Dathlu malwod yn Sioe yr RHS!

Mae gweld aderyn du, titw mawr neu robin goch yn bwydo yn ein gerddi yn olygfa gyffredin. Yn wir, mae nifer ohonom ni'n gwneud ymdrech fawr i ddenu'r adar yma i'n gerddi drwy gynnig danteithion fel cnau a hadau, a blychau adar iddynt gael adeiladu eu nythod ynddynt.

Ond, mae yna greaduriaid eraill sydd ddim yn cael cymaint o groeso gennym ni a, gan amlaf, malwod sydd ar frig y rhestr honno. Mae llawer o arddwyr brwd yn eu hystyried fel eu harch elyn, ac maen nhw'n mynd i dipyn o ymdrech ac yn treulio llawer o amser ac arian i'w cadw draw o'u llysiau a'u tai gwydr.

Ond, y gwir amdani yw bod y creaduriaid bach seimlyd hyn yn bwysig i'n gerddi. Maen nhw'n rhan o deulu mawr ac, fel mewn unrhyw gynefin, mae ganddyn nhw eu lle a'u rôl i'w chwarae. Mae pawb yn gwybod eu bod nhw wrth eu bodd yn bwyta planhigion byw, ond daw rhan fwyaf  o'u diet dyddiol o blanhigion sy'n pydru a deiliach marw. Trwy fwyta'r pethau yma maen nhw'n ymddwyn fel glanhawyr, yn hwfro'r gwastraff yn ein gerddi, gan adael ecosystem iach ar eu hôl.

Yn bwysicaf oll, maen nhw'n ffynhonnell fwyd hanfodol i lawer o anifeiliaid fel brogaod, llyffantod, madfallod, a phryfed fel chwilod daear. Mae nifer o adar yn dibynnu cryn dipyn arnynt hefyd ac mae malwoden yn ffefryn amlwg i'r fronfraith. Mae eu cregyn yn ffynhonnell bwysig o galsiwm sy'n elfen hollbwysig ar gyfer datblygu wyau adar. Mae rhai gwenyn hyd yn oed yn nythu tu mewn i gregyn malwod gwag!

 Maenor Malwen, ein gardd gyfeillgar i falwod

 Oherwydd bod malwod wedi cael enw mor ddrwg ar hyd  y blynyddoedd, roedd y tîm yn teimlo ei fod yn hen bryd dathlu'r molysgiaid bach hyn sydd heb gael eu haeddiant na'u gwerthfawrogi digon. Daeth y cyfle perffaith i wneud hyn pan ddaeth Sioe'r Gymdeithas Arddwriaeth Frenhinol (RHS) ar ymweliad â Pharc Biwt, Caerdydd, ym mis Ebrill.

Fel rhan o dîm Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd, fe wnaethom ni greu arddangosfa o'r enw Maenor Malwen, i ddangos syniadau ar sut i greu gerddi sy'n llawn bywyd gwyllt. Roedd yr arddangosfa yn caniatáu i bobl archwilio'r gwahanol ffyrdd o greu cynefinoedd sy'n gyfeillgar i falwod, fel gosod boncyffion wedi'u pydru mewn cornel laith, creu pwll dŵr bach neu blannu dôl naturiol.

Fe wnaethom ni hefyd gynnal amrywiaeth o weithgareddau diddorol, fel saffaris pryfed i helpu plant i adnabod gwahanol rywogaethau o falwod a bygiau, a helfeydd trysor ar thema natur a oedd yn annog plant i ddefnyddio eu synhwyrau trwy chwilio am amrywiaeth o liwiau ac i ddarganfod a theimlo gwahanol bethau yn yr ardd. Roedd cyfle hefyd i fynd i drochi dwylo a dillad drwy greu 'sleim malwod' ecogyfeillgar!

Roedd yn benwythnos prysur iawn a llwyddwyd i ymgysylltu â dros 500 o blant dros gyfnod o dridiau! Fe gawsom ni nifer fawr o sgyrsiau diddorol hefyd am arddio sy'n gyfeillgar i fywyd gwyllt gyda theuluoedd, rheiny sy'n caru byd natur ac ymwelwyr eraill i'r sioe.

Bydd y tîm yn brysur dros y misoedd nesaf gyda phob math o weithgareddau yng Nghaerdydd ar gyfer plant a'u teuluoedd. O rwydo mewn pyllau i wirfoddoli teuluol, mae yna ddigonedd o ffyrdd cyffrous i gymryd rhan.

Sut i gymryd rhan

Dyma ychydig o ddigwyddiadau sydd gennym ni ar y gweill:

  • Her Wyllt yr RSPB ar ddyddiau Mercher mewn parciau ar draws Caerdydd
  • Arolygon Gwenoliaid Duon: Helpwch ni i fonitro niferoedd gwenoliaid duon wrth iddynt ddychwelyd i'n prifddinas dros yr haf
  • Helpwch ni i blannu bylbiau blodau, creu coedlannau neu gasglu sbwriel gyda'ch teulu

I gael gwybod mwy am ddigwyddiadau a dyddiau gwirfoddoli ledled y ddinas dros fisoedd yr haf ac i archebu lle, anfonwch ebost at jessie.longstaff@rspb.org.uk neu ewch i'n grŵp Facebook. I ddarganfod mwy am ein sesiynau gwirfoddoli i deuluoedd ac i archebu lle, ebostiwch susan.ansell@rspb.org.uk.