Edrych ymlaen at 2025 – blwyddyn dyngedfennol i bolisi natur yng Nghymru

English version available here

Rydym wedi bod yn gweithio’n galed drwy gydol 2024 i sicrhau bod penderfyniadau gwell yn cael eu gwneud dros fyd natur wrth ddatblygu polisi a deddfwriaeth. Eleni byddwn yn parhau i godi llais dros natur yn ein gwaith gyda’r Senedd a Llywodraeth Cymru ac yn cynnwys ein hymgyrchwyr i sicrhau bod llais natur yn cael ei glywed yn uchel ac yn glir. Yma byddwn yn amlinellu rhai o’r meysydd y byddwn yn gweithio arnyn nhw yn ystod 2025. 

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi bod yn ymgyrchu i gael Llywodraeth Cymru i gyflwyno “Bil Natur-Bositif” ac roeddem wrth ein bodd pan gafodd y Bil Egwyddorion Amgylcheddol, Llywodraethu a Bioamrywiaeth ei gynnwys o’r diwedd yn rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth yr haf diwethaf. Bydd y Bil yn creu corff gwarchod amgylcheddol newydd i Gymru, yn dod ag egwyddorion amgylcheddol craidd i gyfraith Cymru, ac yn cyflwyno targedau sydd wedi rhwymo mewn cyfraith ar gyfer adferiad byd natur. Rydyn ni’n parhau i drafod datblygiad y ddeddfwriaeth hon gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ac Aelodau o’r Senedd i sicrhau bod y Bil yn ymgorffori uchelgais uchel ar gyfer bioamrywiaeth. Edrychwn ymlaen at ei gyflwyno yn y Senedd ddiwedd y Gwanwyn. 

Un targed bioamrywiaeth allweddol y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddo yw’r targed i warchod a rheoli’n effeithiol 30% o dir a môr ar gyfer byd natur erbyn 2030 – sydd hefyd yn cael ei alw’n darged 30 wrth 30. Dros y blynyddoedd diwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi arwain archwiliad plymio dwfn o’r hyn y mae hyn yn ei olygu i Gymru, y mae RSPB Cymru wedi bod yn rhan ohono hefyd. Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i weithredu nifer o argymhellion, ac er bod rhywfaint o gynnydd pwysig wedi'i wneud, mae nifer o gamau allweddol i wella ein cyfres o ardaloedd gwarchodedig (tir a môr) eto i'w cyflawni a byddwn yn parhau i ymgysylltu a phwyso am gynnydd yn y flwyddyn i ddod. Adeg ysgrifennu'r blog hwn, edrychwn ymlaen at weld argymhellion Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd yn dilyn eu hymchwiliad i sut mae Cymru yn bwriadu gwrthdroi colledion bioamrywiaeth erbyn 2030, y gwnaethon ni gymryd rhan ynddo y llynedd.  

Maes arall i gadw golwg arno eto eleni yw’r polisi ffermio. Mae Cymru bron yno gyda datblygiad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ac ar y cyfan, rydyn ni’n gefnogol o drywydd y cynllun, ond rydyn ni eisiau sicrhau ei fod y gorau y gall fod wrth gefnogi ffermwyr Cymru i weithredu’r camau iawn yn y llefydd iawn i achub natur. Mae manylion terfynol y cynllun eto i’w datrys yn ystod y misoedd nesaf, gan gynnwys pa gamau a chyngor fydd ar gael, ac yn hollbwysig, sut caiff y gyllideb ei dyrannu rhwng haenau’r Cynllun i sicrhau y bydd yn ffordd effeithiol o helpu ffermwyr i fodloni targedau bioamrywiaeth Cymru yn ogystal â mynd i’r afael â newid hinsawdd a chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. 

Mae angen cynyddol i gyflymu ymdrechion i gyrraedd ein targedau hinsawdd yn golygu cynyddu datblygiad ffynonellau ynni adnewyddadwy ar dir a môr. Mae gan natur ei hun rai o'r atebion. Mae cynefinoedd fel coetiroedd a mawndiroedd yn hanfodol i'n helpu nid yn unig i liniaru ond i addasu i effeithiau newid hinsawdd. Ond gall natur hefyd ddioddef yn sgil datblygiadau sydd wedi’u lleoli’n amhriodol, felly mae’n bwysig bod y system gynllunio yn gwarchod ein mannau pwysicaf ar gyfer byd natur. Croesawyd cynnydd gyda’r amddiffyniadau ychwanegol ym Mholisi Cynllunio Cymru ar gyfer safleoedd gwarchodedig, ynghyd â chyflwyno gofynion Budd Net i Fioamrywiaeth sy’n golygu bod yn rhaid i bob datblygiad gyflawni gwelliannau bioamrywiaeth. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu canllawiau ategol ar gyfer y polisïau hyn er mwyn sicrhau ein bod yn cael y fargen orau ar gyfer natur. 

Maes arall yr hoffem weld Llywodraeth Cymru yn datblygu dull mwy strategol o gynllunio ynddo yw’r amgylchedd morol. Ar hyn o bryd nid oes gennym y dull gofodol sy'n berthnasol i dir, felly rydyn ni’n gweithio'n ddiwyd gyda Llywodraeth Cymru ar ei adolygiad annibynnol o gynllunio morol yng Nghymru gyda phwyslais ar wella hyn. 

Eleni, rydyn ni’n gobeithio gallu dathlu lansiad Strategaeth Cadwraeth Adar Môr gyntaf Cymru, y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio i’w datblygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. I sicrhau bod ein poblogaethau o adar môr, sydd o bwysigrwydd rhyngwladol, yn cael eu gwarchod a'u hadfer, mae'n hanfodol bod y strategaeth yn cael ei hariannu'n ddigonol i gyflawni'r camau gweithredu y mae'n eu nodi. Mae’n hanfodol bod y lleoedd prin y mae’r adar hyn yn bridio ynddynt yn cael eu gwarchod, ac mae sefydlu ateb hirdymor ar gyfer bioddiogelwch ein hynysoedd adar môr o amgylch arfordir Cymru yn rhan hanfodol o hyn. 

Yn y misoedd sydd i ddod, edrychwn ymlaen at weld y ddeiseb briciau gwenoliaid duon yn cael ei hystyried ar gyfer dadl gan y Senedd, a'r cyfle a ddaw yn sgil hynny i helpu un o'n hadar sy'n prinhau gyflymaf. Mae’r ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i orfodi datblygwyr i osod briciau gwenoliaid duon mewn adeiladau newydd yng Nghymru. Diolch i gefnogaeth anhygoel ein hymgyrchwyr natur, caeodd y ddeiseb ddiwedd y flwyddyn gyda bron i 11,000 o lofnodion. 

Yn ystod y misoedd nesaf, rydyn ni hefyd yn gobeithio y gwelwn y cyfyngiadau hir-ddisgwyliedig ar y defnydd o fwledi a chetris. Mae dros 7,000 tunnell ohono yn cael ei wasgaru i'r amgylchedd bob blwyddyn yn y DU, gan ladd hyd at 100,000 o adar dŵr, felly rydyn ni’n cefnogi’r alwad ar i Lywodraeth y DU weithio gyda Llywodraeth Cymru a gweinyddiaethau datganoledig eraill i wahardd y defnydd ohono. 

 

Mae 2025 yn mynd i fod yn flwyddyn brysur ym myd polisi ac ymgyrchoedd natur yng Nghymru, ac edrychwn ymlaen at ddod â’r wybodaeth ddiweddaraf i chi, eich cynnwys a'ch llenwi â brwdfrydedd am y ffyrdd y gallwn weithio gyda'n gilydd i wella ein gwlad ar gyfer pobl a byd natur.