Dathlu’r dosbarth mwyaf yng Nghymru!

English version available here.

Coed, dolydd, afonydd, nentydd, adar, planhigion, anifeiliaid. Tydi’r geiriau yma fel arfer ddim yn cael eu cysylltu â’r ‘dosbarth’. Ond ar stepen ein drws, mae’r dosbarth mwyaf cyffroes ohonynt i gyd. Rhwng 1-7 Ebrill, byddwn yn dathlu beth sydd gan ein hamgylchedd naturiol ei gynnig.

Eleni, mae Cyngor Cymru ar Gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored yn lansio Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru - saith diwrnod o ddathlu a hyrwyddo dysgu yn ein hamgylchedd naturiol. Yn syml iawn, addysg yn yr awyr agored ydi cymryd amser i ffwrdd o’r dosbarth arferol i fynd tu allan ddysgu. Gall hyn olygu unrhyw beth o chwilio am wahanol fathau o blanhigion ag anifeiliaid, astudio daearyddiaeth leol i greu celf a chrefftau gan ddefnyddio deunyddiau naturiol.

Mae gan ddysgu yn yr awyr agored rôl fawr i’w chwarae yn yr oes ddigidol sydd ohoni. Mae llawer ohonom wedi ein gludo i’r sgrin; boed hynny yn y swyddfa, yn ein cartrefi a’n hysgolion - rydym yn treulio llai a llai o amser tu allan. Mae cyfrifiaduron, teledu a ffonau symudol yn rhan o’n bywydau dyddiol, gan ein gwneud yn llai cysylltiedig i natur. Mae’n ffaith arswydus nad oes gan un o bob wyth plentyn yng Nghymru yn gysylltiad derbyniol â natur.

Dyna pam ein bod ni’n dathlu dysgu yn yr awyr agored yr wythnos hon, i ddangos pam fod treulio amser tu allan mor bwysig. Mae cael cysylltiad da â natur yn helpu ein lles meddyliol ac yn gwella ein dealltwriaeth o’r amgylchedd - a’n gam pwysig os ydyn ni am edrych ar ôl ein planed ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae hyn hefyd yn ffordd wych o gadw’n ffit, i ddysgu sgiliau ymarferol, a’n gyfle i gyfathrebu a datrys problemau mewn lleoliad ychydig mwy cyffroes na’r dosbarth arferol.

Does yna ddim rheswm o gwbl i beidio â chymryd mantais o’r adnoddau naturiol anhygoel Cymreig sydd ar ein stepen drws. Mae gan y rhan fwyaf ohonom goedwigoedd, mynyddoedd, llynnoedd ag afonydd sydd ddim yn rhy bell oddi wrthym, ac wrth gwrs cannoedd o filltiroedd o draethau hyfryd ag arfordir garw. Dyma’r adnoddau dysgu perffaith, ac maen nhw i gyd yn helpu’n plant i ailgysylltu â natur a bywyd gwyllt. Os ydi’n plant yn teimlo yn fwy cysylltiedig nawr, bydd ein planed yn cael ei achub yn y dyfodol.

I ddysgu mwy am weithgareddau allan yn yr awyr agored ar ein gwarchodfeydd a’n canolfannau ymwelwyr, ewch i’r tudalen Gwarchodfeydd RSPB, neu i ddysgu mwy am gyfleoedd gwirfoddoli, digwyddiadau a sesiynau allgymorth am ddim, ewch i’n tudalen Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd.