English version available here
Mae dolydd blodau gwyllt yn rhywbeth rydych chi wedi clywed amdanynt yn y gorffennol, rwy’n siŵr. Maent yn creu delwedd yn ein meddyliau o gaeau melyn hardd, awel ysgafn, adar yn canu a lliwiau trawiadol natur yn disgleirio yn ngwres haul y prynhawn. Math o laswelltiroedd llawn blodau yw dolydd, ac maent yn deillio o systemau ffermio traddodiadol sydd wedi cael eu defnyddio dros y canrifoedd diwethaf, fel torri gwair a phori.
Mae dolydd a glaswelltiroedd yn gynefinoedd delfrydol ar gyfer mwy na 150 o rywogaethau, fel y Cornchwiglod a’r Cacwn. Yn anffodus, dros y can mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld dirywiad mewn llawer o rywogaethau a chynefinoedd gwyllt. Fel rhan o'r dirywiad, rydym wedi colli dros 90% o’n dolydd blodau gwyllt yma yng Nghymru ers y 1930au, a daeth y rhan fwyaf o’r golled honno yn sgil y newid mewn arferion ffermio a’r gwaith o ddatblygu tir ar gyfer eiddo. Cyfunwch y rhain ag effeithiau newid yn yr hinsawdd a phrinder bwyd ac nid yw’n syndod bod 1 o bob 6 rhywogaeth bellach mewn perygl o ddiflannu’n llwyr yng Nghymru.
Ni all natur aros, a ddylem ninnau ddim chwaith. Gan fod dros 90% o’r tir yng Nghymru yn cael ei ffermio mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, mae ffermio’n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o adfer natur. Nid yw'r cymorthdaliadau amaethyddol presennol yn gweithio i ffermwyr, i bobl nac i fywyd gwyllt, felly rydym yn galw am newid. Rydym newydd lansio ein hymgyrch ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy sy’n addas i’r diben. Rydym yn galw am gynllun sy’n defnyddio arian cyhoeddus i gefnogi ffermwyr i dyfu bwyd cynaliadwy, i adfer byd natur ac i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae’n bwysig bod y cynllun yn cefnogi'r ffermwyr i reoli'r cyfuniad cywir o gynefinoedd ar draws o leiaf 10% o’u tir, a bod y cynllun yn eu gwobrwyo’n deg am wneud hynny. Mae ein gwaith yn dangos bod yn rhaid i isafswm o 10% o dir caeedig fferm gael ei reoli fel gwahanol gynefinoedd er mwyn rhoi’r hyn sydd ei angen ar fyd natur i ffynnu – gan gynnwys cynefinoedd llawn blodau a hadau, cynefinoedd lled-naturiol, gwrychoedd, prysgoed a choed, a nodweddion dŵr. Bydd y cynefinoedd hyn yn cynnal pryfed, adar a phoblogaethau bywyd gwyllt eraill o ganlyniad i hynny.
Fel y soniwyd eisoes, mae dolydd a glaswelltiroedd llawn blodau yn rhan o’r cyfuniad o 10% rydym yn ei hyrwyddo. Mae dolydd a glaswelltiroedd yn fannau sy’n cael tyfu’n naturiol heb orfod defnyddio cemegion cryf, ac yn lle hynny maent yn defnyddio’r cydbwysedd cywir o bori a gwaith rheoli er mwyn annog amrywiaeth eang o wahanol blanhigion blodeuol i dyfu, fel glaswellt a thegeirianau. Mae gwahanol fathau o ddolydd i'w gweld ledled Cymru, yn dibynnu ar yr ardal rydych chi’n byw ynddi. Er enghraifft, mae dolydd gorlifdiroedd yn mwynhau pridd gwlyb, ac yno fe welwch chi blanhigion fel Melyn y Gors, Erwain a Thegeirianau rhuddgoch yn tyfu. Yn wir, gallwch chi ddod o hyd i Degeirianau’r- Gors Deheuol yn tyfu yng Ngwarchodfa Natur Conwy, ynghyd â llu o blanhigion, adar a phryfed eraill. Mae dolydd iseldir niwtral, sydd ddim yn rhy asidaidd nac alcalïaidd, yn gartref i blanhigion fel blodau menyn a llygaid y dydd. Mae dolydd yn gartref i lawer o rywogaethau – hyd at 45 o rywogaethau gwahanol mewn un metr sgwâr yn unig. Maent yn gynefin anhygoel ar gyfer denu llu o fywyd gwyllt, ac maent yn chwarae rhan hanfodol yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.
Mae mesurau fel y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn bwysig oherwydd eu bod yn cefnogi adferiad natur a hefyd yn galluogi cynhyrchiant bwyd i fod yn fwy proffidiol a chadarn. Mae ecosystemau fferm iach yn llai tebygol o gael eu heffeithio gan glefydau, sychder a chostau uchel plaladdwyr. Yn wir, mae adroddiad newydd wedi canfod bod cynnydd cyfartalog o 42% i'w gael mewn proffidioldeb wrth ffermio’n gynaliadwy. Drwy neilltuo gofod penodol i natur, rydym nid yn unig yn gofalu am ein bywyd gwyllt, ond rydym hefyd yn gofalu am lesiant cenedlaethau’r dyfodol – oherwydd pan mae natur yn ffynnu, mae pawb yn ffynnu.
Fodd bynnag, nid ar gyfer ffermydd a gwarchodfeydd natur yn unig y mae dolydd; maent yn rhywbeth y gallwn ni eu creu gartref. Dyma beth sydd mor gyffrous a hudolus am ddolydd bywyd gwyllt. Gall hyd yn oed darn bach o wyrddni gael ei drawsnewid yn fwrlwm o weithgarwch gydag ychydig o waith a dychymyg. Hefyd, nid oes rhaid i'r gwaith fod yn gostus na chymryd llawer o amser. Ffordd syml o ddechrau yw drwy beidio â thorri eich lawnt a chadw llygad ar beth sy’n tyfu yno. Edrychwch ar y ddolen hon i gael canllaw ar beidio â thorri eich lawnt. Neu, os ydych chi’n teimlo fel buddsoddi mwy o amser i greu dôl blodau gwyllt sylweddol: dyma ganllaw manwl cam wrth gam gan yr RSPB.
Os hoffech chi ymuno â’n hymgyrch i gefnogi ffermwyr Cymru i hyrwyddo natur a hinsawdd, llofnodwch ein e-weithredu yma. Wedi'r cyfan – mae arian cyhoeddus ar gyfer nwyddau cyhoeddus yn golygu bod gan bob un ohonom yng Nghymru ddiddordeb mewn gwneud i'r cynllun newydd hwn weithio ar gyfer ffermwyr, pobl a natur.
Ffotograffiau: 'Wet meadows in flower' - David Kjaer (rspb-images.com)
Tegeirianau Rhuddgoch - Andy Hay (rspb-images.com)
Cornchwiglen - Graham Goodall (rspb-images.com)
Tinwen y Garn - Ben Andrew (rspb-images.com)