To read this blog in English please click here
Mae diweddariad y ddogfen Cwestiynau a Ofynnir yn Aml ar gael yma.
**Diweddariad 24 Ionawr**
Rydym bellach wedi mynd allan i dendr ar y broses o ddymchwel ac ailadeiladu canolfan ymwelwyr RSPB Ynys Lawd, bydd hyn yn para am bedair wythnos. Rydym yn defnyddio GwerthwchiGymru ac rydym yn gobeithio dod o hyd i gontractwr lleol i gwblhau'r gwaith. Byddwn yn eich diweddaru am unrhyw ddatblygiadau yn y broses dendr. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, ebostiwch cymru@rspb.org.uk.
**Diweddariad 31 Hydref**
Mae RSPB Cymru yn croesawu'r penderfyniad gan yr Arolygiaeth Gynllunio i ganiatáu gosod peiriannau tocynnau yn Ynys Lawd. Rydym yn gwybod bod ein penderfyniad i godi tâl ar yrrwyr sydd ddim yn aelodau o'r RSPB wedi achosi pryder, ac yn ystod yr haf fe wnaethon gyhoeddi newidiadau sylweddol i'n cynigion gwreiddiol, a oedd yn cynnwys treiali consesiwn i drigolion Ynys Môn. Gweler manylion ein cynigion isod.
Rydym wedi parhau i wrando ar bryderon, a byddwn yn gwneud cyhoeddiad pellach ynghylch ein cynlluniau unwaith i Gyngor Môn benderfynu ar gais ar wahân i adnewyddu rhan o'r Ganolfan Ymwelwyr.
---
Yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf rydym wedi ystyried amryw o sylwadau a phryderon ynghylch ffioedd parcio yn RSPB Ynys Lawd. Er bod bob un o'r tri chais cynllunio ar gyfer peiriannau tocynnau parcio ac arwyddion wedi cael eu gwrthod, nid yw hyn yn newid ein sefyllfa. Ar hyn o bryd nid yw'r safle yn talu ei ffordd. Felly mae’n rhaid inni gynyddu ein hincwm er mwyn inni fod yn gynaliadwy yn ariannol. Codi ffi am barcio yw'r ffordd fwyaf priodol i greu incwm ychwanegol, a dyma'r drefn arferol erbyn hyn yng nghyswllt llawer o gyrff cyhoeddus ac elusennau sy’n rhedeg atyniadau i ymwelwyr a meysydd parcio cyhoeddus. Rydym yn gwybod bod hwn yn bwnc sensitif ac rydym wedi ystyried y sylwadau a'r awgrymiadau a ddaeth i law yn ofalus iawn. O ganlyniad, rydym wedi llunio pecyn o gonsesiynau pellach rydym yn bwriadu ei gyflwyno fel arbrawf.
Wedi clywed y pryderon nad oedd ein cynllun blaenorol i roi cyfradd gonsesiynol flynyddol o £20 i drigolion Caergybi yn cynnwys ardal digon eang, byddwn yn ehangu'r consesiwn i gynnwys holl drigolion Ynys Môn.
Rydym hefyd wedi rhoi ystyriaeth fanwl i bryderon y gallai cyfradd safonol fod yn rhy uchel i'r rheini sydd ond am ymweld â'r safle am gyfnod byr ac felly byddwn yn treialu strwythur prisio haenog a fydd yn amrywio yn ôl y tymor.
Yn gryno, dyma fo:
Rydym yn bwriadu cyflwyno’r cyfraddau hyn, gan gynnwys y consesiwn blynyddol, ar sail arbrawf, am 12 mis. Wrth gwrs, byddwn yn monitro faint o bobl fydd yn manteisio ar y consesiynau ac yn mesur eu heffaith dros y flwyddyn nesaf.
Mae gofalu am ein heiddo ein hun ynghyd ag ymdopi â gofynion y cyngor sir, drwy ein les, er mwyn cyflawni rhwymedigaethau cyfreithiol cadwraeth natur yn y safle a sicrhau bod Ynys Lawd yn parhau i fod yn gyrchfan i ymwelwyr sydd o safon ryngwladol, yn gyfrifoldeb mawr yn ariannol yn ogystal. Felly mae’n rhaid inni fwrw ymlaen â chynlluniau i gynhyrchu mwy o incwm drwy ffioedd parcio. Yn dilyn cyngor cyfreithiol, rydym wedi penderfynu cyflwyno apêl i'r Arolygiaeth Gynllunio yn erbyn y penderfyniad i wrthod caniatâd cynllunio i godi arwyddion a pheiriannau talu am barcio yn ein tri maes parcio.
Byddem hefyd yn hoffi rhannu ein cynlluniau gyda chi ar gyfer datblygu'r cyfleusterau i ymwelwyr yn y safle. Rydym yn gobeithio rhoi'r rhain ar waith y flwyddyn nesaf. Mae taer angen trwsio ac ailwampio'r adeiladau yn Ynys Lawd ac mae strwythur yr adeilad lle mae'r swyddfa yn ddiffygiol. Rydym yn bwriadu dymchwel rhan o'r adeilad presennol ac ailadeiladu swyddfa sy’n addas i’r diben a gofod lles i staff a gwirfoddolwyr, yn ogystal â lle i eistedd a chaffi a thoiledau i ymwelwyr ac i bobl leol. Rydym yn bwriadu cyflwyno cais cynllunio cyn bo hir.
I gael rhagor o wybodaeth am yr uchod, darllenwch ein taflen cwestiynau cyffredin. Rydym yn parhau i ohebu ag unigolion allweddol, gan gynnwys cynghorwyr cymuned, tref a sir, cynrychiolwyr o'r grŵp Friends of South Stack/Ynys Lawd a Grŵp Treftadaeth y Goleudy ynghylch y cynlluniau i wella'r seilwaith adeiledig a'r hyn sydd gennym i'w gynnig i ymwelwyr yn Ynys Lawd.
Os oes gennych chi fwy o gwestiynau am yr uchod, anfonwch ebost atom yn cymru@rspb.org.uk a byddwn yn eich ateb cyn gynted â phosibl.