Dysgu am fywyd gwyllt: boed law neu hindda!

English version available here.

Blog gwadd gan Sue Burge, gwirfoddolwraig allgymorth ysgol gyda’r prosiect Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd.

Mae iard ysgol yn gallu bod yn lle gwych i fywyd gwyllt. Mae pob math o blanhigion, anifeiliaid a phryfed i’w cael yno. Gall fod yn ‘ddosbarth gwych yn yr awyr agored’ i ddysgu am fyd natur. Fel rhan o dîm Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd, mae Sue yn helpu i roi sesiynau allgymorth ysgol i ysgolion cynradd yng Nghaerdydd, i helpu dysgwyr ifanc i gysylltu â’r creaduriaid rhyfeddol sy’n byw yn y ddinas.

Arwain fy sesiwn gyntaf

Er fy mod wedi helpu gydag ychydig o sesiynau cyn hyn, nid oeddwn wedi arwain un ar fy mhen fy hun. Ar y dechrau, roeddwn ychydig yn bryderus sut ddiwrnod fyddai o’m blaen a phan edrychais allan, suddodd fy nghalon. O flaen fy llygaid roedd hunllef waethaf unrhyw wirfoddolwr; glaw a llawer ohono.

Roedd yn dal i fwrw pan gyrhaeddais yn yr ysgol. Cyflwynais fy hun i’r plant a darllenais stori iddynt am ddraenog ifanc yn gadael ei gartref am y tro cyntaf ac yn darganfod y byd y tu allan. Wrth ddarllen roedd draenog tegan meddal ar fy nglin a draenog pyped ar fy mys. Aeth y cyfan yn dda, ni cheisiodd unrhyw un gymryd y draenog na dringo ar fy nglin i gael gwell golwg ar y llyfr!

Daeth yn amser egluro ein bod am fynd allan ar dir yr ysgol i chwilio beth fyddem yn gallu ei ddarganfod a chasglu pethau i wneud ‘draenog’ ar ôl dod yn ôl i mewn.

Mentro allan

Dyma pryd y dechreuodd pethau fynd ychydig yn anhrefnus! Nid tasg hawdd oedd gwisgo pymtheg o blant tair i bedair oed mewn dillad glaw a’u trefnu’n grwpiau o dri. Rhannais y pecyn ar gyfer y sesiwn i bob grŵp; bag papur ar gyfer casglu pethau, siart lliw papur (cofiwch ei bod yn dal i fwrw’n drwm) a chwpan blastig.

Cerddom drwy’r glaw at ran gysgodol o dir yr ysgol. I ddechrau, roedd y plant yn ymddangos fymryn yn amharod i chwilio o’u cwmpas. Roedd angen eu hannog i edrych o gwmpas a chyffwrdd pethau fel rhisgl a dail y coed. Er gwaetha’r glaw, cyn hir dechreuodd y plant fwynhau edrych ar y blodau gwlyb a chyffwrdd y dail tamp. Casglwyd pob math o frigau, ychydig o risgl, a moch coed i’w rhoi yn eu bagiau i wneud eu ‘draenogod’, glaswellt, blodau llygad y dydd a dant y llew ar gyfer eu cwpanau i wneud trwyth arbennig a siaradom am liwiau’r coed, y dail a’r blodau. 

Wrth iddi ddechrau bwrw’n drymach, aeth y siartiau lliw fel mwydion papur a dechreuodd y bagiau papur fynd yn ddarnau, roedd yn bryd mynd yn ôl i mewn. Tra oedd y plant yn gwneud eu ‘draenogod’ gyda chynnwys eu bagiau, defnyddiais gynnwys eu cwpanau i wneud cymysgedd a gofynnais i’r plant ei arogli. Dywedodd y rhan fwyaf ei fod yn arogli’n wyrdd, roedd hynny’n wir!

 Cysylltu â byd natur

Ar ddiwedd y sesiwn, eglurais wrth y plant lle bynnag maen nhw; yn yr ardd, yn y parc neu ar y ffordd i’r ysgol, y gallan nhw edrych ar y coed a’r blodau, gwrando ar yr adar yn canu a meddwl amdanynt eu hunain fel draenog ifanc yn darganfod y byd o’u cwmpas. Rhyfeddais fod y plant ifanc iawn yma, hyd yn oed mewn tywydd anffafriol, yn dysgu mwynhau byd natur. Credaf fod y sesiwn hon yn bwysig oherwydd ei bod yn gyfle i ennyn eu chwilfrydedd ynglŷn â byd natur, eu hannog i ddysgu mwy amdano a gwerthfawrogi’r angen i ofalu amdano wrth iddynt dyfu.

Os ydych yn athro/athrawes ysgol gynradd yng Nghaerdydd ac yn awyddus i neilltuo sesiwn am ddim, neu os hoffech ddysgu mwy am ddigwyddiadau a gweithgareddau Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd, neu am wirfoddoli gyda’r prosiect, gallwch e-bostio  cardiffoutreach@rspb.org.uk i gael mwy o wybodaeth.

*Ariennir prosiect Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac mae'n brosiect partneriaeth rhwng RSPB Cymru, Cyngor Caerdydd a Buglife Cymru*