Diwrnod Amgylchedd y Byd 2022: Galwn am Gymru Natur Bositif

English version available here

Ar Ddiwrnod Amgylchedd y Byd, rydym wrth gwrs yn meddwl am sut stad sydd ar amgylchedd y byd - ond mae’n ddiwrnod hefyd i adlewyrchu ar ran Cymru yn y jig-so enfawr hwn. Beth allwn ni ei wneud i achub amgylchedd Cymru, a rhoi’r cyfle gorau i’n bioamrywiaeth adferu a ffynnu?

Mae un llwybr clir y mae’n rhaid i ni ei gamu er mwyn osgoi’r dirywiad hwn - sef cyflawni dyfodol Natur Bositif:

Fe fydd Natur Bositif yn sicrhau ein bod gyda mwy o fyd natur ar ddiwedd y ddegawd nag ar y dechrau, yn ein gosod ar lwybr dyrchafol fydd yn adfer ein byd natur erbyn 2050.


Lle Cymru yn y byd

Mae cymunedau cadwraeth byd natur ledled y byd yn galw am ddyfodol Natur Bositif I fod yn nod byd-eang, i’w gael ei ddiffinio a’i chytuno gan lywodraethau ar draws y byd yn hwyrach eleni yng Nghonfensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (COP15) Mae’r amseru hwn yn rhoi cyfle i Gymru ddangos ei hun fel arweinydd byd-eang trwy fod yn fabwysiadon cynnar a phrofi ei fod yn dal ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn yr argyfwng natur a hinsawdd, ar ôl bod yn un o'r llywodraethau cyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng natur ym mis Mehefin 2021.

Mae dyfodol sy'n Natur Bositif yn nod uchelgeisiol, ond mae’n angenrheidiol os ydym am sicrhau’r newid brys sydd ei agen ar fywyd gwyllt. Yn yr un modd ag yr ydym wedi’i weld ar gyfer sero net ac addasu a lleihau effeithiau newid hinsawdd, rhaid i gamau gweithredu tuag at ddyfodol Natur Bositif gael eu gwreiddio ar draws pob lefel a gweithgaredd Llywodraeth yng Nghymru.

Beth sydd angen ei wneud yng Nghymru?

Rydym yn galw am ymagwedd Natur Bositif gan Lywodraeth Cymru – gan roi natur a’n hinsawdd wrth galon pob penderfyniad a wneir – a bod yn agored atebol wrth wneud hynny.


Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i:


• Cyflwyno Mesur Llywodraethu Amgylcheddol a fydd yn gosod targedau adfer natur sy'n gyfreithiol rwymol ac yn sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol i Gymru.

• Nodi yn y mesur hwn ddyletswydd sy'n ymrwymo Llywodraeth Cymru i sicrhau Cymru Natur Bositif.

• Sicrhau bod y Mesur Amaethyddiaeth sydd ar ddod a'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd yn gweithio i fyd natur.

• Cyhoeddi Strategaeth Cadwraeth Adar Môr a datblygu Cynllun Datblygu Morol penodol yn ofodol i warchod ein hamgylchedd morol.

• Cynyddu buddsoddiad cyhoeddus yn adferiad byd natur.

Mae’r pum peth yma yn gwbl angenrheidiol os ydym am atal a gwrthdroi’r golled o fioamrywiaeth, erbyn y flwyddyn 2030. Mae’n bosib y byddwn yn colli un o bob chwech o’n rhywogaethau oni bai ein bod yn gweithredu ar frys – yn syml iawn, ni all y 2020au fod yn 'ddegawd coll' arall.