English version available here
Rydyn ni’n galw am Ddeddf Amaethyddiaeth newydd sy’n sicrhau bod arian cyhoeddus yn cefnogi ffermwyr Cymru i reoli tir yn gynaliadwy, fel ei fod yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur cynyddol ac yn darparu nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol i gymdeithas sy’n hanfodol i’n llesiant.
Mae’n hanfodol fod y Ddeddf newydd yn hyrwyddo cynhyrchu bwyd a chadwyni cyflenwi cynaliadwy, fel bod ffermwyr yn cael elw teg am yr hyn maent yn ei gynhyrchu.
Dyma ein hunig gyfle i gael hyn yn iawn ar gyfer ffermio, natur a chenedlaethau’r dyfodol
Mae gadael yr UE yn rhoi cyfle unigryw inni i ddiwygio rheolau a chynlluniau hen ffasiwn a chyfeiliornus (h.y. y Polisi Amaethyddol Cyffredin) sydd wedi ysgogi dwysáu amaethyddol, ac sydd yn anochel wedi gwthio llawer o’n ffermio y tu hwnt i derfynau amgylcheddol cynaliadwy.
Ers y 1960au, rydym wedi gweld cynnydd enfawr mewn da byw. Mae hyn wedi arwain at fwy o wastraff fel slyri, a defnyddio mwy ar gemegau a bwydydd wedi’u mewnforio – ac mae’r rhain i gyd yn gallu cael ac yn cael effaith negyddol ar ein natur, dŵr, aer a phriddoedd, yn enwedig mewn ardaloedd iseldir. Yn ystod yr un cyfnod, rydyn ni hefyd wedi gweld colledion enfawr o ran cynefinoedd lled-naturiol (a’r bywyd gwyllt roedden nhw’n ei gynnal), sydd wedi cael eu troi’n laswelltir amaethyddol i ddarparu ar gyfer y dwysâd hwn. Gwyddom yn awr y byddai’r cynefinoedd hyn wedi dal storfeydd mawr o garbon ac wedi darparu manteision eraill megis rheoli llifogydd yn naturiol.
Nid yw’r system gymorth bresennol, hyd yn oed gyda thaliadau uniongyrchol (cymorth incwm) i ffermwyr, wedi cynnal ffermio chwaith. Mae 800 yn llai o ffermydd yn awr nag yn 2014 (ffigurau Llywodraeth Cymru) ac mae mwy a mwy o ffermwyr rhan amser, gan fod yn rhaid i lawer ohonynt geisio ail incwm i wneud bywoliaeth. Mewn rhannau mwy ymylol o Gymru – fel ardaloedd yr ucheldir – mae perygl gwirioneddol y gallai ffermio ddod i ben yn gyfan gwbl wrth iddi ddod yn fwyfwy anodd gwneud bywoliaeth. Gallai effaith cytundebau masnach yn y dyfodol waethygu’r sefyllfa hon ymhellach fyth.
Mae i'r dirywiad hwn mewn ffermio oblygiadau clir i gymuned, iaith a diwylliant ac nid oes tystiolaeth i ddangos y byddai cynnal y sefyllfa bresennol, gan gynnwys cadw taliadau uniongyrchol, yn gwrthdroi’r duedd hon. Yn wir, mae’n ymddangos mai’r gwrthwyneb sy’n wir a bod talu cymorthdaliadau uniongyrchol i ffermwyr yn gysylltiedig â gostyngiad cymharol fawr yn sefydlogrwydd incwm ffermydd.
Galluogi ffermio sy’n ystyriol o natur a’r amgylchedd i ddod yn norm
Does dim rhaid i’n hamaethyddiaeth ni fod fel hyn. Mae llawer o enghreifftiau o ffermwyr ledled Cymru yn cynhyrchu amrywiaeth o fwydydd o ansawdd uchel mewn ffyrdd sy’n gofalu am natur a’r amgylchedd ac yn eu gwella. Mae llawer o’r ffermwyr hyn hefyd yn ymarfer agroecoleg – maent yn ffermio gyda natur ac yn cymhwyso egwyddorion ac arferion ecolegol i’r modd y maent yn cynhyrchu bwyd ac yn cynnal ffrwythlondeb pridd (mae ffermio organig yn enghraifft o agroecoleg).
Ar ben hynny, y duedd ar y ffermydd hyn yw dim ond cadw nifer y da byw y gall capasiti naturiol eu tir ei gynnal, gan leihau ymhellach/dileu yr angen i brynu cyflenwadau drud (a allai fod yn niweidiol i’r amgylchedd) i mewn, fel gwrteithiau a bwydydd a brynir. Mae’r nodweddion hyn i gyd yn allweddol i gynyddu effeithlonrwydd ffermydd a’u helw, fel y nodwyd yn Less is More, a dylid eu blaenoriaethu a’u hyrwyddo drwy’r polisi ffermio yn y dyfodol.
Mae rhai’n poeni y bydd y dull hwn o ffermio yn effeithio ar ein gallu i gynhyrchu bwyd (h.y. ein diogelwch bwyd). Mewn ymateb, cynhyrchodd y Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad Farming for Change (2020) a oedd yn dangos y gall agroecoleg gynhyrchu digon o fwyd iach ar gyfer poblogaeth y DU yn y dyfodol.
Nawr yw’r amser i weithredu
Os ydym am gael natur sy’n ffynnu, amgylchedd iach a ffermio cynaliadwy a chryf, rhaid inni achub ar y cyfle hwn nawr i ddiwygio polisïau ffermio sy’n amlwg yn annigonol. Daeth Paying for public goods from land management i’r casgliad y byddai’n costio £273 miliwn y flwyddyn i gyflawni ymrwymiadau amgylcheddol drwy reoli tir yng Nghymru. Mae’r swm hwn yn eithaf tebyg i’r hyn y mae ffermio yng Nghymru yn ei gael ar hyn o bryd o’r mecanweithiau cymorth presennol.
Mae’r adroddiad hwn yn dangos yn glir y bydd Deddf Amaethyddiaeth i Gymru lle mae’r cymorth i ffermydd yn cael ei dargedu tuag at sicrhau canlyniadau amgylcheddol a hyrwyddo cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy yn rhoi inni ddadl gref o blaid cynnal y gyllideb wledig bresennol i Gymru. Y rheswm am hyn yw y bydd yn sicrhau gwerth am arian cyhoeddus ar adeg pan fydd craffu manwl ar wariant cyhoeddus. Bydd hefyd yn gwella cadernid ffermydd oherwydd, yn wahanol i effaith cymhorthdal incwm, mae taliadau uwch o fath amaeth-amgylcheddol yn gwneud incwm ffermydd yn fwy sefydlog.Llun: Eleanor Bentall (rspb-images.com)