English version available here
Mae dod o hyd i newyddion da am fyd natur, gan amlaf, yn waith caled oherwydd yr holl fygythiadau y mae'n ei wynebu. Felly, pan ddaw llwyddiant, a'r wefr yn sgil hynny, mae'n well i ni sicrhau ein bod ni'n codi'n llais ac yn ei gyhoeddi ar led fel bod pawb yn gallu ymfalchïo ynddo! Dyma ychydig o enghreifftiau o newyddion da i'w mwynhau o bob cwr o Gymru yn y blynyddoedd diwethaf…
Nôl yn 2016, ar ôl blynyddoedd o waith cadwraeth ymroddedig, roeddem yn falch tu hwnt i allu cyhoeddi bod aderyn y bwn wedi nythu ar warchodfa RSPB Cors Ddyga ar Ynys Môn - y tro cyntaf yng Nghymru ers 32 mlynedd. Nythodd aderyn y bwn, sef math o grëyr bychan, brown golau streipïog sy'n ei guddliwio'n berffaith yn erbyn ei gynefin yn y gors ymhlith y cyrs, am y tro olaf yng Nghymru ym 1984.
Crëwyd RSPB Cors Ddyga yn 1994 gyda'r nod o greu cartref i adar y bwn. Hir yw pob ymaros ac, er inni weld amryw o rywogaethau prin fel llygod y dŵr, y nyddwr bach a dyfrgwn yn ffynnu ar y gors yn sgil gwaith caled staff a gwirfoddolwyr y warchodfa, roedd medru cadarnhau bod adar y bwn wedi nythu yno’n jam ar y frechdan.
Hefyd yn 2016, am y tro cyntaf mewn 400 mlynedd, gwelwyd garan a oedd wedi deor yma yng Nghymru yn esgyn i'r awyr. Daeth hyn yn sgil llwyddiant pâr o'r adar trawiadol hyn i nythu a magu cyw ar Wastadeddau Gwent.
Deilliodd y pâr hwn o gynllun ailgyflwyno y Great Crane Project a ryddhaodd naw deg tri garan a fagwyd â llaw rhwng 2010 a 2014 ar Warchodfa Gorllewin Sedgemoor yr RSPB ar Wastadeddau a Rhostiroedd Gwlad yr Haf.
Roedd achos i ddathlu hefyd yn 2016 pan welwyd boda'r wern yn dychwelyd i nythu i Gymru am y tro cyntaf ers 1946. Magwyd pedwar cyw y flwyddyn honno ar dir RSPB Cors Ddyga yn dilyn ymdrech fawr i wella'r gwlypdir ar y warchodfa.
Yn ystod y tymor nythu, mae boda'r wern gwrywaidd yn dawnsio yn yr awyr drwy berfformio arddangosfeydd carwriaethol anhygoel i'r iâr, gan droelli i'r uchelfannau cyn plymio tuag at y ddaear yn dinben drosben.
Yn ystod haf poeth 2018, am y tro cyntaf mewn mwy na degawd, gwelwyd pâr o fôr-wenoliaid gwridog - aderyn y môr prinnaf y DU - yn magu nid un, ond dau gyw ar Ynysoedd y Moelrhoniaid oddi ar Ynys Môn.
Roedd y gwaith a wnaed ar yr ynysoedd dros y blynyddoedd blaenorol yn allweddol i'w denu yn ôl. Roedd Prosiect Môr-wenoliaid Gwridog LIFE, a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd, wedi caniatáu i ni ymestyn tymor y wardeiniaid ar yr ynysoedd am bythefnos ychwanegol, ynghyd ag adnoddau i greu a gosod blychau nythu newydd yn strategol o amgylch yr ynysoedd. Roedd y wardeiniaid hefyd yn chwarae traciau sain o alwadau môr-wenoliaid gwridog, yn ogystal â gosod modelau o'r adar yma ac acw ar y creigiau er mwyn eu denu at y nythfa.
Wedi mwy na dau ddegawd o wrthwynebiad diflino, daeth y cynlluniau i adeiladu traffordd newydd 14 milltir o hyd i'r de o Gasnewydd i ben yn gynnar ym mis Mehefin. Roedd cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru na fyddai'r Llwybr Du yn cael y golau gwyrdd oherwydd pryderon amgylcheddol ac am y gost o’r gwaith yn garreg filltir i fyd natur.
Ynghyd â gwrthwynebiad cryf gan nifer o unigolion a sefydliadau, gan gynnwys CALM (Ymgyrch yn erbyn Traffordd y Lefelau) ac Ymddiriedolaeth Natur Gwent, fe gododd miloedd o gefnogwyr RSPB Cymru eu llais hefyd yn erbyn y gwyriad. Derbyniodd ddeiseb gan 38 Degrees a oedd yn galw am atal y ffordd dros 20,200 o lofnodion, gyda'r nifer yn cynyddu'n gyflym yn yr wythnosau cyn penderfyniad Mark Drakeford. Mae hyn yn dangos y gall eich brwdfrydedd a'ch angerdd fod yn rym go iawn yn y frwydr i achub byd natur!
Os bydd niferoedd gwenoliaid duon yn parhau i syrthio ar y raddfa bresennol gallem eu colli fel aderyn sy'n nythu yng Nghymru o fewn yr 20 mlynedd nesaf. Ers 1995, gwelwyd gostyngiad o 69% mewn niferoedd gwenoliaid duon yng Nghymru. Felly, rydym yn gobeithio mai un o'n llwyddiannau yn y dyfodol fydd y tŵr gwenoliaid duon sydd newydd ei osod ar Forglawdd Bae Caerdydd.
Trwy ddarparu 90 o safleoedd nythu newydd ar gyfer gwenoliaid duon i ddychwelyd iddynt bob blwyddyn, mae'r tŵr hwn yn enghraifft uchelgeisiol o gynnig cartref i wenoliaid duon yn y ddinas. Mae'r tŵr, a gynlluniwyd gan y penseiri Pwylaidd, Menthol, wedi'i osod fel rhan o brosiect ar y cyd rhwng Clwb Adar Morgannwg, RSPB Cymru ac Awdurdod Harbwr Caerdydd. Ariennir y prosiect trwy gefnogaeth hael Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Prif lun: Ben Andrew rspb-images.com