Dyfodol ansicr i adar y môr yn dilyn canlyniadau cyfrifiad newydd

English version available here

Mae canlyniadau cyfrifiad newydd (y cyntaf i’w gyhoeddi mewn dros 20 mlynedd) yn rhoi darlun brawychus o iechyd poblogaethau adar y môr yn y DU, hyd yn oed cyn yr achosion o Ffliw Adar Pathogenig Iawn (HPAI). Mae RSPB Cymru yn edrych ar beth mae hyn yn ei olygu i Gymru a’r camau sydd eu hangen i ddiogelu adar y môr.

Beth yw Cyfrifiad Adar y Môr?

Adeg y cyfrifiad adar môr diwethaf (Seabird 2000, 1998 i 2002, a’i gyhoeddi yn 2004), roedd dros 8 miliwn o adar y môr yn bridio ym Mhrydain ac Iwerddon bob blwyddyn. Ers hynny, mae tystiolaeth wedi dod i’r amlwg bod llawer o’n rhywogaethau wedi dirywio. Er mwyn deall sut mae poblogaethau adar y môr yn newid, mae cyfrifiad cyflawn arall –  Seabirds Count – wedi cael ei gynnal.  

Mae data’r cyfrifiad yn hanfodol ar gyfer asesu iechyd poblogaethau adar y môr ac yn hanfodol ar gyfer deall statws cadwraeth ein hadar y môr sy’n bwysig yn rhyngwladol, effeithiau newid yn yr hinsawdd ar amgylcheddau morol, ac i lywio cynllunio morol.  Cynhaliwyd y cyfrifiad Seabirds Count rhwng 2015 a 2021. Ledled y DU, arolygwyd dros 10,000 o safleoedd a 25 o rywogaethau i roi diweddariad cynhwysfawr ar gyflwr y poblogaethau hyn ac i gael gwell dealltwriaeth o’r berthynas rhyngddynt a’r pwysau y maent yn ei wynebu.

Arweiniwyd yr arolwg gan y Cydbwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) gyda dros 20 o bartneriaid y grŵp llywio, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru. Y partneriaid allweddol a arweiniodd y gwaith o gasglu a chyhoeddi’r canfyddiadau yw'r Cydbwyllgor Cadwraeth Natur, yr RSPB, Birdwatch Iwerddon a’r Gwasanaeth Parciau Cenedlaethol a Bywyd Gwyllt (Iwerddon).  


(Palod - Colin Wilkinson)


Beth yw’r canlyniadau ar lefel y DU?

Mae’r cyfrifiad yn datgelu bod bron i hanner rhywogaethau adar y môr sy’n bridio yn y DU, Iwerddon, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel wedi dirywio dros yr 20 mlynedd diwethaf, a dim ond pump yn amlwg sydd wedi cynyddu. Mae achosion y dirywiad yn amrywio rhwng rhywogaethau ac ardaloedd, ond maen nhw’n debygol o fod yn gysylltiedig â phwysau cynyddol ar boblogaethau adar y môr o fygythiadau fel newid yn yr hinsawdd, pysgodfeydd, a datblygu ar y môr. Serch hynny, diolch i ymyriadau cadwraeth llwyddiannus, mae rhai rhywogaethau wedi cynyddu mewn rhai safleoedd. Mae angen gwerthuso a yw hyn yn parhau i fod yn wir; yn enwedig gan nad yw’r cyfrifiad yn ystyried effaith ddinistriol Ffliw Adar Pathogenig Iawn yn 2021/2022.

 

Beth yw’r canlyniadau i Gymru?

Mae canlyniadau Cymru yn dangos:

Gostyngiadau difrifol mewn rhywogaethau fel y Bilidowcar (17%), y Wylan Goesddu (34%), y Fulfran (-29%) ac Aderyn Drycin y Graig (-27%)

Mae’r prif ffactorau sy’n sbarduno poblogaethau sy’n dirywio yn amrywio rhwng rhywogaethau a hyd yn oed lleoliad, ond mae rhai themâu cyffredin. Mae newid yn yr hinsawdd yn ffactor pwysig, gan fod mwy o stormydd yn gallu achosi i safleoedd nythu gael eu hysgubo ymaith yn ystod stormydd, sy’n ei gwneud hi’n anoddach i’r adar chwilota am fwyd.  Hefyd, gallai tymheredd uwch dŵr y môr leihau faint o fwyd pwysig, fel llymrïaid, sydd ar gael i rai rhywogaethau adar y môr (er enghraifft, y rheini nad ydynt yn gallu plymio, fel Gwylanod Coesddu, ac sy’n dibynnu ar godi bwyd sy’n agos at yr wyneb).

Mewn rhannau o’r DU, yn enwedig Môr y Gogledd, mae tystiolaeth yn awgrymu bod gweithgareddau pobl hefyd yn effeithio’n ddramatig ar rai rhywogaethau fel Gwylanod Coesddu. Mae’r rhain yn cynnwys datblygiadau gwynt ar y môr sydd wedi’u lleoli’n wael a physgodfeydd llymrïaid masnachol. Ar ben hynny, mae miloedd o Adar Drycin y Graig yn cael eu lladd bob blwyddyn mewn pysgodfeydd lein hir, yn bennaf yn nyfroedd yr Alban. Dylai Llywodraeth Cymru ddysgu o hyn a chymryd camau ataliol yn enwedig wrth i foroedd Cymru ddod yn fwyfwy prysur gyda gweithgareddau pobl.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i ddatblygu Strategaeth Cadwraeth Adar y Môr. Mae’n hanfodol bod hyn yn cael ei gyhoeddi’n gynnar y flwyddyn nesaf a’i fod yn darparu cyllid penodol ar gyfer cadwraeth adar y môr. Yn ogystal, dylai Llywodraeth Cymru wneud y canlynol:

 

  • Creu Cynllun Datblygu Morol i sicrhau bod gweithgareddau a lleoliadau pob sector ar y môr yn cael eu cynllunio mewn ffordd strategol er mwyn lleihau’r effeithiau ar fywyd gwyllt y môr.

  • Sicrhau bod gwaith monitro pysgodfeydd yn cael ei wella drwy ddefnyddio Monitro Electronig o Bell, i sicrhau bod dalfeydd yn gynaliadwy ac nad ydynt yn cynnwys dalfeydd anfwriadol o fywyd gwyllt heb fod wedi’i dargedu, fel adar y môr.

  • Cryfhau’r rhwydwaith o safleoedd gwarchodedig ar gyfer adar y môr ar y môr yng Nghymru, drwy wella’r gyfres o ddynodiadau, cynyddu’r gwaith monitro a gwella’r gwaith rheoli (gan gynnwys, drwy well bioddiogelwch).

  • Ac yn olaf, er nad oes pysgodfeydd llymrïaid masnachol yng Nghymru ar hyn o bryd, dylai Llywodraeth Cymru leihau effeithiau pysgodfeydd a sectorau morol eraill ar rywogaethau adar y môr ysglyfaethus

 
(Hugan - Maggie Sheddan)


Cynnydd ym mhwysigrwydd cymharol Cymru i rai rhywogaethau adar y môr

O’i gymharu â’r cyfrifiad diwethaf, mae Cymru wedi dod yn bwysicach nag o’r blaen i rai rhywogaethau. Er enghraifft, mae gan Gymru bellach gyfran uwch o Wylogod, Gweilch y Penwaig a Phalod y DU. Mae Cymru hefyd wedi gweld cynnydd yn ei phwysigrwydd cymharol ar gyfer rhywogaethau môr-wenoliaid ar lefel y DU – yn enwedig y Fôr-wennol Fechan (3.5% i 9.8% o’r cyfanswm) a Môr-wennol y Gogledd (3% i 12%), sy’n darparu tystiolaeth wych o sut mae ymdrechion cadwraeth yn gwneud gwahaniaeth.

Fodd bynnag, gallai’r cynnydd ym mhwysigrwydd cymharol Cymru i adar y môr fod yn deillio o ostyngiad mewn rhannau eraill o’r DU. Er enghraifft, mae poblogaethau Pâl yr Alban wedi gostwng 32%. Er bod y cynnydd yn nifer y Palod yng Nghymru ers 2000 yn cynnig llygedyn o obaith, rhaid edrych ar yr adferiad hwn yng nghyd-destun dirywiadau hanesyddol; mae’r niferoedd yn parhau i fod yn is na lefelau cyn 1939. Ar ben hynny, mae’r boblogaeth wedi’i chyfyngu i nifer fach o nythfeydd yng Nghymru; ydy pob un o’n hwyau mewn un fasged? Nid yw cadernid y boblogaeth hon mor gryf ag y gallai fod gydag ystod ehangach o safleoedd bridio. Yn enwedig gan fod Palod yr Iwerydd mewn perygl o ddiflannu’n llwyr ar draws y byd. Rhaid i Lywodraeth Cymru, gyda mwy o gyfrifoldeb dros ddyfodol poblogaethau adar y môr, fynd ati’n rhagweithiol i wella’r sefyllfa ymhellach.

Darlun o iechyd poblogaethau adar y môr cyn Ffliw Adar Pathogenig Iawn

Ers cwblhau’r cyfrifiad, yn debyg iawn i weddill y DU, mae adar y môr yng Nghymru wedi dioddef achosion difrifol o Ffliw Adar Pathogenig Iawn (HPAI). Mae nifer fawr o farwolaethau wedi eu gweld mewn sawl rhywogaeth o adar y môr a oedd wedi cynyddu yn y gorffennol, fel Gwylanwydd y Gogledd. Datgelodd RSPB Grassholm yng Nghymru ostyngiad syfrdanol o 52% ym mhoblogaeth y Wylanwydd yno, gan olygu ei bod ar ei hisaf ers 1969. Nid oes amcangyfrif eto o effaith gyffredinol Ffliw Adar Pathogenig Iawn ar boblogaethau adar y môr, ac rydyn ni’n aros am ddadansoddiad o ddata newydd o 2023. Daw canlyniadau’r cyfrifiad ar adeg dyngedfennol, gan greu llinell sylfaen i gadwraethwyr ddeall yn well effeithiau parhaus y ffliw adar wrth symud ymlaen, yn ogystal â gallu blaenoriaethu a mesur effeithiolrwydd camau cadwraeth yn ein nythfeydd o adar y môr. 

(Llun teitl - Morwennoliaid Bugddu - Chris Gomersal)