sawl oedd yn cymryd rhan nodi rhywfaint o’r bywyd gwyllt arall a welwyd yn eu gerddi er mwyn helpu i greu darlun drwyddo draw o ba mor bwysig yw ein gerddi ar gyfer sicrhau cartref i fyd natur.
Nid oes angen i’r sawl sy’n cymryd rhan weld a chyfrif y rhywogaethau eraill yma’n ystod awr arolwg Gwylio Adar yr Ardd. Maent yn llenwi’r ffurflen i adael i’r RSPB wybod pa mor aml y’u gwelwyd yn eu gerddi’n ystod y flwyddyn ddiwethaf.
“Dydy hi ddim yn bosibl bob amser arolygu anifeiliaid eraill yn yr un modd ag adar, oherwydd maen nhw’n tueddu i fod yn fwy dirgel, yn galw heibio yn y nos, yn llai niferus neu’n gaeafgysgu yn ystod cyfnod Gwylio Adar yr Ardd. Ond fel hyn fe all yr RSPB ddarganfod ym mhle yn y wlad mae’r creaduriaid yma’n ymddangos a pha mor aml,” meddai Stephen.
Fel y llynedd, bydd yr RSPB yn rhannu’r canlyniadau gyda Chadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid (ARC), Ymddiriedolaeth y Bobl dros Rywogaethau Bregus (PTES) a Chymdeithas y Mamaliaid i ychwanegu at eu basdata rhywogaethau. Bydd y canlyniadau’n helpu’r holl gyrff sy’n cymryd rhan i ychwanegu at eu dealltwriaeth o’r bygythiadau sy’n wynebu bywyd gwyllt yr ardd.
Neidr ddefaid
Eleni, ychwanegwyd nadroedd defaid a nadroedd y gwair at y rhestr. Ymysg y rhywogaethau eraill a fydd yn cael eu harolygu eto mae moch daear, draenogod, ceirw a llwynogod/cadnoaid. Wrth newid y rhywogaethau o fywyd gwyllt a arolygir bob blwyddyn gellir sefydlu system i sicrhau bod rhywogaethau’n cael eu harolygu o leiaf unwaith bob tair blynedd. Bydd hyn yn darparu digon o ddata i benderfynu a yw eu dosbarthiad yn newid dros gyfnod o amser.
Meddai Marina Pacheco, o Gymdeithas y Mamaliaid: “Y peth gorau all pobl ei wneud i famaliaid yn yr ardd yw sicrhau pwll neu ffynhonnell barod o ddŵr ar lefel y ddaear a bylchau yn eu ffensys fel bod anifeiliaid fel draenogod yn gallu dod i’w gerddi. Rydym yn hynod o bryderus ynglŷn â’r cynnydd yn y defnydd o goncrit wrth fôn ffensys gardd oherwydd mae hyn yn rhwystro bywyd gwyllt rhag cael mynediad i’r ardd ac yn lleihau’r cysylltiad rhwng gerddi.”
Meddai Dr John Wilkinson o Gadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid (ARC): “Ychydig o bobl sy’n sylweddoli pa mor bwysig yw gerddi i rai ymlusgiaid ac amffibiaid. Os allwch chi, bydd creu bin compost yn helpu i ailgylchu gwastraff gardd a chegin yn ogystal â denu nadroedd defaid i ddod i fyw yn y deunydd llysieuol cynnes a phydredig. Os byddwch yn ffodus efallai y bydd nadroedd y gwair yn dod o hyd i’ch tomen ac yn dodwy eu hwyau ynddi! Os bydd ymlusgiaid yn dechrau defnyddio eich tomen, dylech osgoi troi’r compost yn yr haf a’r hydref pan fydd nadroedd defaid a nadroedd y gwair yn ymddangos.”
Meddai Henry Johnson, Swyddog Draenogod, Ymddiriedolaeth y Bobl dros Rywogaethau Bregus: “Unwaith eto, mae’r arolwg enfawr hwn yn dangos i ni pa mor rhyfeddol yw gerddi i fywyd gwyllt. Mae draenogod yn dal i alw heibio’n gerddi yng ngwledydd Prydain, ac mae hyn yn rhywbeth i’w drysori gan eu bod mewn perygl. Ni all draenogod hedfan ac mae angen llawer o erddi arnynt i ffynnu felly cofiwch sicrhau bod cysylltiad rhwng eich gardd chi â’ch cymdogion gyda thwll bach (13cm2).”
Ychwanegodd Stephen Bladwell o RSPB Cymru: “Mae’r arolwg enfawr hwn yn dangos pa mor bwysig yw ein gerddi i gynnal yr amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt sy’n byw ynddynt. Mae ychwanegu nadroedd defaid a nadroedd y gwair i arolwg eleni’n gam mawr tuag at gasglu mwy o ddata i’n helpu ni a’n partneriaid adnabod yn y blynyddoedd i ddod a yw dosbarthiad amrywiaeth o rywogaethau o fywyd gwyllt yr ardd wedi newid. Ein gobaith ni yw gweld mwy o bobl yn helpu i roi cartref i fyd natur yn eu gerddi a’u mannau awyr agored er mwyn dechrau gweld cynnydd yn y bywyd gwyllt yn hytrach na phrinhad.”
Adar y to oedd y rhywogaeth a gofnodwyd amlaf ledled Cymru heblaw Powys lle’r oedd y titw tomos las ar frig y rhestr. Mae nifer adar y to wedi cynyddu yng Nghymru er bod y nifer a gofnodwyd yn GAYA ledled gweddill y DU wedi prinhau o dros 20% dros y 10 mlynedd ddiwethaf. Mae hyn yn adlewyrchu tueddiadau a nodwyd yn yr Arolwg Adar sy’n Nythu (BBS) lle gwelir bod adar y to wedi cynyddu yng Nghymru o dros 95% ers 1995 er eu bod wedi prinhau o dros 10% yn Lloegr ers 1995 (BBS 2013).
Mae’r RSPB yn gobeithio defnyddio’r data i greu darlun drwyddo draw o ba mor bwysig yw ein gerddi ar gyfer pob math o fywyd gwyllt. Yna fe all lunio ei chyngor fel bod pobl yn helpu eu hymwelwyr gwyllt i ddod o hyd i gartref, i fwydo ac i fagu’n llwyddiannus.
Mae Gwylio Adar yr Ardd yn rhan o ymgyrch Rhoi Cartref i Fyd Natur yr RSPB, sydd â’r nod o fynd i’r afael â’r argyfwng cartrefi sy’n wynebu bywyd gwyllt y DU. Mae’r elusen yn gofyn i bobl ddarparu lle i fywyd gwyllt yn eu gerddi a’u mannau agored eu hunain - un ai drwy blannu planhigion llawn neithdar i ddenu gwenyn a gloÿnnod byw, gosod blwch nythu i aderyn y to, neu greu pwll a fydd yn cynnal nifer o wahanol rywogaethau. I wybod mwy ynglŷn â sut allwch chi roi cartref i fyd natur yn eich ardal chi ewch i rspb.org.uk/homes
Gallwch gofrestru i gymryd rhan yn arolwg Gwylio Adar yr Ardd a dysgu mwy drwy alw heibio rspb.org.uk/birdwatch
Canlyniadau Gwylio Adar yr Ardd 2014: 20 Uchaf Cymru
Safle
Rhywogaethau Cymru 2014
Cyfartaledd Fesul Gardd
1
Aderyn y To
5.5
2
Titw Tomos Las
3.6
3
Drudwy
2.7
4
Ji-binc
5
Aderyn Du
2.1
6
Titw Penddu
1.6
7
Nico
1.4
8
Robin Goch
1.2
9
Jac-y-do
10
Pioden
1.1
11
Colomen Dorchog
12
Titw cynffon hir
0.9
13
Llwyd y Berth
14
Ysguthan
0.8
15
Penloyw
16
Brân dyddyn
0.7
17
Llinos Werdd
0.6
18
Colomen Wyllt
0.5
19
Pila Gwyrdd
0.2
20
Dryw
Y rhywogaethau cyffredin y byddem fel arfer yn eu gweld yn GAYA
Ffigur 1: Newidiadau yn amlder rhywogaethau cyffredin a gofnodwyd fel rhan o GAYA ers 2003.
Rhywogaeth
Newid 2003 - 2014
Cymru
DU
aderyn du
-12.5
-20.4
titw tomos las
-21.4
-21.1
ji-binc
-28.0
-31.6
titw penddu
-34.3
-22.0
turtur dorchog
-25.6
-31.1
llwyd y gwrych
-20.2
-24.8
titw mawr
-18.7
-14.7
llinos werdd
-69.5
-70.3
aderyn y to
2.0
-21.9
pioden
-12.7
-3.9
robin goch
-21.7
-19.5
bronfraith
-70.6
-72.6
drudwen
-41.9
-51.4
ysguthan
32.2
27.2
dryw
-57.7
-62.6
Y rhai sy’n diflannu
3. Er bod poblogaethau nythu bronfreithod yng Nghymru yn ymddangos yn weddol sefydlog yng Nghymru, ers 2003 rydym yn gweld llai na thraean o’r bronfreithod yr arferem eu gweld yn ein gerddi yn ystod GAYA. Mae’r rhywogaeth hon yn dibynnu’n fawr ar bryfed genwair/mwydod, pryfed a choed/llwyni ffrwythau ac aeron megis afal, draenen wen, draenen ddu ayyb.
Mae ffrwythau ar lawr yn safle da i lawer o fronfreithod (y fronfraith a’r fwyalchen) a’r ddrudwen yn eich gardd yr adeg hon o’r flwyddyn. Fe all afalau a gellyg fod yn hanfodol bwysig wrth i’r gaeaf oeri fwyfwy a phan na fydd llawer o fwyd ar ôl yn ein llwyni a’n gwrychoedd.
4. Mae’r ddrudwen yn dal yn un o’n hadar mwyaf cyffredin a welwyd yn ein gerddi yn ystod GAYA ond mae wedi prinhau’n drawiadol dros y 10 mlynedd ddiwethaf. Yn 2003 roeddem yn gweld bron i 5 drudwen fesul gardd a arolygwyd ond yn 2014 roedd hynny wedi gostwng i lai na 3 ym mhob gardd. Mae’r gostyngiad yn y nifer o ddrudwennod a gofnodwyd yn ystod GAYA yn adlewyrchu’r canlyniadau dychrynllyd a welwn mewn poblogaethau nythu a amlygir gan arolygon eraill fel y BBS (prinhad o -70% ers 1995).
5. Mae nifer llinosiaid gwyrdd yn parhau i ostwng ac, mae’n debyg oherwydd yr haint Trichomonosis, maent yn parhau ar safle 17. Gallwch helpu i fynd i’r afael â’r haint hwn drwy lanhau eich bwydwyr, byrddau adar, a baddonau adar yn rheolaidd.
Rhai o’r ymwelwyr mwy prin â’ch gerddi (yng Nghymru)
Y nifer o erddi
Cynffon sidan 2
Tylluan wen 5
Tylluan frech 14
Ehedydd 2
Petrisen 6
Cudyll coch 30
Siff-siaff 19
Cnocell werdd 56
Titw’r helyg 65
Dryw eurben 89