Edrych ymlaen at ymgyrchu yn 2020

English version available here.

Sharon Thompson, Pennaeth Polisi ac Eiriolaeth RSPB Cymru, sydd yn trafod rhai o’r ymgyrchoedd pwysicaf o ran achub natur sydd ar y gorwel dros y 12 mis nesaf.

Gwelsom gynnydd mawr mewn gweithredu i amddiffyn y blaned a chefnogi materion amgylcheddol yng Nghymru yn 2019. Gwnaeth y Llywodraeth ddatgan argyfwng hinsawdd, gwnaeth miloedd o bobl gefnogi’r streicwyr hinsawdd ifanc a chafodd yr estyniad i’r M4 ei wrthod.

Bydd 2020 yn cynnig cyfleoedd ardderchog i barhau i adeiladu’r momentwm. Mae dwy gynhadledd o bwysigrwydd rhyngwladol yn cael eu cynnal yn nes ymlaen eleni? Ym mis Hydref, bydd Cynhadledd Bioamrywiaeth y CU (COP 15) yn Tsieina yn ceisio mynd i’r afael â’r methiant i gyrraedd targedau bioamrywiaeth byd-eang dros y deg mlynedd diwethaf ac yn ceisio datblygu fframweithiau newydd ar gyfer targedau i amddiffyn natur. Bydd Cynhadledd Newid Hinsawdd y CU (COP 26) yn Glasgow ym mis Tachwedd yn gyfle i’r DU ddangos arweiniad o ran hinsawdd wrth arwain gwledydd eraill i gyflawni eu hymrwymiadau i Gytundeb Paris. Bydd yr RSPB yn tynnu sylw at bwysigrwydd y digwyddiadau hyn ac yn eu defnyddio i ddylanwadu ar bolisi domestig a rhyngwladol.

Mae’r RSPB wedi bod yn galw ar wledydd i gydnabod ein bod ni’n wynebu argyfyngau hinsawdd a natur a byddwn ni’n parhau i wneud hyn yn y dyfodol. Allwn ni ddim datrys un broblem tra’n anwybyddu’r llall. Trwy ein hymgyrchodd eleni byddwn ni’n pwysleisio’r neges hon gydag unigolion allweddol gan gefnogi a buddsoddi mewn atebion sy’n seiliedig ar natur, fel adfer mawnogydd a phlannu’r coed cywir yn y mannau cywir, i’n helpu i addasu i effeithiau’r hinsawdd, tra’n gostwng cyfraddau colli bioamrywiaeth ac adfer natur yng Nghymru.

Ar ôl gadael yr UE ar 31 Ionawr bydd blwyddyn dyngedfennol o’n blaenau o ran deddfwriaeth amgylcheddol. Gofynnwn i chi, ein cefnogwyr, am help i ymgyrchu am gyfreithiau fydd yn diogelu natur a’r amgylchedd ar ôl i’r cyfnod pontio gyda’r UE ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2020.

Dyma olwg ar ein hymgyrchoedd presennol a beth y gallwch chi ei ddisgwyl yn 2020.

Egwyddorion a Threfniadau Llywodraethu Amgylcheddol

Mae’r cloc yn ticio! Ar ôl i gyfnod pontio’r DU â’r UE ddod i ben, bydd rôl y Comisiwn Ewropeaidd o ran gorfodi cyfreithiau amgylcheddol yn y DU yn dod i ben hefyd. Mae hyn y golygu ein bod angen cyflwyno deddfwriaeth newydd dros y misoedd nesaf os ydyn ni am osgoi cyfnod hir gyda dim ond mesurau rhannol, dros dro mewn grym o ran gorfodi deddfwriaeth amgylcheddol.

Yr haf diwethaf, fe wnaethoch chi ymuno â ni i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar yr Egwyddorion a’r Trefniadau Llywodraethu Amgylcheddol ar ôl gadael yr UE. Cafwyd ymateb gwych, ac fe wnaeth bron i 1000 ohonoch chi gyflwyno ymatebion i'r ymgynghoriad, gan alw ar y llywodraeth i wneud y canlynol:

  • Gorfodi pob corff cyhoeddus yng Nghymru i weithredu egwyddorion amgylcheddol yr UE ym mhob un o’u swyddogaethau.
  • Creu corff newydd i oruchwylio datblygiad a darpariaeth cyfraith a pholisi amgylcheddol yng Nghymru. Byddai angen i’r corff newydd fod yn annibynnol, yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a chael y pwerau i dderbyn ac archwilio cwynion, ynghyd â phwerau gorfodi cadarn.
  • Cryfhau ein cyfreithiau presennol drwy greu targedau cyfreithiol ar gyfer adfer natur, targedau y bydd y llywodraeth hon a llywodraethau’r dyfodol yn gallu cael eu dal i gyfrif yn eu herbyn.
  • Sicrhau cydweithrediad parhaus rhwng Llywodraeth Cymru a gwledydd eraill y DU er mwyn gwneud yn siŵr bod ein hymrwymiadau rhyngwladol i natur a’r amgylchedd yn cael eu cyflawni.

Ers yr haf, mae RSPB Cymru wedi bod yn cymryd rhan mewn grŵp gorchwyl a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru er mwyn datblygu argymhellion ar sut i sicrhau egwyddorion a threfniadau llywodraethu amgylcheddol yng Nghymru. Mae adroddiad y grŵp bron yn barod ac rydyn ni’n gobeithio y caiff ei gyhoeddi cyn bo hir. 

Yn fuan, byddwn ni’n galw arnoch chi i ysgrifennu at eich Aelod Cynulliad i ofyn iddyn nhw fynnu bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth yn ddi-oed i fynd i’r afael a’r bwlch llywodraethu a chyflwyno fframwaith ar gyfer targedau adfer natur.




Polisi amaeth newydd sy’n gweithio i natur

Mae gadael yr UE yn codi llawer o beryglon i natur, ond mae cyfleoedd hefyd. Un o’r rhain yw trawsnewid y ffordd rydyn ni’n defnyddio arian y trethdalwr i gefnogi ffermwyr i reoli eu tir. Yn amlwg mae cynhyrchu bwyd yn bwysig, ond mae sut mae’n cael ei gynhyrchu yn bwysig hefyd. Hyd yma, mae taliadau ffermio, sy’n deillio o Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr UE, wedi cael eu rhoi i ffermwyr yn seiliedig ar faint o fwyd maen nhw’n ei gynhyrchu neu faint o dir maen nhw’n ei ffermio ac nid sut maen nhw’n ei ffermio. Nid yw’n syndod bod hyn wedi arwain at ffermio dwys ar raddfa fawr gyda chanlyniadau negyddol i natur a’r amgylchedd. Mae Cymru nawr yn un o'r gwledydd lle mae byd natur wedi dirywio fwyaf yn y byd ac mae 1 o bob 14 rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu.

Eleni mae Llywodraeth Cymru yn datblygu ei chynlluniau ar gyfer dull newydd o gefnogi ffermwyr Cymru. Dyma ein cyfle i sefydlu system sy’n defnyddio arian y trethdalwr (tua £300 miliwn y flwyddyn) i wobrwyo ffermwyr am reoli eu tir mewn ffyrdd sy’n adfer ac yn cynnal natur a thrwy wneud hynny yn helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd a sicrhau’r manteision amgylcheddol hanfodol rydyn ni i gyd eu hangen. Yn ddiweddarach eleni byddwn ni’n gofyn i chi ein helpu i lunio’r system daliadau hon ar gyfer y dyfodol fel bod ffermwyr yn cael y cymorth y maen nhw ei angen i wneud ffermio sy’n ystyriol o fywyd gwyllt yn norm unwaith eto.   

Os ydych chi eisiau cael y wybodaeth ddiweddaraf am y mater hwn dilynwch ni ar ein Facebook a Twitter.




Gwarchod ein cynefinoedd morol

Mae Cymru’n gartref i rai o adar môr pwysicaf y byd fel aderyn drycin Manaw. Wrth i boblogaethau adar môr barhau i ostwng yn fyd-eang, mae ein cyfrifoldeb i amddiffyn y nythfeydd hynny sydd wedi’u lleoli yng Nghymru yn bwysicach nag erioed. Ond mae nythfeydd adar môr yng Nghymru yn parhau i wynebu bygythiadau enbyd. Gyda gwaith ymchwil parhaus, mae darlun clir a phryderus yn dechrau ymddangos. Er bod llawer o safleoedd bridio adar môr wedi’u diogelu ar y tir, dydy safleoedd bwydo allan ar y môr lle mae adar môr yn mynd i chwilio am fwyd ddim bob tro wedi’u diogelu rhag bygythiadau dynol. Dros y flwyddyn nesaf, byddwn ni’n galw am strategaeth adar môr yng Nghymru fydd yn rhoi anghenion a’r bygythiadau i fywyd adar môr yn gyntaf mewn unrhyw benderfyniadau fydd yn cael eu gwneud am foroedd Cymru gan sicrhau bod yr ardaloedd pwysig hyn o’r môr yn cael eu diogelu.

Mae angen gwneud llawer o waith ymchwil o hyd i ni allu deall yn iawn y cysylltiadau rhwng beth mae ein hadar môr sy’n nythu yn ei fwydo i’w cywion a lle maen nhw’n chwilio am fwyd - a gallwch chi helpu. Ar ôl i’n palod ddychwelyd ar gyfer y tymor bridio, byddwn unwaith eto yn gofyn am luniau - o’r gorffennol neu’r presennol - o balod gyda physgod yn eu pigau! Trwy gymharu unrhyw newidiadau mewn sut a beth y mae’r Palod wedi bod yn ei hela, rydyn ni’n gobeithio cael dealltwriaeth well o’r bygythiadau mae’r nythfeydd hyn yn eu hwynebu heddiw. Os ydych chi’n bwriadu ymweld â Sgomer eleni, neu fod gennych chi luniau o’r gorffennol yn rhywle, gallwch chi ein helpu i ddysgu mwy am y bygythiadau i’n palod. Ewch i rspb.org.uk a chwilio ‘Pufferazzi’ i gyflwyno llun neu i ddysgu mwy.





Morlais

Mae gwarchodfa natur RSPB Ynys Lawd yn gynefin arfordirol eiconig a phoblogaidd ar arfordir gorllewinol Ynys Môn. Mae’n rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Arfordir Ynys Gybi, lle mae miloedd o adar môr yn ymgartrefu ar y creigiau bob haf - palod, gwylanod coesddu, adar drycin y graig, dros 10,000 o wylogod a 1,300 o lursod. I dros 180,000 o bobl bob haf, mae synau’r adar môr ar y gwynt yn rhan o’u hymweliad cofiadwy i RSPB Ynys Lawd.

Mae Menter Môn yn cynnig gosod hyd at 620 tyrbin llanw i gynhyrchu trydan adnewyddadwy yn agos i RSPB Ynys Lawd ac o fewn ardal sydd yn cefnogi dolffiniaid a morloi; ac sy’n cael ei warchod yn arbennig ar gyfer llamhidyddion. Mae’r ardal wedi cael ei nodi fel parth arddangos ynni’r môr. Ond, mae hwn yn dechnoleg newydd ac nid ydym yn gwybod pa effaith a gaiff ar fywyd gwyllt. Rydyn ni am weld ffyrdd gwell o ddiogelu bywyd gwyllt gan ddatblygu cynllun peilot llai sydd wedi’i ymchwilio’n dda er mwyn dysgu p’un ai yw datblygiad pellach yn gynaliadwy yn ecolegol. Rydyn ni eisiau gweld parth arddangos sy’n hyrwyddo ac yn arddangos technolegau sydd ddim yn niweidio natur. 

Mae angen cydsyniad ‘Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd’ a ‘Thrwydded Forol’ ar y datblygiad. Rydyn ni wedi gorfod gwrthwynebu’r ddau oherwydd ein pryderon am faint y datblygiad a’i effaith bosib. Rydyn ni’n credu bod ymchwiliad cyhoeddus yn debygol o gael ei gynnal ym mis Mehefin neu Orffennaf. Pan fydd yr adar yn dychwelyd i Ynys Lawd yn y gwanwyn, byddwn yn parhau â’n cyfathrebiadau a’n hymgyrchoedd i’r wasg i wthio am newidiadau yn y ffordd y mae ynni’r llanw yn cael ei gyflwyno i’r ardal hon. Ar yr adeg honno, byddwn ni’n gofyn i’n cefnogwyr ychwanegu eu lleisiau at ein llais ni a galw am newidiadau gan Lywodraeth Cymru a’r ymgeisydd.

Mae llawer yn y fantol; mae’r dystiolaeth sydd wedi ymddangos dros y flwyddyn ddiwethaf yn glir: mae natur mewn argyfwng ac mae angen ymateb yn syth. Mae angen i ni wneud 2020 yn flwyddyn wych i’r amgylchedd.