Diwrnod Adar Môr y Byd: dyma sut y medrwch chi gymryd rhan

English version available here.

Mae Diwrnod Adar Môr y Byd yn digwydd ar y 3 Gorffennaf ac rydym yn eich annog i wisgo i fyny ar gyfer yr achlysur! Felly, ewch ymlaen, byddwch yn fwy o bâl ...

Gallwch lawrlwytho eich templed mwgwd pâl eich hun yma, ynghyd â chyfarwyddiadau syml a chanllaw lliwio.

Byddem wrth ein bodd yn gweld eich creadigaethau. Beth am eu rhannu gan ddefnyddio'r hashnod #AdferAdarMor ar Orffennaf 3?

Oes gennych chi ychydig funudau i helpu adar y môr?

  • Gofynnwch i Lywodraeth Cymru ymrwymo i strategaeth adfer adar môr. Mae'r Llywodraethau yn yr Alban a Lloegr wedi ymrwymo i greu strategaethau i amddiffyn adar y môr. Fodd bynnag, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cymryd y cam hanfodol hwn eto. Peidiwch â gadael i adar môr yng Nghymru gael eu gadael ar ôl. Gallwch ddarllen mwy am y bygythiad i adar môr yng Nghymru a'r angen am strategaeth isod. Helpwch ni i alw am strategaeth newydd ar Orffennaf 3 wrth gan ddilyn y cyfarwyddiadau ar ddiwedd y blog hwn.
  • Ar Orffennaf 3, rhannwch lun ohonoch chi neu aelod o'ch teulu yn gwisgo'r mwgwd ar Twitter neu Facebook, gan ddefnyddio'r hashnod #AdferAdarMor; ac os hoffech fynd gam ymhellach, tagiwch y Gweinidog Amgylchedd Lesley Griffiths @Lesley4Wrexham yn eich tweet, neu gyfrif y Llywodraeth ar gyfer Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - @LlCAmgylchFferm.

Os nad ydych yn gallu argraffu a lliwio'r mwgwd, mae dal modd i chi ymuno mewn. Pam ddim rhannu llun o'ch hoff aderyn môr neu ddarn o'r arfordir rydych yn ei garu, ynghyd a'r hashnod? Edrychwn ymlaen at glywed gennych!

Gallwch hefyd helpu adar y môr wrth:

  • Ymuno â ni i alw am adferiad gwyrdd; ymateb i Covid-19 a fydd yn helpu pobl a natur i adfer gyda'i gilydd.
  • Gwiriwch i weld a oes gennych unrhyw ffotograffau pâl lle mae gan yr adar fwyd yn eu pigau. Os oes, cyflwynwch nhw i’n gwyddonwyr syn astudio lluniaeth pâl.
    Strategaeth adfer adar môr

Strategaeth newydd i adfer adar y môr

Mae adar môr yn wynebu nifer o beryglon. Mae'r rhain yn cynnwys effeithiau newid yn yr hinsawdd, ymglymiad mewn offer plastig a physgota, aflonyddwch, ysglyfaethwyr mewn safleoedd bridio a cholli cynefin.

Felly nid yw'n syndod efallai fod adar morol ledled y DU ac yn fyd-eang yn cael mwy o drafferth nag unrhyw grŵp adar arall. Mae gwerthusiad diweddar o gynnydd yn dangos bod y DU wedi gwneud y cynnydd lleiaf ar warchod adar môr (o gymharu â chynnydd ar amddiffyn agweddau eraill ar yr ecosystem forol). Mewn gwirionedd, mae statws adar morol y DU yn ‘sefyllfa sy’n dirywio’.

Ni fu cyfrifoldeb Cymru am dynged adar môr y DU erioed yn fwy. Ers diwedd y 1980au, mae tueddiad tymor hir adar y môr yn yr Alban wedi gostwng bron i 40%. Yn y cyfamser, mae sawl rhywogaeth o adar môr yng Nghymru wedi cynnal poblogaethau cynyddol (fel pâl yr Iwerydd, rhywogaeth sydd dan fygythiad o ddifodiant byd-eang). Fodd bynnag, ysywaeth, mae rhai o adar môr Cymru yn adlewyrchu’r tueddiadau a welir yn ein siroedd cyfagos. Er enghraifft, bu dirywiad difrifol yng ngwylanod coesddu sy’n magu yng Nghymru o 35% ers 1986!

Byddai Strategaeth Adfer Adar Môr i Gymru yn darparu ymrwymiad gwleidyddol i, ac yn sylfaen ar gyfer gweithredu strategol, ymroddedig i wyrdroi'r tueddiadau negyddol hyn ac atal rhywogaethau eraill rhag dilyn yr un llwybr, wrth barhau i amddiffyn yr adar môr hynny sy'n gwneud yn dda yng Nghymru i wrthweithio colledion mewn rhannau eraill o'r DU.

Mwynhewch Ddiwrnod Adar Môr y Byd wrth droi'n bâl a galw am Strategaeth Adar Môr i Gymru!

Os ydych wedi mwynhau cymryd rhan yn y gweithgaredd hwn ac eisiau dysgu rhagor am waith RSPB Cymru, cliciwch yma.

Tra’r ydych chi yma, rydym hefyd yn rhedeg e-weithred yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i fynd i'r afael ag effeithiau Covid-19 drwy Adferiad Gwyrdd. Darllenwch y blog hwn am fwy o wybodaeth, a cliciwch yma i gwblhau yr e-ymgyrch!