English version available here
Ar un adeg, galwad swynol, hiraethus y gylfinir oedd llais y gwyllt yng Nghymru. Un o'n hadar eiconig, yn rhan o enaid Cymru - nid yw ein hafonydd, ein rhostiroedd a'n harfordiroedd yr un fath hebddynt. Maen nhw wedi ysbrydoli beirdd fel R. Williams Parry a Dylan Thomas. Ond bellach, rydym yn credu bod gan Gymru lai na 400 o barau ar ôl yn nythu yma. Ers y 1990au cynnar, rydym wedi colli tua 80% o'n poblogaeth frodorol o gylfinirod. Mae creadur a oedd unwaith yn gyffredin ac a welwyd fel rhan annatod o gefn gwlad Cymru, yn prysur ddiflannu.
Erbyn hyn, y gylfinir yw'r aderyn â'r flaenoriaeth gadwraeth fwyaf yn y DU ac mae Cynllun Gweithredu Rhyngwladol wedi'i roi ar waith ledled Ewrop i geisio achub y rhydiwr rhyfeddol hwn cyn iddo ddiflannu. I helpu atal y dirywiad dramatig yn ei niferoedd, mae llawer o waith yn mynd rhagddo i'w achub yma yng Nghymru.
Yn ddiweddar, cafodd RSPB Cymru rywfaint o newyddion da am gylfinirod yn Llanycil, ger Y Bala. Ar ôl gweithio mewn partneriaeth â thirfeddianwyr lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru, gwelodd RSPB Cymru gynnydd o ddau bâr o gylfinirod ar y tir, ac roedd yn gysur mawr gweld un pâr yn magu dau gyw. Roedd y gwaith a wnaed yma yn cynnwys torri pedwar hectar o lystyfiant trwchus a gosod ffens drydan. Cafodd wyth o ferlod eu rhoi yno i bori oherwydd gall merlod greu'r amodau perffaith ar gyfer anghenion gylfinirod trwy reoli'r natur y llystyfiant. Bydd staff RSPB Cymru, mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, yn mynd ymlaen i gael gwared ar goed conwydd o'r ardal yn y misoedd nesaf i helpu gylfinirod Llanycil ymhellach
Mae corsydd mawn yn ein hucheldiroedd yn gynefin pwysig iawn, ond prin yw'r nifer ohonom sy'n gyfarwydd â nhw. Yn anffodus, mae'r corsydd yma hefyd yn mynd yn brinnach, ond mae ganddynt fuddion enfawr i ni oherwydd eu bod yn darparu dŵr glân i ni, yn dal carbon sy'n helpu yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd ac yn atal llifogydd ar dir isel. Maen nhw hefyd yn bwysig ar gyfer amrywiaeth eang o fywyd gwyllt - gan gynnwys gylfinirod. Mae staff RSPB Cymru yn ardal Blaen y Coed yn Ysbyty Ifan wedi bod yn gwneud gwaith arbrofol i helpu adfer corsydd mawn ar ddau ddarn o dir sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Fe ddefnyddiom ni gloddwyr i wella cyflwr y mawnogydd, gan hefyd osod argaeau bychain mewn ffosydd a cheunentydd i ddal dŵr ar y bryniau a lleihau perygl o lifogydd bellach i lawr yr afon. Fe fydd y gwaith yma yn creu corsydd mawn gwlypach, a fydd yn helpu i ddenu mwy o infertebratau fel y pryfed cannwyll y mae gylfinirod yn dibynnu arnynt i fwydo eu hunain a'u cywion.
Os oes gobaith adfer niferoedd gylfinirod mae angen i ffermwyr gael y gefnogaeth gywir i'w helpu i reoli'r cynefinoedd y maent yn dibynnu arnynt. Ar hyn o bryd rydym yn ymgyrchu dros ddatblygu polisïau ffermio a rheoli tir newydd yng Nghymru i gymryd lle'r Polisi Amaethyddol Cyffredin pan fyddwn yn gadael yr UE. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau newydd sy'n annog a thalu ffermwyr ar y raddfa briodol i weithio gyda'i gilydd i adfer a chynnal cynefinoedd ar gyfer natur, gan gynnwys gylfinirod sy'n nythu ar eu tir.
Fel y mae ar hyn o bryd, mae dros 80% o incwm ffermio yng Nghymru yn deillio o gyllid yr UE. Mae system newydd o gefnogaeth i Gymru yn gyfle i sicrhau'r rheolaeth tir gynaliadwy sydd ei hangen ar gyfer gylfinirod a rhywogaethau tir fferm eraill sydd yn dirywio er mwyn iddyn nhw gael ffynnu unwaith eto.
Mae gylfinirod sy'n nythu yng Nghymru wedi cael hwb amserol wrth i 16 o sefydliadau o bob cwr o Gymru ymuno yn ddiweddar i greu gweithgor newydd o'r enw Gylfinir Cymru. Mae'r sefydliadau hyn yn cynrychioli sectorau'r llywodraeth, cadwraeth, ffermio a rheoli helfeydd. Mae'r cyrff wedi dod ynghyd oherwydd eu hangerdd i geisio sicrhau dyfodol y gylfinir fel aderyn sy'n nythu yng Nghymru. Bydd y grŵp yn anelu at ddarparu arweinyddiaeth a chefnogaeth ynghyd â gweithredu uniongyrchol er mwyn gwrthdroi dirywiad dramatig y gylfinir.
Credwn fod y gylfinir yn un o adar mwyaf eiconig Cymru ac rydym yn gobeithio y bydd y rhan fwyaf ohonom ni, un diwrnod, yn fwy cyfarwydd â sain hyfryd eu galwadau swynol. Mae angen help llaw gan gymaint o bobl â phosib ar gylfinirod - o wleidyddion i ffermwyr, ac o gadwraethwyr er mwyn codi ymwybyddiaeth o'u cyflwr truenus ymhlith y cyhoedd - os ydym ni'n mynd i fynd i'r afael go iawn a gwirdroi y cwymp ofnadwy yma yn eu niferoedd.
*Y sefydliadau sy'n rhan o Gylfinir Cymru yw Cyfoeth Naturiol Cymru, RSPB Cymru, BTO Cymru, y Gynghrair Cefn Gwlad, GWCT, BASC, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cymdeithas Adaryddol Cymru, Llywodraeth Cymru, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ymddiriedolaethau Natur Cymru, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Cymdeithas Genedlaethol y Ciperiaid, COFNOD, UAC a NFU Cymru.
Credyd y lluniau yn y drefn maen nhw'n ymddangos: Eleanor Bentall ac Andy Hay.