To read this blog in English please click here

Rŵan mae’r haf yn ei lawn ogoniant mae gennych chi ddigonedd o opsiynau am ddiwrnod llawn hwyl ar ein gwarchodfeydd. P’un a ydych chi’n ffansi diwrnod yng nghefn gwlad, mwynhau un o’n sawl digwyddiad, neu’n awyddus i gymryd y cyfle i ddod o hyd i fywyd gwyllt rhyfeddol; mae’r dewis yn eang. Dyma rai o’r digwyddiadau hafaidd gwych sydd ar gael ar warchodfeydd RSPB Cymru o rŵan tan ddiwedd yr haf.

Dewch i dreulio bore gyda’n bugail wrth iddo warchod ein praidd o ddefaid Hebridёaidd yn RSPB Ynys Lawd. Cewch helpu i yrru’r defaid i fyny i’r warchodfa, cyfarfod y cŵn defaid a dysgu sut y defnyddir y defaid i helpu i reoli’r tir ar gyfer bywyd gwyllt. Wedi’r holl waith cewch ymlacio yn ein caffi a mwynhau powlen o gawl neu frechdan am ddim. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal o 6 Awst - 30 Tachwedd. Mae’n rhaid archebu lle o flaen llaw, ffoniwch 01407 762100.

Llun: Dafad Hebridёaidd, Laura Kudelska, RSPB Cymru

Ymunwch â ni am daith gerdded gyda’r nos i ddod o hyd i’r ystlumod yn RSPB Gwlyptiroedd Casnewydd a RSPB Llyn Efyrnwy yn eu hamrywiol gynefinoedd. Bydd gennym hefyd drap gwyfynod, a byddwn yn defnyddio gwin ar raff a siwgr i weld pa rywogaethau allwn ni eu dal a’u hadnabod drwy gydol y nos. Cewch ddysgu pam fod y creaduriaid rhyfeddol yma’n cartrefu ar lan Llyn Efyrnwy a Gwlpyptiroedd Casnewydd a beth allwch chi ei wneud i helpu.

Bydd y daith dywys yn cael ei gynnal yn RSPB Llyn Efyrnwy ar 25 Awst, 8pm. Ffoniwch 01691 870278 er mwyn archebu lle.

Bydd teithiau tywys ystlumod a gwyfynod RSPB Gwlyptiroedd Casnewydd yn cael eu cynnal ar 31 Awst ac 1 Medi. Ffoniwch 01633 636353 er mwyn archebu lle.

Dewch draw i RSPB Conwy er mwyn darganfod adar rhydiol y warchodfa yng nghanol eu cyfnod ymfudo. Gyda channoedd o adar yn symud i’r morlynnoedd ar lanw uchel, bydd cyfleoedd i chi herio’ch sgiliau adnabod gyda chyfle da i weld rhai o’r rhywogaethau mwy anghyffredin. Unwaith eto mae angen i chi archebu lle. Ffoniwch 01492 584091 os gwelwch yn dda.

Llun: Pibydd y dorlan, Louise Greenhorn rspb-images.com

Ymunwch â'r tîm yn RSPB Ynys Dewi am daith dywys o amgylch yr ynys, gan ganolbwyntio’n arbennig ar forloi llwyd wrth iddynt ddod i draethau’r ynys i eni’r rhai bach. Cewch gyfle i ddysgu am eu bywyd difyr a’n rhaglen ymchwil. Cewch gyfle hefyd i weld bywyd gwyllt arall Ynys Dewi ar hyd y llwybr, dysgu am hanes yr ynys a sut brofiad yw byw a gweithio ar ynys anghysbell. Cynhelir y rhain ar 13, 20 a 27 Medi. Ffoniwch 01437 721721 er mwyn archebu lle.

Dewch i RSPB Ynys-hir i ddathlu un o enwogion yr RSPB, William Condry, ble fydd MOMA Machynlleth (Amgueddfa Gelf Gyfoes) a staff y warchodfa yn cydlynu’r arddangosfa. Chwaraeodd William Condry rôl hanfodol mewn sefydlu RSPB Ynys-hir a daeth yn warden cyntaf y warchodfa yn 1969. Ffoniwch 01654 700222 am ragor o wybodaeth.

Yn olaf, i ddathlu Blwyddyn y Môr Croeso Cymru, mae ein tîm aelodaeth yn paratoi ar gyfer taith o amgylch glannau gogledd Cymru. Rhwng 6-13 Awst cewch hyd i’n tîm ar hyd y glannau rhwng Talacre a Llandudno cyn i’w taith ddod i ben gyda digwyddiad casglu sbwriel ar hyd aber Conwy. Ymunwch wedyn â’r hwyl rhwng 20-27 Awst ar yr arfordir o Benmaenmawr i Ynys Môn. Am fwy o wybodaeth ewch i dudalen Facebook RSPB Gogledd Cymru.