Dathlu ‘dawnswyr awyr’ Cymru

English version available here.

 Cyn cynnal Diwrnod Bodaod Tinwyn Cymru am y tro cyntaf erioed ar ddydd Sadwrn, 18 Gorffennaf, mae Niall Owen, Swyddog Adar Ysglyfaethus RSPB Cymru a Julian Hughes, Pennaeth Rhywogaethau RSPB Cymru, yn egluro pam fod bodaod tinwyn angen ein help.

Y dydd Sadwrn hwn, bydd cannoedd o bobl yn dathlu’r boda tinwyn ac yn tynnu sylw at y bygythiad parhaol y mae’n ei wynebu drwy Brydain. Y bwriad oedd ymgasglu mewn lleoliad yng ngogledd Cymru, ond fel pob digwyddiad yr haf hwn, bydd yn cael ei gynnal ar-lein, wedi’i ffrydio’n fyw ar Facebook, a bydd yn cael ei arwain gan Mountain Escapes a Julian Cartwright Mountain Adventures.  Mae’n ffantastig fod dau o gwmnïau gweithgareddau awyr agored yn trefnu hyn, gan ddangos maint y gefnogaeth sydd yna ar gyfer adar ysglyfaethus Cymru a chyfleu’r neges wrth gynulleidfa ehangach o bobl sy’n caru cefn gwlad Cymru. Ymysg y siaradwyr yn y digwyddiadau bydd Iolo Williams, Ruth Tingay, Dr Cathleen Thomas, Alan Davies, Dan Rouse a Rob Taylor.

Yn ystod y cyfnod clo, cafodd Niall ganiatâd arbennig i barhau â’i waith hanfodol o gefnogi’r heddlu i ymdrin â throseddau bywyd gwyllt. Gall diwrnod ar fynyddoedd Cymru gynnig yr hyn sy’n ymdebygu i bedwar tymor, ond pan ydych chi yng nghwmni’r adar ysblennydd hyn, rydych chi’n derbyn y cawodydd glaw ac yn trochi eich hun yn yr amgylchedd. Mae cadarnhau tiriogaeth nythu yn gêm lle mae angen amynedd, gall olygu disgwyl llawer awr am nifer o ddyddiau yn y gobaith o weld fflach o lwyd ar dirwedd toreithiog o biws a gwyrdd. Gobeithio y bydd gweld yr aderyn am y tro cyntaf yn arwain at eiliadau rhyfeddol yn gwylio’r ddawns awyr syfrdanol neu’r gwryw yn dod i mewn gyda’r ysglyfaeth i brofi ei werth i fenyw sy’n galw, gan ddiweddu drwy basio bwyd mewn modd trawiadol. Yna, dod o hyd i’r nyth o dan drwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru a gobeithio gweld pedwar neu bump pâr o lygaid yn syllu arnoch, tyfu ac yna yn cynyddu’r boblogaeth fregus.

Mae tynged y bodaod tinwyn sy’n nythu ar rostiroedd ac sy’n cael eu rheoli ar gyfer saethu gyredig grugieir coch wedi cael ei ddogfennu yn dda. Nid yw astudiaethau mawr yn yr Alban a Lloegr yn gadael unrhyw amheuaeth: mae’r boblogaeth yn cael ei llethu yn fawr yn yr Alban ac mae ar y ffordd i ddifodiant unwaith eto yn Lloegr drwy ladd anghyfreithlon. Mae erlid wedi achosi colli’r boda tinwyn yng Nghymru o’r blaen: rhwng 1910 a 1960, pan roddodd orau i fridio yn rheolaidd yng Nghymru ac ailgytrefodd yn araf yn ystod y 50 mlynedd canlynol. Fodd bynnag, gostyngodd y boblogaeth yng Nghymru o 57 pâr yn 2010 i 35 pâr yn 2016. Mae hynny’n ei wneud yn un o’r 5% o adar bridio prinnaf yng Nghymru.

Mae bodoad tinwyn yn adar symudol iawn. Mae cywion sy’n deor yng Nghymru yn crwydro yn eang yn ystod eu blwyddyn gyntaf, a gallan nhw fod yn ddioddefwyr troseddau mewn mannau eraill. Mae bodaod tinwyn a gafodd eu modrwyo yng Nghymru wedi cael eu gweld ar ôl hynny yn Lloegr, Yr Alban, Yr Iwerddon ac ar Ynys Manaw, a hyd yn oed yn Ffrainc, Sbaen a Phortiwgal. Mae adar ifainc yn wynebu pob math o heriau yn ystod eu blwyddyn gyntaf, wrth iddyn nhw ddysgu hela ac ymdopi â thywydd y gaeaf, fel na ddylem ddisgwyl i gyfran yn unig ohonyn nhw oroesi. Er hynny, mae dirywiad yn achosi pryder, ac mae’n arwydd nad yw popeth yn dda ar ucheldiroedd Cymru. Mae amcangyfrifon gan arbenigwyr cadwraeth yn awgrymu y dylai fod gan Gymru 250 pâr o fodoad tinwyn.

Mae tagiau lloeren ysgafn yn ein helpu ni ddeall beth sy’n digwydd i gywion sy’n magu plu yng Nghymru. Gosodwyd tagiau lloeren ar wyth o fodaod tinwyn o nythod yng ngogledd Cymru yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, gan gynnwys un o warchodfa RSPB Llyn Efyrnwy, fel rhan o brosiect LIFE Bodaod Tinwyn yr RSPB. O’r wyth, dim ond un sy’n parhau yn fyw; benyw, a lysenwyd yn ‘Bomber’ a ddeorodd yn Eryri yn 2019 a threuliodd ei gaeaf cyntaf yng ngogledd Sbaen. Dychwelodd i ogledd Cymru yn gynnar ym mis Mai, dod o hyd i gymar ac yn awr mae hi’n bwydo a magu rhai bach. Newyddion gwych!

Gyda’r saith arall, darganfuwyd corff pedwar ohonyn nhw – mae’r rhai hynny sydd yn Llydaw ac ym Mannau Brycheiniog yn ymddangos fel eu bod wedi marw o achosion naturiol. Mae achos marwolaeth yr un yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn anhysbys a darganfuwyd y pedwerydd yng nghanolbarth Cymru, roedd y corff wedi pydru gormod inni wybod sut y bu farw. Diflannodd dau o adar a gafodd eu tagio – un ym Mhowys a’r llall yn Exmoor – ac ni ddarganfuwyd eu cyrff o gwbl.  Cafodd y tag o’r wythfed aderyn ei ganfod yng ngogledd-ddwyrain Cymru ac mae’r achos hwn yn parhau i gael ei ymchwilio. Mae pryder mawr ynglŷn â diflaniad/marwolaeth y ddau aderyn a gafodd eu tagio o fewn ychydig filltiroedd o’i gilydd yng ngogledd-ddwyrain Cymru.

Bydd Diwrnod Bodaod Tinwyn Cymru yn dathlu’r aderyn ysglyfaethus hwn sy’n dawnsio yn yr awyr a bydd yn dangos bod pobl sy’n byw, gweithio ac ymweld â Chymru yn pryderu ynglŷn â beth sy’n digwydd i‘r adar prin hyn. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yna, rhwng 12yp a 4yp ar ddydd Sadwrn, 18 Gorffennaf. Mae’r rhaglen a’r manylion ar-lein yma.

Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am dalu am dagio’r bodoad tinwyn gydag offer lloeren yn ystod 2020 ac am rhannol-gyllido swyddogaeth y Swyddog Adar Ysglyfaethus eleni. Bydd y ddau yn ein helpu ni ddeall mwy am fodaod tinwyn yng Nghymru.