Draenog-flog!

English version available here

Mae yna ddigwyddiadau noson tân gwyllt yn cymryd lle ledled Cymru. Ond os ydych chi’n trefnu eich coelcerth eich hun yn yr ardd, meddyliwch am y draenogod!

Does dim byd fel noson tân gwyllt. Lliwiau llachar y tân gwyll yn goleuo’r awyr, synau gwahanol o bell ac agos a’r blas mwg unigryw yn awel y nos. Nid yw hyn wrth ddant pawb wrth gwrs – ond i’r rheini ohonom sydd am fwynhau gweithgareddau noson tân gwyllt, mae’n hollbwysig ein bod yn ystyried effeithiau hyn ar ein bywyd gwyllt.

Mae’r hydref yn gyfnod o newid nawr – wrth i ni estyn am y siwper drwchus, gweld ein hanadl yn yr awyr iach a’r dail crin yn garped o liwiau hydrefol ar ein strydoedd, ein parciau a’n gerddi. Ac yng nghornel eich gardd, er y gall edrych fel pentwr bach o ddail, gallai olygu llawer mwy i rai o'n ffrindiau bach gwyllt.

Erbyn mis Tachwedd, bydd draenogod ar draws Cymru yn barod i ddweud nos da am gyfnod hir o gwsg dros y gaeaf. Ac wrth gwrs, pa le gwell i swatio ac i gael seibiant haeddiannol na phentwr cynnes, cysurus o ddail, yn rhydd rhag niwed ysglyfaethwyr ac elfennau amrywiol y tywydd hydrefol a gaeafol!

Wrth gwrs, mae dail sych yn ddeunydd llosgi da, a bydd yn gynhwysyn poblogaidd ar goelcerthi ar draws y wlad. I lawer, bydd y pentwr hwnnw o ddail yn yr ardd yn sylfaen berffaith i goelcerth a bydd yn cael ei hadeiladu gyda phob math o ddeunydd llosgi eraill heb unrhyw archwiliad trylwyr. A dyma lle mae'r broblem. Ni allwn bwysleisio pa mor bwysig yw hi i archwilio’r pentwr hwnnw o ddail cyn llosgi. Yn rhy aml, mae coelcerth sy’n hwyl ac yn codi calon ac sydd wedi’i chreu ar gyfer pleser pobl, yn gorffen mewn trasiedi i ddraenogod, llygod pengrwn, llygod a mathau eraill o fywyd gwyllt.

Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi proc da i’r dail hynny cyn adeiladu’r goelcerth gyda darn o bren heb fin a gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi digon o amser i’r draenog, a chreaduriaid eraill, i ddihuno ac i wneud eu ffordd i le diogel cyn dechrau. Peidiwch â chyffwrdd â’r draenogod, oherwydd maen nhw’n cario digonedd o germau câs sydd ddim yn dda i ni.

Am fwy o ffyrdd i helpu ein draenogod, cliciwch fan hyn!