To read this in English, please click here.

Yn ôl ym mis Rhagfyr 2016, efallai y byddwch yn cofio ymgynghoriad Defra a Llywodraeth Cymru ar ymestyn nifer yr hectarau gallwch chi blannu coed ar heb Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol. Er bod plannu coed yn wych ar gyfer cysylltu cynefinoedd a darparu cartrefi ar gyfer rhywogaethau coetir, tydi rhai pobl ddim yn sylweddoli os nad ydych yn plannu'r coed addas yn y llefydd cywir, gall hyn fod yn niweidiol i rai cynefinoedd a bywyd gwyllt mewn gwirionedd. Drwy gynnal Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol, mae’n bosib adnabod a ydych yn plannu'r goeden addas yn y lle cywir, er mwyn osgoi difrod i fywyd gwyllt gwerthfawr a sicrhau bydd pobl a natur yn cael y budd mwyaf.

Eleanor Bentall, rspb-images

Ar hyn o bryd gallwch chi blannu hyd at 5 hectar o goed heb orfod gwneud Asesid o'r Effaith Amgylcheddol – ac mae hyn yn dal i fod yn llawer! Yn wir, mae tystiolaeth yn awgrymu bod y trothwy pum hectar eisoes yn rhy uchel i ddiogelu llawer o gynefinoedd bach fel dolydd sy’n gyfoethog mewn blodau, sydd eisoes wedi gostwng 97%. Fodd bynnag, roedd yr ymgynghoriad yn cynnig y gallech ymestyn hyn hyd at 20, 50 neu 100 hectar yn Lloegr, a hyd at 20 neu 50 hectar yng Nghymru! Roedd hynny'n golygu y gallai unrhyw un blannu coed ar draws nifer enfawr o gynefinoedd sy'n wirioneddol bwysig i fywyd gwyllt a phobl, heb wirio’r effaith ar fywyd gwyllt. Byddai hyn wedi effeithio ar gynefinoedd gwerthfawr fel dolydd blodau ffridd a chynefinoedd glaswelltir eraill. Bydd hyn wedi bod yn golled enfawr i natur yng Nghymru, ond fe helpwyd eich lleisiau chi i atal y cam niweidiol hwn rhag digwydd!

Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, ar 5 Ebrill: "Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad [...] ac o ganlyniad cytunwyd i gario ymlaen i gynnal y trothwy ar gyfer Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol. Mae Llywodraeth Cymru bellach yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i archwilio dulliau newydd ar gyfer gweithrediad Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol yn y dyfodol. Bydd hyn yn ystyried goblygiadau bioamrywiaeth."

Mae hon yn fuddugoliaeth enfawr i natur yng Nghymru, ac mae angen i ni ddiolch i'ch ymdrechion chi fod hyn wedi cael ei gyflawni.